Mae 1 o bob 5 o bobl yng Nghymru yn teimlo bod eu rhwydwaith cymorth wedi lleihau a bod ganddyn nhw lai o bobl i siarad â nhw am eu hiechyd meddwl

Y canlyniadau data diweddaraf ar gyfer Diwrnod Amser i Siarad 2021.

4th February 2021, 9.00am | Ysgrifenwyd gan Hanna Yusuf

Mae ffigurau newydd sydd wedi'u cyhoeddi ar Ddiwrnod Amser i Siarad yn dangos bod 43% o ymatebwyr o'r farn bod eu rhwydwaith cymorth wedi lleihau am na allan nhw gwrdd a siarad wyneb yn wyneb, ac mae 41% o bobl yn teimlo bod hynny oherwydd eu bod nhw'n teimlo fel baich os byddan nhw'n rhannu problemau â phobl eraill. Fodd bynnag, mae 30% o ymatebwyr yn teimlo bod eu rhwydwaith cymorth yn llai am eu bod wedi'u hynysu o'u ffrindiau a'u teulu. 

Mae Rosie Moore, 24 oed, o Gaerdydd, yn esbonio'r effaith y mae'r cyfyngiadau symud wedi'u cael ar ei hiechyd meddwl:“Oherwydd fy iselder, gorbryder ac anhwylder obsesiynol cymhellol (OCD), rwy'n ynysu ac yn diogelu fy hun rhag unrhyw beth sy'n gwneud i fy iechyd meddwl waethygu, a hynny'n reddfol, sy'n gallu golygu fy mod i'n mynd i'n nghragen. Rwy'n poeni, hyd yn oed ar ôl i bob un ohonon ni gael ein brechu a phan fydd y pandemig wedi dod i ben, na fydda i'n gallu gweithredu yn yr un ffordd ag arfer, a bydd bob amser yn teimlo'n anniogel i mi adael y tŷ. 

Yn ogystal â hyn, meddyliau ymwthiol yw un o fy mhrif symptomau, lle mae delweddau meddyliol annymunol a theimladau bod rhywbeth gwael yn mynd i ddigwydd i mi neu fy anwyliaid yn llygru fy meddwl. Mae'r ffordd hon o feddwl wedi gwaethygu o ganlyniad i'r pandemig am fod fy nain a thaid wedi marw o COVID-19 haf diwethaf. Gwnaethon nhw farw o fewn ychydig wythnosau i'w gilydd, ac roedd y broses o'r ddau ohonyn nhw'n mynd i mewn i'r ysbyty a'r ffaith nad oedd modd eu gweld nhw yn anodd iawn.

Mae'r cyfyngiadau symud wedi bod yn ynysig ac yn unig iawn i mi. Er fy mod i wedi ceisio achub ar bob cyfle i gael sgwrs â fy nheulu a ffrindiau ar FaceTime, rwy'n ei chael hi'n anodd trafod fy iechyd meddwl â nhw ar-lein yn hytrach nag wyneb yn wyneb. Mae hefyd yn teimlo'n anoddach bod yn agored wrth i fwy o gyfyngiadau symud gael eu cyhoeddi. Dydy pobl ddim wir yn sylwi eich bod chi'n dioddef ar y cyfryngau cymdeithasol.”

Mae'r arolwg hefyd wedi dangos nad yw 1 o bob 5 o'r rhai sy'n gweithio neu'n astudio yng Nghymru wedi cymryd unrhyw amser i ffwrdd ar gyfer eu hiechyd meddwl, er eu bod wedi teimlo bod angen iddyn nhw wneud hynny, ac mae hyn yn peri pryder. Mae'r canfyddiadau pryderus hyn yn atgyfnerthu ein neges am bwysigrwydd siarad yn agored am iechyd meddwl. 

Mae Alex Osborne, 30 oed, o Gaerffili, wedi wynebu gorbryder wrth chwilio am waith yn ystod y pandemig: Roedd yn rhaid i mi warchod fy hun ar ddechrau'r cyfyngiadau symud cyntaf, a daeth fy nghontract cyflogaeth i ben ar yr un pryd. Roedd bod allan o waith yn gwneud i mi deimlo'n isel, ond o ganlyniad i'r tywydd braf ar y pryd, roeddwn i wedi gallu treulio 3 mis yn garddio, a wnaeth helpu i leihau fy ngorbryder yn fawr. Fodd bynnag, roedd yn bwysig i mi gymryd yr awenau a dechrau chwilio am waith. 

Wrth i mi chwilio am swyddi a mynd i gyfweliadau, sylwais fod rhai sefydliadau yn gofyn a ddylwn i fod yn gweithio yn ystod y pandemig am fy mod i'n cael fy ystyried yn fregus yn glinigol. Gwaethygodd fy ngorbryder oherwydd roeddwn i'n teimlo eu bod nhw'n ailadrodd y farn gyhoeddus, sef y dylwn i gloi fy hun i ffwrdd. Yn ffodus, rydw i wedi dod o hyd i swydd ystyrlon lle maen nhw'n deall fy anghenion ac wedi fy nghefnogi yn ystod fy amser yno hyd yma."

Gall problemau iechyd meddwl effeithio ar un o bob pedwar ohonon ni, felly mae'n bwysig ein bod ni'n gallu siarad amdanyn nhw. Mae arolwg Amser i Newid Cymru hefyd wedi darganfod bod siarad yn agored am iechyd meddwl yn gwneud gwahaniaeth cadarnhaol, gyda 9 o bob 10 yn teimlo eu bod wedi'u cefnogi llawer neu ychydig pan fyddan nhw wedi siarad â rhywun am eu hiechyd meddwl.

