Astudiaeth Achos: Cefnogi lles meddyliol staff yn ystod COVID-19

Gyda'r newid annisgwyl i orfod ynysu a gweithio gartref, sut ydych chi wedi bod yn hyrwyddo lles yn eich gweithle?

21st April 2020, 12.30pm | Ysgrifenwyd gan Tom

Mae Tom Roberts, Cyfarwyddwr Cydymffurfiaeth ac Adnoddau Dynol o The Niche Group, yn rhannu'r ffordd maen nhw wedi bod yn cefnogi llesiant eu staff yn ystod y pandemig. Mae hyn yn cynnwys sicrhau bod Hyrwyddwyr Cyflogeion ar gael i drafod unrhyw bryderon iechyd meddwl, gan roi Polisi Iechyd Meddwl cynhwysfawr ar waith a chynnal digwyddiadau cymdeithasol rhithwir er mwyn cysylltu'r cwmni.

Pam y gwnaethom lofnodi'r addewid

Byddwn yn llofnodi'r addewid fel ymrwymiad i'n cydweithwyr o'r camau rydym yn eu cymryd i sicrhau ein bod yn rhoi blaenoriaeth i iechyd meddwl a llesiant cyflogeion. Mae hyn wedi dod yn fwyfwy perthnasol yn ddiweddar yn sgil pandemig COVID, sy'n golygu bod 50 o'n cydweithwyr yn gweithio o gartref, gan gydbwyso'r heriau sy'n gysylltiedig ag addasu i ffordd wahanol o weithio gyda'u bywydau cartref a'u cyfrifoldebau gofal plant. Mae ein hymrwymiad i sicrhau ymwybyddiaeth o iechyd meddwl yn dechrau ar lefel uchaf ein busnes, ac mae ein Bwrdd yn trafod ein cyfrifoldebau am ein cydweithwyr bob wythnos ar hyn o bryd.

Rydym wedi gorfod gohirio ein digwyddiad ffisegol i lofnodi'r addewid am y tro, ond rydym yn edrych ymlaen yn fawr at ei aildrefnu pan fydd y digwyddiadau presennol drosodd, neu hyd yn oed drefnu digwyddiad llofnodi rhithwir. Ond hyd yn oed heb lofnodi'r addewid, rydym wedi croesawu ysbryd y cynllun addewid.

Sut i hyrwyddo ymwybyddiaeth o iechyd meddwl

Mae gennym dîm o Hyrwyddwyr i Gyflogeion a fydd yn cael hyfforddiant ymwybyddiaeth o iechyd meddwl (pan fydd y ffactorau allanol yn caniatáu hynny), a chafodd ein tîm o uwch-reolwyr hyfforddiant yn gynharach eleni. Mae gennym gynllun mewnol sef Your Niche, sy'n rhoi cyfoeth o wybodaeth ac adnoddau i'n cydweithwyr ar-lein – mae hefyd yn ein galluogi i roi trefn ar ein digwyddiadau cymdeithasol (ac mae gennym galendr prysur iawn, hyd yn oed gyda COVID!). Mae Your Niche yn cynnwys adnoddau ar iechyd meddwl a llesiant, gwybodaeth gan gydweithwyr yn cynnwys awgrymiadau ar sut i reoli straen a gorbryder, a Chynllun Gweithredu ar Les. Mae hefyd yn cynnig adnoddau ar COVID, yn benodol ein polisi gweithio gartref a roddwyd ar waith yn ddiweddar.

Mae'r adnoddau iechyd meddwl a gynigir drwy Your Niche yn cynnwys Polisi Iechyd Meddwl newydd a chynhwysfawr (yn cynnwys y Cynllun Gweithredu ar Les). Mae ein Hyrwyddwyr wedi llunio'r rhain gyda mewnbwn gan bartïon allanol proffesiynol, ynghyd ag arolwg mynegai Iechyd a Hapusrwydd diweddar a gynhaliwyd â'n holl gydweithwyr. Cwblhawyd yr arolwg yn gwbl ddienw gan ein galluogi i gasglu gwybodaeth ragorol am deimladau ein timau – un o'r prif bethau a amlygwyd oedd bod angen gwell cyfathrebu yn gyffredinol, sy'n rhywbeth y gwnaethom ddechrau gweithio arno ar unwaith, ac mae porth Your Niche wedi ein galluogi i gyflawni hyn drwy ffyrdd amrywiol, yn cynnwys rhannu blog rheolaidd.

