Eiriolwyr

Y rhaglen fwya pwerus a welish i mewn amser hir

Roedd rhaglen 1 o bob 4 yn rhan o raglenni Wythnos Iechyd Meddwl ar S4C a noddwyd gan Amser i Newid Cymru. Bethan sydd yn adolygu'r rhaglen o safbwynt Eiriolwr Amser i Newid Cymru.

15th May 2014, 12.50pm | Ysgrifenwyd gan Bethan

Neithiwr, neshi ddal sioe dda ar S4C, ser y sioe oedd Carolynn Morris, Sara Powys a Gavin Walker.  

Anhebyg i chi glywed am y ser hyn, gan mai bobl bob dydd oeddynt, ond y rhaglen fwya pwerus a welish i mewn amser hir.   

Roedd rhaglen 1 o bob 4 yn rhan o raglenni Wythnos Iechyd Meddwl ar S4C a noddwyd gan Amser i Newid Cymru.  Arwyddocad y ‘1 o bob 4’ yw mewn unrhyw flwyddyn, bydd 1 ym mhob 4 ohonom yn profi problem iechyd meddwl.  
 
Bu Carolynn yn rhannu ei phrofiad o fod yn ofalwr i’w mab sydd a problem iechyd diddrifol sgitsoffrenia.  Roedd ei chariad fel mam iddo yn amlwg a digon gwir oedd hi yn rhannu ei bod ni fel pobl yn llawr cysur a chydymdeimlad os mae rhywyn yn diodde o salwch corfforol fel cleddyf siwgr neu gancr ac yn barod i holi am sut mae’r gofalwr yn ymdopi ond pa mor parod ydym i ofyn os ma unigolyn yn gofalu am rhywyn a salwch meddwl?  
 
Yna, bu Sara yn trafod y profiad o iselder a phryder yn dilyn genedigaeth ei mab.  Roedd Sara yn son am amser lle bu yn ddewr a rhannu ei phrofiad, pan mewn sesiwn gwybodaeth i famau.  Yn anffodus, roedd stigma mawr a tawelwch nes fysa modd glwyed pin yn disgyn yn y ‘stafell.  Mae 9 o bob 10 yn profi stigma neu gwahaniaethu ar sail iechyd meddwl, mae’n amser newid hyn.  
 
Roeddwn yn gallu uniaethu llawer a’r hyn oedd gan Gavin i’w rannu.  Bu iddo ddiodde o iselder a chael cyfnoda’ isel iawn lle bu’n meddwl fuasai bywyd pobl eraill yn well hebddo.  Yn yr amser tywyll hwn, roedd yn annodd iddo weld unrhyw oleuni.  Fuasai’n gallu neud cant peth da a un peth dim cystad, ond yr un peth drwg fuasai yn dal ei sylw a rhoi ei feddwl ar hwn yn unig.  Dangosodd Gavin fod profiad a amser yn helpu i dod i dermau efo diodde salwch meddwl – a bod llawer o bobl yn mynd drwy problemau, 1 o bob 4.   
 
Diolch i’r bobl hyn oedd digon dewr i rannu eu storia personol i godi ymwybyddiaeth am iechyd meddwl.  Mae rhannu fy mhrofiada’ drwy ymgyrch Amser i Newid Cymru wedi bod yn rhan allweddol o’n adferiad personol.  Os hoffech chi wybod mwy am fod yn Eiriolwr i Amser i Newid Cymru, cliciwch yma!   
 
Mae Bethan yn Eiriolwr i Amser i Newid Cymru. Mi allwch wylio 1 o bob 4 yma

Efallai hoffech

Gwena a Chwyd dy Law

Mae Naomi yn siarad am bwysigrwydd dweud yn union sut rydych chi'n teimlo pan fydd rhywun yn gofyn ‘Sut wyt ti?’ a'r holl ffyrdd y gallwch chi ateb y cwestiwn hwnnw.

20th February 2024, 8.47am | Ysgrifenwyd gan Naomi

Darganfyddwch fwy

Siarad, siarad, siarad!

Mae Samuel yn pwysleisio pwysigrwydd siarad am eich iechyd meddwl, yn enwedig ar adegau anodd, a sut mae siarad wedi achub ei fywyd.

20th February 2024, 8.43am | Ysgrifenwyd gan Samuel

Darganfyddwch fwy