Hyfforddiant Hyrwyddwr i Gyflogeion

Os ydych chi'n un o Gyflogwyr Ymrwymedig Amser i Newid Cymru a bod gennych chi ddiddordeb mewn penodi Hyrwyddwr yn y gweithle, rydyn ni'n cynnig Hyfforddiant rhithwir ar gyfer Hyrwyddwr i Gyflogeion dros Zoom i Sefydliadau Ymrwymedig.

Os ydych chi'n un o Gyflogwyr Ymrwymedig Amser i Newid Cymru a bod gennych chi ddiddordeb mewn penodi Hyrwyddwr yn y gweithle, rydyn ni'n cynnig Hyfforddiant rhithwir ar gyfer Hyrwyddwr i Gyflogeion dros Zoom i Sefydliadau Ymrwymedig.

Mae'r hyfforddiant rhithiol hwn ar gael i'n holl sefydliadau ymrwymedig yn rhad ac am ddim. Fel arfer, mae'n hyfforddiant wyneb yn wyneb sy'n para hanner diwrnod, ond rydyn ni bellach yn cynnig sesiynau rhithiol – naill ai mewn sesiwn dwy awr a hanner (yn cynnwys egwyl o 10 munud hanner ffordd drwodd) neu ddwy sesiwn awr a chwarter yr un dros ddau ddiwrnod.

Caiff y sesiynau hyn eu cyflwyno dros Zoom neu Microsoft Teams fel arfer, ond rydyn ni'n hyblyg ac yn hapus i chi ddefnyddio eich hoff lwyfan, ar yr amod y gallwn rannu ein sgriniau.

Mae hyfforddiant Hyrwyddwr i Gyflogeion Amser i Newid Cymru yn rhaglen sydd â'r nod o baratoi darpar Hyrwyddwyr i Gyflogeion i hyrwyddo neges Amser i Newid Cymru, sef herio'r stigma a'r gwahaniaethu sy'n gysylltiedig ag iechyd meddwl yn y gweithle. Mae hefyd yn helpu i baratoi Hyrwyddwyr i Gyflogeion i ddatblygu mentrau er mwyn gwella llesiant meddyliol yn eu gweithleoedd.

Mae Hyrwyddwyr i Gyflogeion yn hollbwysig i'r gwaith o herio stigma a gwella dealltwriaeth o iechyd meddwl yn y gweithle. Bydd ein hyfforddiant yn rhoi'r hyn sydd ei angen ar Hyrwyddwyr i Gyflogeion nid yn unig i gynnal gweithgareddau ymgyrch cadarnhaol – popeth o arddangos poster i drefnu digwyddiad diwrnod llawn sy'n gysylltiedig ag iechyd meddwl – ond hefyd i annog dealltwriaeth well o iechyd meddwl ymhlith cydweithwyr.

Hefyd, fel cyflogwr sydd wedi llofnodi Addewid Sefydliadol Amser i Newid Cymru, mae cael Hyrwyddwyr i Gyflogeion yn dangos yn glir eich ymrwymiad i greu gweithle sy'n rhydd o stigma iechyd meddwl a gwahaniaethu.

Yr hyn nad yw'r hyfforddiant yn ei gynnig:

  • Paratoi i fod yn Swyddog Cymorth Cyntaf Iechyd Meddwl
  • Hyfforddiant i fod yn gwnselydd
  • Hyfforddiant Ymwybyddiaeth Iechyd Meddwl

Beth fydd y rôl yn ei gynnwys?

  • Diben rôl Hyrwyddwr i Gyflogeion yw helpu i weithredu a chefnogi Cynllun Gweithredu Ymrwymedig Amser i Newid Cymru eich Sefydliad drwy godi ymwybyddiaeth o weithgareddau llesiant ym mhob rhan o'ch sefydliad, a hyrwyddo ffyrdd iach o fyw ac iechyd meddwl cadarnhaol.
  • Bydd hyrwyddwyr yn adnabod eu meysydd gwaith a'u cydweithwyr felly byddant mewn sefyllfa dda i wybod beth fydd yn gweithio orau yn yr amgylchedd hwnnw a dewis adnoddau sy'n cyd-fynd â'u hamgylcheddau lleol.

Gall rôl Hyrwyddwr i Gyflogeion gynnwys:

•       Hyrwyddo gweithgareddau mewn ardaloedd lleol.

•       Annog cydweithwyr i achub ar gyfleoedd iechyd a llesiant perthnasol a chasglu data ar weithgarwch.

•       Rhannu arferion gorau a straeon o lwyddiant.

Gofynion ar gyfer y rôl:

  • Brwdfrydedd a diddordeb mewn llesiant yn gyffredinol, ond iechyd meddwl yn benodol, er mwyn gwella'r amgylchedd gwaith a chefnogi'r gwaith o ymgysylltu.
  • Bod yn hawdd mynd atoch ac yn barod i helpu.
  • Dealltwriaeth sylfaenol o ffyrdd iach o fyw, hybu iechyd a chyfeirio at sefydliadau defnyddiol eraill.
  • Bod yn awyddus i gael y wybodaeth ddiweddaraf am weithgareddau Rhaglen Llesiant eich Sefydliad, mynychu digwyddiadau hyfforddiant/cyfarfodydd o bryd i'w gilydd a chyd-weithio ag eraill.

Sut i gofrestru:

Os yw hyn yn rhywbeth yr hoffech chi gymryd rhan ynddo, e-bostiwch pledge@timetochangewales.org.uk

Mwy o wybodaeth

Gwneud eich gweithle yn iach

Gwneud eich gweithle yn iach

Mae llawer o ffyrdd y gallwch wneud eich gweithle yn iachach i'ch cyflogeion.

Darganfyddwch fwy
Helpu cyflogeion i ddychwelyd i'r gwaith

Helpu cyflogeion i ddychwelyd i'r gwaith

Gyda'r help cywir, gall pobl sydd â phroblemau iechyd meddwl barhau i weithio ac mae hyn yn digwydd.

Darganfyddwch fwy
Cyngor Adnoddau Dynol Arbenigol ar broblemau iechyd meddwl

Cyngor Adnoddau Dynol Arbenigol ar broblemau iechyd meddwl

Gall Adnoddau Dynol chwarae rôl hanfodol o ran creu gweithle iach.

Darganfyddwch fwy