Bod yn Fam ac Iechyd Meddwl

Mae Lucy yn rhannu sut mae hi wedi rheoli ei hiechyd meddwl wrth gychwyn ar famolaeth.

26th July 2021, 4.00pm | Ysgrifenwyd gan Lucy

Mae iechyd meddwl yn anweledig, rydyn ni'n gwybod hyn, on'd 'yn ni? Ond eto, mae cymaint ohonon ni yn methu â chyfathrebu mewn ffordd sy'n ein helpu i deimlo'n gyfforddus, yn enwedig wrth sôn am iechyd meddwl a bod yn fam. 

Mae oherwydd yr ofn y bydd pobl eraill yn ein beirniadu, yr ymdeimlad fod eraill yn gwneud yn well, neu hyd yn oed yr ymdeimlad a'r meddyliau negyddol sy'n gwneud i ni deimlo cywilydd am y ffordd rydyn ni'n teimlo. Hyd yn oed pa mor wael rydyn ni'n credu ein bod ni'n ymdopi â bod yn fam. Dyna pam rwyf am rannu fy stori â chi, i'ch helpu i ddeall nad oes cyfarwyddiadau ar gyfer bod yn fam. A does dim cyfarwyddiadau chwaith ar gyfer iechyd meddwl, ac, heb os, mae gwneud eich gorau yn ddigon da.

Fe wna i ddechrau gyda fy mhrofiadau cadarnhaol a byddwch chi i gyd siŵr o fod yn teimlo'r un peth. Yr eiliad rydych chi'n dod yn fam, ac yn gweld y person bach yna, mae moment o ewfforia - waw. Fi wnaeth greu'r fersiwn bach yna ohona i. Fy mabi i yw hwn a bydd gen i rywun i'w garu am byth, a rhywun i fy ngharu i yn ddiamod. Dyna oedd fy mhrofiad personol y diwrnod y gwnes i roi genedigaeth. Ond pan fydd adegau yn codi pan na allwch chi roi'r hyn sydd ei angen ar y person bach, dyna'r adeg y byddwch chi'n teimlo fel petaech wedi cwympo i'r llawr. Nid yr hyn roeddech chi'n meddwl byddai'n digwydd yw'r gwirionedd mwyach, gan gredu eich bod yn fethiant llwyr. 

Ar yr adegau hynny, bydd pob syniad negyddol yn dod i flaen eich meddwl. Pam hynny? Pam rydyn ni'n mynd dros sylwadau diddiwedd o'r gorffennol a meddyliau negyddol, gan adael iddyn nhw gymryd ein meddyliau drosodd mor gyflym, a'n gorfodi i gadarnhau ein meddyliau negyddol? Rydyn ni'n darbwyllo ein hunain bod ein plant bach yn haeddu gwell, ac yn cosbi ein hunain, yn llethu ein hunain yn feddyliol, heb sylweddoli'r effaith rydyn ni'n ei chael ar ein hymdeimlad o hunanwerth wrth wneud hynny. 

Mae hyn am nad oes neb gennym i'n hannog, i'n cefnogi, i fod yn ddewr yn ystod ein hadegau anodd. Rydyn ni'n poeni gormod i ddweud wrth eraill efallai, gan ofni y byddan nhw'n ein barnu. Dyna oedd y sefyllfa i mi. Roeddwn i mor ddibynnol ar amgylchiadau allanol fel negeseuon, dyfyniadau a fideos ar y cyfryngau cymdeithasol i godi fy nghalon a gwneud i mi deimlo “galla i wneud hyn”.