Mae Diwrnod Amser i Siarad yn ddigwyddiad blynyddol yn y DU sy'n annog pawb i fod yn fwy agored am iechyd meddwl – i siarad, i wrando ac i wneud gwahaniaeth. Rydyn ni am annog pawb yng Nghymru i herio'r stigma sy'n gysylltiedig ag iechyd meddwl a siarad amdano'n agored.

Mae'r thema eleni yn canolbwyntio ar bŵer y pethau bach – oherwydd sut bynnag y byddwch chi'n cael sgwrs am iechyd meddwl – boed hynny drwy neges gyflym i ffrind neu gydweithiwr, bore coffi rhithiol, neu fynd am dro a chael sgwrs gan gadw pellter cymdeithasol – mae ganddo'r pŵer i wneud gwahaniaeth mawr.

Mae Amser i Newid Cymru hefyd yn gweithio mewn partneriaeth â Ramblers Cymru i danlinellu pwysigrwydd gofalu am eich lles meddyliol a'ch iechyd corfforol drwy gerdded a siarad. Weithiau mae'n haws cael sgwrs am iechyd meddwl pan fyddwch chi'n gwneud rhywbeth egnïol fel cerdded mewn parc lleol.

Dywedodd Angela Charlton, Cyfarwyddwr Ramblers Cymru: “Mae tystiolaeth yn dangos bod cadw'n heini, a chysylltu â byd natur a phobl eraill yn cael effaith gadarnhaol ar iechyd meddwl a lles meddyliol. Mae cerdded hefyd yn ffordd berffaith o greu sefyllfa i gael sgwrs ag eraill a bod yn agored. Felly, beth am dreulio amser yn darganfod y mannau gwyrdd lleol a'r byd natur sydd ar garreg ein drws a gofyn i'n gilydd, sut wyt ti go iawn?”

Dywedodd Lowri Wyn Jones, Rheolwr Rhaglen Amser i Newid Cymru: “Mae'r flwyddyn ddiwethaf wedi bod yn anodd ac mae'n bosibl bod mwy o bobl wedi sylweddoli y gall pob un ohonon ni gael problemau iechyd meddwl o bryd i'w gilydd. Mae gormod ohonon ni'n cael ein gwneud i deimlo'n ynysig, i deimlo'n ddiwerth ac i deimlo cywilydd oherwydd hyn. Gadewch i ni achub ar y cyfle hwn i sicrhau bod pob un ohonon ni'n teimlo'n gyfforddus yn siarad am iechyd meddwl.

Mae'n hawdd meddwl na allwn ni newid pethau. Ond gall llawer o sgyrsiau ‘bychain’ wneud gwahaniaeth mawr wrth fynd i'r afael â'r stigma a'r gwahaniaethu y mae gormod o bobl yn eu hwynebu o hyd oherwydd eu hiechyd meddwl. Felly, chwaraewch eich rhan ar Ddiwrnod Amser i Siarad eleni – anfonwch neges destun, cysylltwch â rhywun, dechreuwch sgwrs. Mae'n gyfle i bob un ohonon ni fod yn fwy agored am iechyd meddwl.”

Er mwyn annog sgyrsiau cefnogol am iechyd meddwl, mae Amser i Newid Cymru wedi llunio cyngor defnyddiol i unrhyw un sydd am gysylltu â rhywun agos ar Ddiwrnod Amser i Siarad. 

  1. Gofynnwch gwestiynau a gwrandewch; “Sut mae'n effeithio arnat ti?” neu “Sut mae'n teimlo?”
  2. Meddyliwch am yr amser a'r lleoliad; weithiau mae'n haws siarad ochr yn ochr. Rhowch gynnig ar wneud rhywbeth arall wrth gael sgwrs, fel cerdded.
  3. Peidiwch â cheisio datrys y broblem; dylech wrthod yr awydd i gynnig atebion cyflym, yn aml mae gwrando yn ddigon.

Ddydd Iau 4 Chwefror, bydd gweithleoedd ac unigolion yng Nghymru yn cymryd rhan yn Niwrnod Amser i Siarad. Yn sgil y cyfyngiadau presennol ar ein bywydau, bydd llawer o weithgareddau Diwrnod Amser i Siarad yn cael eu cynnal yn rhithiwr eleni. I gael rhagor o wybodaeth am sut i gymryd rhan yn Niwrnod Amser i Siarad, ewch i: www.timetochangewales.org.uk/cy/ymgyrchoedd/diwrnod-amser-siarad-2021/

Ymunwch â'r sgwrs ar-lein drwy ddefnyddio'r hashnod #amserisiarad ar: 

Efallai hoffech

Mae dros hanner (58%) o boblogaeth Cymru yn credu bod yna lawer iawn o gywilydd o hyd yn gysylltiedig â chyflyrau iechyd meddwl

Dyma pam mae Cynghrair Gwrth-Stigma y DU – partneriaeth rhwng elusennau iechyd meddwl ar draws y DU – wedi lansio ei hymgyrch Os yw hi’n Oce.

12th March 2024, 12.00am

Darganfyddwch fwy

Mae 68% o bobl Cymru yn cuddio y tu ôl i ‘wyneb dewr’ er mwyn osgoi siarad am iechyd meddwl

Mae data newydd yn datgelu tuedd sy’n peri pryder yng Nghymru, lle mae 68% o bobl yn gwisgo ‘wyneb dewr’ er mwyn osgoi siarad am eu hiechyd meddwl ar adegau anodd.

1st February 2024, 8.00am | Ysgrifenwyd gan Hanna

Darganfyddwch fwy