Adnoddau Diwrnod Amser i Siarad 2021
Dyma'ch pecyn cymorth ymgyrch ar gyfer Diwrnod Amser i Siarad 2021!
Dyma'ch pecyn cymorth ymgyrch ar gyfer Diwrnod Amser i Siarad 2021! Isod, fe welwch adnoddau parod i'w hargraffu ac adnoddau digidol. Gellir argraffu'r ffeiliau parod i'w hargraffu naill ai yn y swyddfa neu'n broffesiynol. Gellir lawrlwytho'r adnoddau digidol a'u lanlwytho i'ch llofnod e-bost, proffiliau cyfryngau cymdeithasol ac mae hyd yn oed cefndir Zoom ar thema Diwrnod Amser i Siarad ar gael eleni!
Mae'r pecyn ar gyfer Cymunedau wedi'i anelu at hyrwyddwyr ac unigolion sy'n dymuno cefnogi Diwrnod Amser i Siarad. Mae'r pecyn ar gyfer Cyflogwyr i sefydliadau. Mae'r cynnwys yn amrywio ym mhob pecyn ac mae'r ddau yn llawn syniadau o ran sut i ddefnyddio'r adnoddau a threfnu gweithgareddau ar gyfer Diwrnod Amser i Siarad. Os oes gennych unrhyw gwestiynau am sut i ddefnyddio'r cynnwys isod, e-bostiwch: info@timetochangewales.org.uk