Cefais i fy mab pan roeddwn i’n 21 oed. Roedd fy magwraeth yn aflonyddgar iawn, ac yn ystod blynyddoedd cynnar bywyd fy mab roeddwn i'n ddigartref ac yn byw mewn llety dros dro, o hosteli i westai gwely a brecwast. Roeddwn i'n teimlo fel y fam waethaf yn y byd ac roeddwn i'n crio'n aml – fyth yn dychmygu mai dyma sut byddai bywyd i fi a fy mab. Cuddiais i, gan ynysu fy hun; yn rhy ofnus hyd yn oed i ddweud wrth bobl am fy sefyllfa. Roeddwn i fel ysbryd. Doedd dim oergell gennyn ni – roedden ni'n rhy dlawd. Er enghraifft, roeddwn i'n arfer gadael llaeth y babi allan ar garreg y drws gyda'r nos yn y gobaith y byddai'n oer ac yn ffres iddo drannoeth. Fe wnaethon ni wylio'r un DVD dro ar ôl tro am 8 mis am nad oedd erial teledu gennyn ni. Roedd 1 net ar y ffenestr a dim celfi na hyd yn oed soffa i eistedd arni. Nid hwn oedd y dechreuad roeddwn i wedi'i ddychmygu ar fy nghyfer i a fy mabi bach perffaith.

Roeddwn i'n aml yn teimlo'n sâl, yn drist, yn flinedig ac wedi fy llethu. Teimlad fel petai rhywun wedi eich bwrw yn eich stumog, yn troi gan edrych ar ei flew amrannau prydferth yn cysgu'n drwm, ar yr un pryd. Yn cuddio eich poen nes y byddwch chi'n teimlo y gallwch grio. Ond nawr yn y blynyddoedd a ddaw wedi hynny, gyda llawer mwy i'w ddweud a sut y llwyddais i ddianc o'r sefyllfa honno, hoffwn rannu atgofion fy mab o'r adegau hynny. 

Ei atgof ohona i yn rhoi pâr o sanau wedi'u rholio i fyny o dan ei grys t yn y cefn ac yntau'n methu eu cael nhw allan. Gwnaethon ni chwerthin am oesoedd. Yr adeg y gwnaethon ni roi ‘sprinkles’ ar ei afal taffi a aeth i bobman ond ar yr afal. Y dillad gwely Tomos y Tanc yr oedd yn dwli cysgu ynddo bob nos. Y straeon amser gwely roeddwn i'n eu darllen, yn aml gyda dagrau yn fy llygaid yn edrych ar y llawr yn ein hystafell, lle roedd marciau tyllau pin lle roeddwn i wedi gorfod tynnu ‘grippers’ hen garped am nad oedd arian gennyn ni i brynu carped, ac roedden nhw'n rhy beryglus i'w draed bach. 

Chi'n gweld, dyw plant ddim yn ddigon aeddfed ac maen nhw'n gweld drwy lygaid gwahanol. Dyw plant ddim yn cydymffurfio â'r hyn sydd o'u hamgylch, fel y gwyddon ni wrth fynd allan gyda nhw ac maen nhw'n penderfynu cael pwl o dymer yn y ganolfan siopa. Dim ond atgofion, cariad a chwerthin sydd eu hangen ar blant. Os gallwch chi ddod â rhain iddyn nhw fel y gwnes i, bydd y meddyliau negyddol am fethiant yn gwella wrth i chi roi trefn ar eich sefyllfa. 

Ond rwyf wir am gyfleu neges gyda fy stori gryno. Yr un peth y gwnes i ei ddysgu, a hynny ar ôl amser hir. Os byddwch chi'n cynnwys hyn yn eich bywyd, gallaf ddweud yn bendant y daw haul ar fryn. Dim gofal plant na theganau drud, mae rhai yn cael mwy o hwyl gyda bocs cardbord. Dyma beth rwy'n ei alw yn gariad a hunangariad. Dyma rai enghreifftiau pam...

