Diwrnod Atal Hunanladdiad y Byd: Stori Mark

Ar WSPD, mae Mark yn siarad am lawer o ffyrdd y gallwn estyn allan a chefnogi rhywun mewn angen.

1st September 2020, 1.00pm | Ysgrifenwyd gan Mark Smith

**I nodi Diwrnod Atal Hunanladdiad y Byd, byddwn yn cynnwys straeon dewr rhai Hyrwyddwyr sydd wedi goroesi meddwl am hunanladdiad. Gallai’r blogiau drafod profiadau sy’n peri gofid i chi: peidiwch â'u darllen os byddwch yn anghyfforddus.**

Heddiw byddwn ni’n rhannu straeon dewr rhai o'n Hyrwyddwyr sy'n tynnu sylw at bwysigrwydd siarad am eich iechyd meddwl er mwyn dileu'r stigma ynghylch gofyn am help os byddwch chi’n meddwl am hunanladdiad. #WSPD2020

Mae annog pobl eraill i siarad, gofyn am help, a siarad os bydd angen cymorth gyda'u hiechyd meddwl yn beth arferol iawn. Mae hynny'n gweithio i lawer o bobl, ond beth os na fyddwch chi am siarad, neu'n teimlo na allwch chi siarad?  Beth wedyn? 

Rwy'n credu bod angen rhoi cymaint o ffocws ar y bobl a all gefnogi rhywun i gael y sgwrs honno. Mae hyn yn arbennig o wir wrth geisio atal rhywun rhag lladd ei hun pan fydd yn ei fan gwaethaf. 

Ceisiais ladd fy hun ddwywaith tua diwedd 2018. Doeddwn i ddim am siarad â neb cyn hynny, sy'n swnio'n rhyfedd o bosibl, o ystyried fy mod yn berson llafar iawn mewn perthynas ag iechyd meddwl.  Mae gen i bobl yn fy mywyd sy'n cysylltu â mi yn rheolaidd, yn gofyn sut ydw i, ond dydw ddim yn credu y byddent wedi gallu rhagweld y peth. 

Mae yna arwyddion bod rhywun yn ystyried lladd ei hun o bosibl, fel mynd i'w gragen, mynd drwy gyfnod estynedig o iselder ofnadwy, a rhoi eitemau sentimental i eraill, ond dydyn ni i gyd ddim mor hawdd i'n darllen. Gall rhai ohonom wneud i bethau ymddangos yn iawn heb i bobl wybod beth sy'n digwydd go iawn. Mae rhai pobl yn derbyn eu problemau cyn ystyried lladd eu hunain. Sut allwn ni nodi hynny? 

Mae hyn mor gymhleth â hunanladdiad ei hun. Does dim un datrysiad na chanllawiau sy’n addas i bawb. Y cyfan y gallwn ni ei wneud yw gwneud ein gorau i geisio helpu rhywun neu ei helpu i helpu ei hun. Os byddwch yn gwneud hynny, byddwch yn barod i ofalu amdanoch chi eich hun hefyd. Gall bod yn ymwybodol bod rhywun mewn cymaint â hynny o boen fod yn anodd i'w brosesu. 

Mae sgyrsiau am hunanladdiad yn sgyrsiau am boen mewn gwirionedd. Beth sy'n poeni rhywun cymaint fel ei fod yn ystyried lladd ei hun? Os byddwch chi'n cefnogi rhywun rydych chi'n ei adnabod, efallai y bydd gennych syniad go dda am y pethau sy'n achosi trawma a dioddefaint. Efallai mai dyna beth i ganolbwyntio arno a gweithio tuag at ddatrysiad. 

Fel bob amser gydag Amser i Newid Cymru, mae'r ffocws ar geisio normaleiddio sgyrsiau yn ymwneud ag iechyd meddwl. Mae'r sgyrsiau yn ymwneud â hunanladdiad yn dod yn fwy cyffredin, sy'n galonogol. Mae mwy o sefydliadau ac unigolion allweddol yn rhan o'r maes hwn, mae mwy o waith ymchwil yn cael ei wneud, mae yna fwy o ymgyrchoedd, mwy o linellau cymorth, a gwefannau i gael cyngor. 

Dysgais o fy mhrofiad nad yw hunanladdiad yn anochel. Mae modd ei atal. Mae digon o ffyrdd y gallwch gael eich cefnogi i stopio'r boen heb ladd eich hun. 

Rwy'n mynd i orffen gyda rhan o raglen ddogfen gan y BBC yn 2018 sef 'Stopping Male Suicide', lle roedd Dr Xand van Tulleken yn archwilio pam mai hunanladdiad yw prif achos marwolaeth dynion dan 50 oed. Dywedodd, fel sylw clo, y gallwn ni i gyd droi at y person nesaf atoch neu ffonio ffrind a gofyn iddo 'wyt ti'n ystyried lladd dy hun?' yn hytrach na 'wyt ti'n iawn?' yn unig. Efallai bod hyn yn swnio'n anghyffredin neu'n amhriodol braidd, ond pan fyddwch chi’n meddwl amdano ychydig yn fwy, gallai wir achub bywyd. 

Os hoffech ddarllen am y gwaith rwy'n ei wneud ar atal hunanladdiad ac ymwybyddiaeth ohono, ewch i sixtysixninetynine.org  

Efallai hoffech

Gwena a Chwyd dy Law

Mae Naomi yn siarad am bwysigrwydd dweud yn union sut rydych chi'n teimlo pan fydd rhywun yn gofyn ‘Sut wyt ti?’ a'r holl ffyrdd y gallwch chi ateb y cwestiwn hwnnw.

20th February 2024, 8.47am | Ysgrifenwyd gan Naomi

Darganfyddwch fwy

Siarad, siarad, siarad!

Mae Samuel yn pwysleisio pwysigrwydd siarad am eich iechyd meddwl, yn enwedig ar adegau anodd, a sut mae siarad wedi achub ei fywyd.

20th February 2024, 8.43am | Ysgrifenwyd gan Samuel

Darganfyddwch fwy