'Pam mae hunanofal yn flaenoriaeth i mi...'

Mae hunanofal yn derm y dywedir llawer amdano, ond beth mae'n ei olygu?

6th December 2021, 1.00pm | Ysgrifenwyd gan Bethan

Mae hunanofal yn derm rydyn ni'n ei glywed yn aml, ond beth mae'n ei olygu? Am flynyddoedd rwyf wedi brwydro â salwch meddwl a rhan fawr o'r frwydr honno oedd methu â deall y dylen i flaenoriaethu hunanofal. Roeddwn i'n arfer meddwl bod hunanofal a blaenoriaethu fy hun yn hunanol, ond y gwir yw, mae'n iawn i fod yn hunanol weithiau. 

Mae gofalu am ein hiechyd a'n llesiant ein hunain weithiau yn golygu dweud na wrth bethau nad ydyn ni am eu gwneud. Weithiau, mae'n golygu ymbellhau oddi wrth bobl nad ydyn nhw'n cael dylanwad cadarnhaol ar ein llesiant. Weithiau mae'n golygu bod rhaid i ni roi ein hunain cyn pobl eraill, a does dim byd o'i le ar hynny. Dyma oedd fy ngwers fwyaf ac un o'r newidiadau gorau rwyf wedi'i wneud i fy mywyd. Felly, beth yw hunanofal i mi?

Trefn ddyddiol: Mae trefn yn fy nghymell i wneud pethau. Mae'n ysbrydoli fy nghreadigrwydd, yn hybu cynhyrchiant ac yn gwneud i mi deimlo'n llawn egni ac yn hapus. Gyda threfn, mae fy meddwl a fy nghorff yn gwybod beth i'w ddisgwyl bron bob dydd ac mae hyn yn gysur i mi. Rwy'n mynd yn bryderus pan fyddaf yn teimlo'n ansicr neu'n ceisio ymdopi â'r ‘anhysbys’ felly, rwy'n meddwl mai dyna pam mae trefn yn gweithio.

Ymarfer corff: Ie, rwy'n gwybod, mae'n amlwg. Y gwir yw, i fi, mae ymarfer corff yn bwysig i hunanofal. Bob dydd, rwy'n gwneud yn siŵr fy mod i'n symud mewn rhyw ffordd. Weithiau mae hyn yn golygu mynd i ddosbarth CrossFit neu fynd i redeg, ond does dim angen iddo fod mor ddwys â hynny. Gallai olygu mynd am dro ar ôl gwaith, ioga yn y bore neu ddawnsio o amgylch y gegin wrth wneud swper. Does dim yn helpu i glirio fy mhen yn fwy na symud ychydig. 

Maeth: Rwyf wedi sylwi ar gysylltiad rhwng rhoi bwyd da yn fy nghorff a rheoli symptomau gorbryder. Mae angen deiet cytbwys da ar ein cyrff i weithio'n dda, a'n hymennydd hefyd! Mae gwahaniaeth mawr yn y ffordd rwy'n teimlo a fy lefelau gorbryder pan fyddaf yn bwyta'n dda ac yn yfed digon, o gymharu â'r adegau pan na fyddaf yn gwneud hynny. Felly, rwy'n dilyn y rheol 80/20 ac yn ceisio dilyn deiet cytbwys iach 80% o'r amser (efallai na fydd hyn yn gweithio cystal dros y Nadolig, ond pwy all wrthod Stollen!)

Rhyngweithio: Mae siarad, sgwrsio a rhyngweithio cymdeithasol yn rhan enfawr o fy mywyd o ddydd i ddydd ac mae'n hanfodol ar gyfer hunanofal. Nid yw hyn bob amser yn golygu mynd allan a bod yn gymdeithasol iawn. Weithiau mae'n golygu nodyn llais, galwad ffôn neu gyfarfod Zoom â chydweithwyr. Rwy'n hoffi siarad a rhyngweithio â phobl eraill. Mae'n helpu. 

Gorffwys: Yn ddi-au, y rhan bwysicaf o hunanofal. Gorffwys. Mae'n bwysig. Mae'n wych llenwi eich dyddiau â gwaith caled, gweithgareddau a bod yn gymdeithasol, ond mae gwneud amser yn ystod y dydd i chi'ch hun, i wylio ffilm neu raglen teledu, i ddarllen llyfr, i wrando ar bodlediad – unrhyw beth a dweud y gwir – yn bwysig. I mi, mae treulio amser bob dydd yn gorffwys fy nghorff a fy meddwl (pan fydd angen) yn hanfodol.

Ysgrifennais yn ddiweddar: “Mae amser yn brin ac er y gall pobl eraill eich helpu i deimlo'n hapus (a byddant yn gwneud hynny), yn y diwedd yr hyn rydych chi'n ei roi i chi'ch hun fydd yn sicrhau'r canlyniadau gorau. O leiaf dyna beth rwy'n ei gredu. Felly, dywedwch wrth eich hun eich bod yn gallu. Dewch o hyd i'r amser i flaenoriaethu eich hun.Stopiwch ddweud ie wrth bobl a phethau nad ydyn nhw'n dod â llawenydd i chi. Gwnewch yn siŵr fod pobl gadarnhaol o'ch cwmpas, a'ch bod mewn sefyllfaoedd sy'n ychwanegu gwerth at eich bywyd. Perchenogwch bob agwedd arnoch chi fel unigolyn rydych chi'n ei hoffi a gweithiwch ar yr agweddau nad ydych chi mor fodlon arnyn nhw. Gwireddwch eich breuddwydion. Dysgwch sut i ddod o hyd i rywfaint o lawenydd bob dydd. Peidiwch â bod ofn newid na methiant oherwydd hebddyn nhw, sut fyddwn ni'n datblygu neu'n dysgu? Ceisiwch adael fynd o bethau sydd y tu hwnt i'ch rheolaeth (rwy'n dal i weithio ar hyn). Perchenogwch eich emosiynau, peidiwch â'u cuddio. Rhowch gariad.Derbyniwch gariad. Byddwch yn garedig wrth bobl eraill, ond yn bwysicaf oll, byddwch yn garedig wrthoch chi eich hun.”

Dyna yw hunanofal i mi.

Bethan E.jpg

Efallai hoffech

Gwena a Chwyd dy Law

Mae Naomi yn siarad am bwysigrwydd dweud yn union sut rydych chi'n teimlo pan fydd rhywun yn gofyn ‘Sut wyt ti?’ a'r holl ffyrdd y gallwch chi ateb y cwestiwn hwnnw.

20th February 2024, 8.47am | Ysgrifenwyd gan Naomi

Darganfyddwch fwy

Siarad, siarad, siarad!

Mae Samuel yn pwysleisio pwysigrwydd siarad am eich iechyd meddwl, yn enwedig ar adegau anodd, a sut mae siarad wedi achub ei fywyd.

20th February 2024, 8.43am | Ysgrifenwyd gan Samuel

Darganfyddwch fwy