Pwysigrwydd cael Diddordeb a Iselder

Fel cymaint o bobol sy’n dioddef a problemau iechyd meddwl, o’n i heb ystyried beth oedd yn digwydd, neu efallai o’n i yn gwbod, ond yn pallu derbyn y ffaith.

7th November 2013, 5.13pm | Ysgrifenwyd gan Gavin Walker

Dwi wedi bod yn dioddef o iselder am blynyddoedd maeth, ond dim ond ers mis Awst 2011 dwi wedi gwbod beth yn gwmws oedd yn bod arnai!

Fel cymaint o bobol sy’n dioddef a problemau iechyd meddwl, o’n i heb ystyried beth oedd yn digwydd, neu efallai o’n i yn gwbod, ond yn pallu derbyn y ffaith.

Felli bues i a fy nheulu yn dioddef am blynyddoedd.

Nawr, dwi’n llawer gwell, ma’r heol i gyrraedd yma wedi body yn anodd iawn, ond, dw’i wedi gallu dod i dermau a’r iselder, a sut i’w rheoli.

Bues i ar sioe S4c ‘Doctor Doctor’ yn siarad am fy mhrofiadau i a iselder, felli yn y blog yma dw’i am siarad am rhiwbeth positif sy’ wedi helpu i oresgyn yr amserau gwaethaf.

Gwaith coed.

Erioed dw’i wedi dal diddordeb mawr yn defnyddio fy nwylo i wneud pethau, neu i ddarganfod sut mae pethau’n gweithio neu i atgyweirio pethau sy’ wedi tori – efallai ‘na pam dw’i nawr yn Periannwr Sifil?!

Roedd cael diddordeb pan oeddwn i bant o gwaith yn help mawr if y wellhad, roedd yn helpu i fi adeuladu hunan-hyder, hunan-barch a rhoi ymdeimlad o gyflawniad pan oedd y darn wedi’u gwblhau.

Y fwy na dim, galles i dysgu i hoffi beth oeddwn i’n ‘neud.

Rhan mawr o’n iselder i oedd y pwysau oeddwn i’n rhoi ar fy hun. Pwysau heb angen.

Os byde rhiwun yn canmol fi ugain o weithiau, ond yn rhoi un beirniadaeth, bydden i yn canolbwyntio ar yr un beirniadaeth.

Raodd hwn yn wanychol i’m holl bywyd.

Wrth creu rhiwbeth o goed, roeddwn yn gallu dysgu unwauth eto i geymeryd pethau cam-wrth-gam, i ddechrau roedd rhaid i mi gael yr offer gyda’i gilydd, roedd angen bainc a lle i wiethio.

Dros y 13 mis bues i trwy’r gwaethaf, galles i droi’r garej mewn i siop waith bach a galluogodd fi i ‘wneud amriw o darnau fel y rhai isod.

gavinstable.jpggavinsbox.jpgGavinscupboard.jpg

Roedd y boddhad o gwblhai prosiect bach werth y byd i’n iechyd meddwl, ac yn araf bach (gyda help meddygyniaeth a cynghorydd ardderchog) galles i ail-darganfod hunan-hyder a hunan-barch.

Nawr dw’i ‘nol yn gweithio llawn amser (yn anffodus dim yn gweithio gyda’n nwylo, one mewn swyddfa ney cyfarfodydd trwy’r dydd!), felli ma’r amser sydd ar gael i gwblhau darnau fel y rhai uchod yn llai, ond dw’i wedi darganfod ffordd newydd i ddefnyddio fy nhalentau i greu rhiwbeth cloi a boddhaol!

Beiros.

Dw’i nawr yn gwneud beiros a phensils fy hun.

Dechreuais gynt y flwyddyn yma, ond erbyn hyn dw’i wedi creu llawer, a wedi rhoi llwyth bant fel anrhegion, a nawr dw’in gwerthu rhai hefyd!

gavinspen2.jpg

Fel esiampl

Mae’n hawdd i fi mynd allan i’r garej am awr a gallu ‘neud un o rhain, felli dwi’n gallu cadw’n diddordeb yn mynd, a dwi’n gallu cael boddhad mawr allan o greu rhiwbeth.

Yn fwy na dim, ma gweithio gyda coed yn gyfredinol yn help mawr i fi ymlacio.  Dwi’n gallu diflannu o’r byd mawr tu allan, a creu rhiwbeth sy’n rhoi gwen a fy wyneb i, a pobl arall hefyd.

Ma cael diddordeb wedi bod yn help mawr i fi i ddod i dermau a iselder ac i’w rheoli wrth symud ymlaen a’m bywyd.

Ma Amser i Newid Cymru wedi body n help mawr i fi dros y blwyddyn diwethaf, felli dyma beiro ‘ffynon’ wedi’u ysbrydoli ganddynt.

 

gavinspen4.jpg

Efallai hoffech

Gwena a Chwyd dy Law

Mae Naomi yn siarad am bwysigrwydd dweud yn union sut rydych chi'n teimlo pan fydd rhywun yn gofyn ‘Sut wyt ti?’ a'r holl ffyrdd y gallwch chi ateb y cwestiwn hwnnw.

20th February 2024, 8.47am | Ysgrifenwyd gan Naomi

Darganfyddwch fwy

Siarad, siarad, siarad!

Mae Samuel yn pwysleisio pwysigrwydd siarad am eich iechyd meddwl, yn enwedig ar adegau anodd, a sut mae siarad wedi achub ei fywyd.

20th February 2024, 8.43am | Ysgrifenwyd gan Samuel

Darganfyddwch fwy