Iselder

Siarad am iechyd meddwl am y tro cyntaf

Ein Pencampwraig Elen yn trafod agor i fyny am ei hiechyd meddwl am y tro cyntaf

29th May 2019, 10.28am | Ysgrifenwyd gan Elen

Ma hyn yn rwbath dosnam llawer o bobl yn gwybod am dana i, dim ond y pobl rwy'n agos iddynt sy'n ymwybodol o'r peth. Dim fel fy mod yn trio cadw'r peth yn gyfrinach, jyst mod i byth yn meddwl dod a'r peth fyny mewn sgwrs gan fy mod isio trio ymddangos fel person 'cryf' neu diom yn rwbath ma lot o bobl yn gyfforddus yn siarad amdano. Ond y gwirionedd ydy, nid yw iselder yn eich gwneud yn berson 'gwan' (er fy mod yn teimlo felna llawer o weithia).

Wel, dyma fy stori i:

Dros blwyddyn yn ôl oedd hi,  dyna pryd ddechreuodd bopeth. Pan oni'n brysur paratoi tuag at fy arholiadau TGAU blwyddyn 11.  Doni ddim yn teimlo yn iawn, doeddwn i ddim yn teimlo yn 'normal', dechreuodd bopeth fynd i lawr allt, toni wir ddim yn gwybod be odd yn mynd ymlaen... roedd fy iselder a gorbryder wedi achosi i mi gael 'migranes' felly ro'n wedi gorfod aros drosodd yn y 'sbyty am ychydig o nosweithiau, ond roedd bopeth i ymweld yn iawn. felly parhais gyda fy mywyd o ddydd i ddydd. Ar ôl dipyn roedd hyn yn mynd yn anoddach ac anoddach, ro'n i'n methu ysgol ar adeg ofnadwy o bwysig ond doddnam byd onin gallu neud i reoli fy hun, ro'n i'n meddwl mod i'n mynd yn wallgof....

Er bopeth oedd yn digwydd ro'n i wedi gallu mynychu pob un arholiad TGAU (wel yn gorfforol, nid bendant yn feddyliol), ro'n i yn delio gyda gymaint o feddyliau yn mynd drwy fy mhen a gorfod dadlau gyda fy meddyliau yn ddyddiol a hynny heb dweud wrth neb am fisoedd.

Ar ôl cau fy hun yn fy stafell ac 'avoidio' y pobl ro'n i agosa' at, penderfynais fod rhaid dweud wrth rhywun. Felly, dywedais wrth fy nghariad (sy di bod yn grêt) a wir wan ro'n i'n teimlo fel bo gymaint o bwysa' wedi cael ei dynnu oddi ar fy sgwyddau rol siarad am y peth, er pa mor embarassed oni o'r peth. Ond pam y dylwn i fod yn embarrassed o rhywbeth tu hwnt i fy reolaeth i a rhywbeth sy'n hollol naturiol i llawer o bobl? Rwy'n credu y stigma sy'n cael yr effaith yma ar bobl, Tydi pobl ddim yn gallu derbyn eu bod yn dioddef o broblem iechyd meddwl.

Ro'n i yn delio gyda gymaint o feddyliau yn mynd drwy fy mhen a gorfod dadlau gyda fy meddyliau yn ddyddiol a hynny heb dweud wrth neb am fisoedd.

Yna es i at ddoctor ar ôl ychydig o doubtio a newid fy meddwl am y peth ond ar ôl cyrraedd oddon hollol fine, i be odd angen poeni gymaint, dim fy mai i ydio mod i'n teimlo fel hyn, pam dylia fi deimlo cywilydd? Cymerais dros flwyddyn i actiyli derbyn y peth yn iawn a pheidio bod a chywilydd mod i'n teimlo fel hyn.

Cefais tabledi tuag at iselder, ac roedd y 'waiting game' i rheina ddechrau gweithio yn iawn yn un hir ac anodd ond roedd o werth o! 

Meddyliwch am y peth, os y byddech yn torri eich coes neu yn cael unrhyw broblem corfforol, rydych yn mynd at ddoctor ac yn cael tabledi er mwyn eich gwella, felly pam fod gymaint o stigma am fynd at ddoctor gyda problemau meddyliol? Mae 1 ym mhob 4 yn dioddef o broblemau iechyd meddwl yn ystod eu bywydau, ac i fod yn onest ma'r stategaeth hyn yn 'shocking' i feddwl fod rhywbeth mor ddychrynllyd yn actiyli rhywbeth normal.

Dwi'n berson hynod o brysur. Rwyf ym mlwyddyn 13 yn yr ysgol ar hyn o bryd ac yn paratoi tuag at mynd i'r Brifysgol y blwyddyn nesaf. Y ffordd dwi'n gallu ymdopi gyda pobeth ydy siarad, cymryd ychydig o amser o'm wythnos i siarad gyda ffrindiau neu rhywun rwy'n drystio am sut dwi'n teimlo yn enwedig pan rwy'n teimlo straen gwaith ysgol yn peilio ar fy sgwydda, mae o fel rhyddhad mawr cael siarad er mwyn gallu parhau gyda'r wythnos. Byddai pobl yn fy esbonio i fel berson siaradus a 'larger than life' felly dwi'n joio siarad gyda pobl felly mae siarad am fy nheimladau yn bwysig iawn i mi! 

Erbyn heddiw, does gen i ddim cywilydd cyfaddef fy mod yn dioddef o iselder ac y mwyaf dwi'n siarad am fy mhrofiad, y mwya' mae pobl actiyli yn rhannu eu storïau a'u profiadau gyda mi, a rydych yn gweld pa mor gyffredin yw'r peth a faint o bobl sy'n dioddef.

Gofalwch am eich ffrindiau a theulu a byddwch yn ffeind gyda phobl. Gwnewch rhywbeth y gwneith i rywun wenu heddiw, dim ots os yw’n rhywbeth syml fel "dwi'n hoffi dy wallt di" , mae geiriau caredig yn mynd ym mhell!

Efallai hoffech

Gwena a Chwyd dy Law

Mae Naomi yn siarad am bwysigrwydd dweud yn union sut rydych chi'n teimlo pan fydd rhywun yn gofyn ‘Sut wyt ti?’ a'r holl ffyrdd y gallwch chi ateb y cwestiwn hwnnw.

20th February 2024, 8.47am | Ysgrifenwyd gan Naomi

Darganfyddwch fwy

Siarad, siarad, siarad!

Mae Samuel yn pwysleisio pwysigrwydd siarad am eich iechyd meddwl, yn enwedig ar adegau anodd, a sut mae siarad wedi achub ei fywyd.

20th February 2024, 8.43am | Ysgrifenwyd gan Samuel

Darganfyddwch fwy