Rydym yn gwneud llawer fel cwmni i ofalu am lesiant meddwl pawb, ac mae ein digwyddiadau cymdeithasol yn rhan enfawr o hyn. Yn gynharach eleni, gwnaethom gynnal gweithgareddau bowlio a thagio laser gyda 30+ o'n cydweithwyr, ac ers cyfyngiadau symud COVID, rydym wedi bod yn trefnu cwisiau rhithwir ac oriau hapus yn ein "tafarn rithwir" – rydym hyd yn oed yn bwriadu datblygu ein digwyddiadau i lefel newydd, a byddwn yn cynnal Bingo rhithwir, a Who Wants To Be a Millionaire dros yr wythnosau i ddod.

Mae ein tîm o Hyrwyddwyr bob amser ar gael i'n cydweithwyr drafod unrhyw bryderon iechyd meddwl a allai fod ganddynt, ac rydym yn bwriadu cynnal sesiynau "Cinio a Dysgu" rheolaidd ar bynciau amrywiol, yn cynnwys iechyd meddwl a llesiant. Mae ein tîm o uwch-reolwyr hefyd yn sicrhau eu bod ar gael ac yn cysylltu â'n cydweithwyr yn rheolaidd, er mwyn gweld a ydynt yn iawn (yn ogystal â holi ynghylch eu llesiant mewn adolygiadau perfformiad rheolaidd).

Hoffem feddwl nad yw ein gwaith yn rhoi gormod o straen ar unigolion, ond rydym yn gwerthfawrogi bod pawb yn gweithio mewn ffyrdd gwahanol, ac felly rydym yn annog ein cydweithwyr i dreulio amser i ffwrdd o'u desgiau yn ystod y diwrnod er mwyn clirio eu pennau, boed hynny dros ginio, yn ein caffi cymunedol, neu yn un o'n "cwtches".

Sut mae hyn yn helpu'r gweithle

Mae ein hymdrechion i annog ein cydweithwyr i drafod iechyd meddwl yn helpu mewn sawl ffordd. Mae wedi helpu i wella a newid y safbwyntiau a'r stereoteipio sy'n gysylltiedig â salwch meddwl, ac mae'n sicrhau bod ein holl gydweithwyr yn teimlo y gallant siarad â phobl os byddant yn cael trafferth ymdopi. Mae ymwybyddiaeth wedi cael ei rhannu yn gyffredinol ac wedi cael ei hymgorffori yn ein polisïau sefydliadol, fel bod ein holl gydweithwyr ac uwch-reolwyr yn ymwybodol o'r arferion gweithio a roddwyd ar waith gennym. Yn ogystal â llesiant corfforol a phresenoldeb cyflogeion yn y gweithle, mae llesiant meddwl hefyd yn bwysig i ni – mae ein haddewid yn helpu i sicrhau bod gennym dîm o bobl hapus sy'n deyrngar ac yn gweithio'n galed, ac sy'n gwybod bod rhwydwaith cymorth ar gael iddynt os bydd angen.

Efallai hoffech

Mae dros hanner (58%) o boblogaeth Cymru yn credu bod yna lawer iawn o gywilydd o hyd yn gysylltiedig â chyflyrau iechyd meddwl

Dyma pam mae Cynghrair Gwrth-Stigma y DU – partneriaeth rhwng elusennau iechyd meddwl ar draws y DU – wedi lansio ei hymgyrch Os yw hi’n Oce.

12th March 2024, 12.00am

Darganfyddwch fwy

Mae 68% o bobl Cymru yn cuddio y tu ôl i ‘wyneb dewr’ er mwyn osgoi siarad am iechyd meddwl

Mae data newydd yn datgelu tuedd sy’n peri pryder yng Nghymru, lle mae 68% o bobl yn gwisgo ‘wyneb dewr’ er mwyn osgoi siarad am eu hiechyd meddwl ar adegau anodd.

1st February 2024, 8.00am | Ysgrifenwyd gan Hanna

Darganfyddwch fwy