Prifysgol Aberystwyth yn arwyddo addewid Amser i Newid Cymru

Aberystwyth University and Students Union sign Time to Change Wales pledge to end stigma Cymraeg

27th November 2013, 12.52pm | Ysgrifenwyd gan Time to Change Wales

Y Brifysgol gyntaf yng Nghymru i arwyddo Addewid Iechyd Meddwl

Mae staff a myfyrwyr Prifysgol Aberystwyth yn arwain y ffordd i helpu i dorri'r distawrwydd ynghylch iechyd meddwl. Llofnododd y Brifysgol ac Undeb y Myfyrwyr addewid Amser i Newid Cymru, sy'n rhoi cynllun gweithredu at ei gilydd i roi diwedd ar y stigma a'r gwahaniaethu a wynebir gan bobl â phroblemau iechyd meddwl. Cafodd yr addewid yn cael ei lofnodi yn Undeb y Myfyrwyr gan Rebecca Davies, Dirprwy Is - Ganghellor y Brifysgol a Laura Dickens, Swyddog Lles Undeb y Myfyrwyr.

Yn ystod y digwyddiad, lansiwyd cymdeithas myfyrwyr Amser i Newid Cymru hefyd. Wedi ei sefydlu gan fyfyfyrwyr ar gyfer myfyrwyr, mae’r gymdeithas yn anelu codi ymwybyddiaeth ynglyn ag iechyd meddwl a mynd ati i hyrwyddo’r addewid ar draws y Brifysgol.

Meddai Rebecca Davies, Dirprwy Is – Ganghellor Prifysgol Aberystwyth: "Mae cydraddoldeb ac amrywiaeth wrth wraidd gweledigaeth y Brifysgol. Mae'r Brifysgol ac Undeb y Myfyrwyr yn cynnig gwasanaethau sy'n rhoi cymorth i bobl sy'n pryderu am faterion iechyd meddwl. Mae'r gwasanaethau hyn yn cynnwys cwnsela a chymorth lles sydd ar gael i holl fyfyrwyr a staff. Mae iechyd meddwl yn werthfawr ac rydym yn gweithio'n galed i gael gwared ar stigma a gwahaniaethu."

Meddai Laura Dickens, Swyddog Lles Undeb y Myfyrwyr: “Rwy'n falch iawn i lofnodi'r addewid gan y bydd y myfyrwyr yn gwybod bod eu Hundeb a'r Brifysgol yn barod i siarad am iechyd meddwl, ac rwy'n edrych ymlaen at weithio gyda staff ar y campws i weithredu’r addewid hwn "

Meddai Olymbia Petrou, Ymgynghorydd Cydraddoldeb y Brifysgol: “Prifysgol Aberystwyth yw'r brifysgol gyntaf yng Nghymru i lofnodi'r addewid hwn ac rydym yn falch o fod yn arwain y gwaith pwysig hwn. Mae ein hymrwymiad i godi ymwybyddiaeth o iechyd meddwl wedi bod drwy gydweithio gydag Undeb Myfyrwyr y Brifysgol a chyda'r nod o hybu ymwybyddiaeth iechyd meddwl.

Ychwanegodd Antony Metcalfe Rheolwr Rhaglen Amser i Newid Cymru:

"Rydym wrth ein bodd bod Prifysgol Aberystwyth ac Undeb Myfyrwyr Aberystwyth yn cymryd y camau hyn i roi terfyn ar stigma a chael pobl i siarad am iechyd meddwl. Er bod un o bob pedwar o bobl yn dioddef problemau iechyd meddwl, mae e’n dal i fod yn bwnc tabŵ, ag eto gall ambell air syml fel ‘sut wyt ti?’ wneud gwahaniaeth mawr.

Rydym yn gobeithio y bydd hyn yn ysbrydoli sefydliadau eraill i gymryd rhan a gweithio gydag Amser i Newid Cymru i roi terfyn ar stigma iechyd meddwl."

 

Efallai hoffech

Mae dros hanner (58%) o boblogaeth Cymru yn credu bod yna lawer iawn o gywilydd o hyd yn gysylltiedig â chyflyrau iechyd meddwl

Dyma pam mae Cynghrair Gwrth-Stigma y DU – partneriaeth rhwng elusennau iechyd meddwl ar draws y DU – wedi lansio ei hymgyrch Os yw hi’n Oce.

12th March 2024, 12.00am

Darganfyddwch fwy

Mae 68% o bobl Cymru yn cuddio y tu ôl i ‘wyneb dewr’ er mwyn osgoi siarad am iechyd meddwl

Mae data newydd yn datgelu tuedd sy’n peri pryder yng Nghymru, lle mae 68% o bobl yn gwisgo ‘wyneb dewr’ er mwyn osgoi siarad am eu hiechyd meddwl ar adegau anodd.

1st February 2024, 8.00am | Ysgrifenwyd gan Hanna

Darganfyddwch fwy