Amser i Newid Cymru a Phartneriaeth EYST

Mae Amser i Newid Cymru wedi partner ag EYST (Tîm Cymorth Ieuenctid Ethnig) i ymgysylltu'n well â chymunedau amrywiol yng Nghmru

28th June 2021, 1.24pm | Ysgrifenwyd gan Hanna Yusuf

Mae Amser i Newid Cymru, ymgyrch genedlaethol i roi diwedd ar stigma a gwahaniaethu sy'n gysylltiedig ag iechyd meddwl, wedi creu partneriaeth ag EYST (Tîm Cymorth Ieuenctid Ethnig) i gyrraedd ac ymgysylltu'n well â chymunedau Duon, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig yng Nghymru ac ymestyn gwaith gwrthstigma yr ymgyrch. 

Dros y flwyddyn nesaf, bydd y bartneriaeth strategol hon yn galluogi Amser i Newid Cymru i gyfuno ei harbenigedd o ran cyflwyno mentrau newid ymddygiad ledled Cymru ag arbenigedd, dealltwriaeth ac ymgysylltiad eang EYST â chymunedau lleiafrifoedd ethnig. 

Bydd y cydweithio hwn hefyd yn golygu archwilio profiadau uniongyrchol ac anghenion unigolion o gymunedau Duon, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig yng Nghymru mewn perthynas â stigma a gwahaniaethu sy'n gysylltiedig ag iechyd meddwl. Bydd hyn yn helpu i lywio datblygiad ein rhaglen a'n camau nesaf. 

Yn ddiweddar, mae Amser i Newid Cymru wedi cael arian gan Lywodraeth Cymru tan fis Mawrth 2022, ac un o'r meysydd newydd â blaenoriaeth yw ymchwilio i brofiadau ac anghenion unigolion o gymunedau Duon, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig yng Nghymru. Drwy'r ymarfer gwrando cynhwysfawr hwn, mae Amser i Newid Cymru yn gobeithio cynrychioli anghenion a safbwyntiau unigolion o gefndiroedd amrywiol yn well. 

Dywedodd Lowri Wyn Jones, Rheolwr Rhaglen Amser i Newid Cymru“Rydym yn falch iawn o weithio mewn partneriaeth ag EYST i gyflawni ein huchelgais i fynd i'r afael â stigma a gwahaniaethu sy'n gysylltiedig ag iechyd meddwl o fewn cymunedau amrywiol yng Nghymru. 

Mae'n bwysig cydnabod, mewn rhai cymunedau, nad yw sgyrsiau am broblemau iechyd meddwl yn digwydd yn aml iawn,  a gall hyn atal pobl rhag bod yn agored a chael gafael ar y cymorth iechyd meddwl cywir. Felly, mae ein partneriaeth ag EYST yn hanfodol, nid yn unig er mwyn mynd i'r afael â'r stigma, ond hefyd i gynnig llwyfan ac annog deialog ddiogel a chefnogol am iechyd meddwl.”

Dywedodd Rocio Cifuentes, Prif Swyddog Gweithredol EYST: “Rydym yn falch iawn o fod wedi cael ein gwahodd i gefnogi'r gwaith pwysig hwn sy'n helpu i wneud iechyd meddwl yn rhywbeth y gall yr holl gymunedau sy'n byw yng Nghymru deimlo y gallant siarad amdano, a cheisio cymorth ar ei gyfer, heb ofni stigma na gwahaniaethu. Mae Amser i Newid Cymru eisoes yn ymgyrch lwyddiannus sydd wedi newid agweddau'r cyhoedd yng Nghymru, a byddwn yn defnyddio ein rhwydweithiau i'w helpu i gyrraedd pob cwr o Gymru ac amrywiaeth o bobl ar draws grwpiau oedran, diwylliannau a chefndiroedd ymfudo.”

Efallai hoffech

Mae dros hanner (58%) o boblogaeth Cymru yn credu bod yna lawer iawn o gywilydd o hyd yn gysylltiedig â chyflyrau iechyd meddwl

Dyma pam mae Cynghrair Gwrth-Stigma y DU – partneriaeth rhwng elusennau iechyd meddwl ar draws y DU – wedi lansio ei hymgyrch Os yw hi’n Oce.

12th March 2024, 12.00am

Darganfyddwch fwy

Mae 68% o bobl Cymru yn cuddio y tu ôl i ‘wyneb dewr’ er mwyn osgoi siarad am iechyd meddwl

Mae data newydd yn datgelu tuedd sy’n peri pryder yng Nghymru, lle mae 68% o bobl yn gwisgo ‘wyneb dewr’ er mwyn osgoi siarad am eu hiechyd meddwl ar adegau anodd.

1st February 2024, 8.00am | Ysgrifenwyd gan Hanna

Darganfyddwch fwy