Os gallwch chi ddangos cariad at eich plentyn bob dydd, bydd yn teimlo'n ddiogel ynddo'i hun, ei fod yn cael ei dderbyn, ei werthfawrogi a bydd yn dangos gofal a thosturi fel rydych chi'n ei wneud iddo fe. Os byddwch chi'n dangos hunanofal, bydd eich plentyn yn dysgu sut i garu ei hun, ac yn ei dro bydd yn tyfu yn hyderus a dewr. Ni ellir prynu unrhyw beth rydych chi'n teimlo fel pe baech yn methu gyda'ch plentyn. Nid yr hyn rydych chi'n ei roi i'ch plentyn pan fyddwch chi'n gadael y Ddaear hon sy'n bwysig, ond yr hyn rydych chi'n ei adael YNDDO sydd wir yn bwysig. Os gallwch chi adael i ffydd ac amser eich tywys ar y llwybr rydych chi i fod i'w ddilyn, a chredu y bydd popeth yn iawn, ac yn y cyfamser yn dangos cariad a hunangariad yn eich cartref, rwy'n addo ei bod yn bosibl meithrin y gwerthoedd pwysicaf y byddai unrhyw riant am i'w plentyn eu cael, gan arwain at hapusrwydd. Yn ystod y cyfnod hwn, gallwch ganolbwyntio ar eich tasg nesaf ac ni fydd dim yn eich rhwystro. Peidiwch â bod mor feirniadol ohonoch chi eich hun.

Ein prif bryder yw, a ydyn ni'n gwneud digon iddyn nhw? Mae hyn yn ein harwain at iselder, gorbryder a chymharu ein hunain â safonau uchel cymdeithas y mae'r cyfryngau cymdeithasol yn gwneud i ni eu credu. Ddywedais i ddim wrth neb am fy sefyllfa, ac yn bendant ni fyddwn wedi ei roi ar y cyfryngau cymdeithasol. A dweud y gwir, roeddwn i'n canolbwyntio ar beidio â gofyn am help. Nawr rwy'n dyfaru fy mod i heb wneud hynny. Mae fy stori yn gwneud i mi gredu mai cariad yw'r ateb ac oedd yr ateb i ni. Iddyn nhw ac i chi. Ni yw ein ffrindiau gorau ni'n hunain, ond eto ni yw ein gelynion gwaethaf ar yr adegau mwyaf anodd. Gall dod yn fam a brwydro gyda phroblemau iechyd meddwl fod yn anodd. Cadwch y ffydd, credwch ynddoch chi eich hun, a chanolbwyntiwch ar y cariad yn eich cartref; bydd y gwerthoedd allweddol hynny yn eich clymu at eich gilydd fel glud, gan eich tywys i ran nesaf eich bywyd. Gofynnwch am help a pheidiwch byth â theimlo cywilydd. Mae wedi cymryd blynyddoedd i mi rannu fy stori ac ni fydda i byth yn teimlo cywilydd o'r cyfnodau anodd. 

Ni waeth beth nad oedd gen i a fy mab, roedden ni'n gwybod fod gennyn ni ein gilydd. Ni wnaeth ein sefyllfa bennu ein datgeliad. Gwnaethom ni aros gyda'n gilydd ac aros i'r storm dawelu. Y cyfan roedd ei angen arno, fel fi, oedd cariad a ffydd. Y canlyniad yw cariad diamond, fel y gwnes i addo iddo ar y diwrnod y cafodd ei eni. 

Lucy.jpg

Efallai hoffech

Gwena a Chwyd dy Law

Mae Naomi yn siarad am bwysigrwydd dweud yn union sut rydych chi'n teimlo pan fydd rhywun yn gofyn ‘Sut wyt ti?’ a'r holl ffyrdd y gallwch chi ateb y cwestiwn hwnnw.

20th February 2024, 8.47am | Ysgrifenwyd gan Naomi

Darganfyddwch fwy

Siarad, siarad, siarad!

Mae Samuel yn pwysleisio pwysigrwydd siarad am eich iechyd meddwl, yn enwedig ar adegau anodd, a sut mae siarad wedi achub ei fywyd.

20th February 2024, 8.43am | Ysgrifenwyd gan Samuel

Darganfyddwch fwy