Cynnal digwyddiad gwrth-stigma
Nid oes gwahaniaeth p'un a yw eich cynlluniau'n fawr neu'n fach - os ydych yn barod i ddechrau arni, dilynwch ein cynllun pum cam syml...
Mae sicrhau bod eich uwch reolwyr yn cefnogi eich gweithgarwch Amser i Newid Cymru yn lle gwych i ddechrau. Mae hefyd yn anfon neges gref i staff ar draws y sefydliad bod y rheolwyr yn ymrwymedig i leihau'r stigma a'r gwahaniaethu yn y gweithle a'r boblogaeth ehangach.
Bydd cefnogaeth gan gyflogeion eraill yn rhoi hwb i'ch gweithgareddau a dod ag Amser i Newid Cymru yn fyw yn eich sefydliad. Gwyddom fod siarad am iechyd meddwl yn un o'r ffyrdd gorau o fynd i'r afael â gwahaniaethu, felly mae eich gweithle eich hun yn lle gwych i ddechrau arni.
Mae gweithgareddau'n mynd rhagddynt ledled Cymru. Mae ymuno â sefydliadau eraill a digwyddiadau lleol sydd eisoes wedi'u trefnu yn golygu y gallwch rannu syniadau, adnoddau a rhwydweithiau a chynnwys hyd yn oed mwy o bobl.
Byddwch yn ymwybodol na fydd pobl am fod yn bresennol mewn digwyddiad a gaiff ei frandio fel 'digwyddiad iechyd meddwl'. Felly ceisiwch hyrwyddo neges Amser i Newid Cymru mewn gwahanol fathau o ddigwyddiadau, fel gwyliau a ffeiriau lleol, lle gallwch gael cyfle i gyrraedd pobl na fyddai o reidrwydd wedi dod i ddigwyddiad iechyd meddwl.
Gweld beth sy'n digwydd yn eich ardal.
Cyn penderfynu ar y math o weithgarwch y byddwch yn ei wneud, gofynnwch y cwestiynau canlynol i chi eich hun:
Meddyliwch am:
Peidiwch ag anghofio cynnwys pobl sydd â phrofiad personol o iechyd meddwl yn eich gweithgarwch - mae dod â phobl sydd â phrofiad personol ac sydd heb brofiad personol at ei gilydd yn ffordd wych o leihau stigma a gwahaniaethu. Dysgwch sut y gallwch greu cyfleoedd i bobl gymdeithasu yn eich digwyddiadau.
I ddechrau, beth am gael ysbrydoliaeth drwy ddod o hyd i'r hyn y mae sefydliadau wedi'i wneud.
Yna: Penderfynwch ar eich gweithgarwch
Mae gwerthuso eich gweithgarwch yn eich galluogi i ddangos effaith eich gweithgarwch i bawb sy'n cymryd rhan yn y prosiect - ac i ddarpar noddwyr gweithgareddau eraill.
Mae hefyd yn eich galluogi i ddysgu o'r hyn a weithiodd ac, yn bwysicach, yr hyn na weithiodd ar gyfer gweithgareddau yn y dyfodol.
I gynnal gwerthusiad effeithiol, bydd angen i chi fod yn ymwybodol o ddeilliannau dymunol eich prosiect ac mae llawer o ffyrdd o fesur eich llwyddiant.
Rhannwch eich gwerthusiad gyda ni - bydd yn ein helpu i gasglu tystiolaeth am yr hyn sy'n gweithio a'r hyn nad yw'n gweithio o ran lleihau stigma a rhoi diwedd ar wahaniaethu.
Ewch i ddigwyddiad lleol neu helpwch ni i herio stigma drwy redeg eich digwyddiad eich hun.
Darganfyddwch fwyHyrwyddwyr yw'r bobl sydd â phrofiad o broblemau iechyd meddwl ac sy'n arwain yr ymgyrch.
Darganfyddwch fwyDangos ymrwymiad eich sefydliad i herio'r stigma drwy lofnodi ein haddewid sefydliadol
Darganfyddwch fwy