“Mae'n iawn bod yn flinedig”

Mae gen i fy ‘mhecyn iechyd meddwl’ bach i'm helpu drwy'r dyddiau hyn... Rwy'n atgoffa fy hun nad yw'r dyddiau hyn yn para, ac mae'n wir. Mae fy awydd i frwydro yn dychwelyd, ac rwy'n parhau.

30th June 2021, 9.00am | Ysgrifenwyd gan Ceri

Rwyf wedi ysgrifennu cwpl o flogiau nawr sydd wedi canolbwyntio ar bositifrwydd a gwella. Roedd pob gair a ysgrifennais i yn wir. Rwy'n byw gyda fy OCD, gorbryder a phroblemau bwyta. Dydyn nhw ddim yn rheoli fy mywyd fel yr oedden nhw'n arfer gwneud. Ond, ar yr un pryd, rwy'n teimlo ei bod hi ond yn iawn fy mod i'n ysgrifennu am y dyddiau neu'r wythnosau, weithiau'r misoedd, lle nad yw pethau yn hollol iawn. Rwy'n siarad am y ffordd rwy'n teimlo fel petai fy iechyd meddwl yw fy ngrym arbennig, ac rwyf wir yn credu hynny. Ond mae hyd yn oed archarwyr yn cael diwrnodau gwael, on'd 'yn nhw?

Mae llawer o bobl wedi ysgrifennu y bydd effaith COVID ar ein hiechyd meddwl yn enfawr. Gyda hyn mewn golwg, rwy'n ymwybodol y bydd llawer o bobl yn profi salwch meddwl am y tro cyntaf, ac er fy mod i'n gobeithio y bydd fy stori o wella yn dod â gobaith, rwyf hefyd am iddyn nhw wybod bod dyddiau, wythnosau neu fisoedd gwael yn digwydd, ac nid yw hynny'n golygu eu bod yn fethiant mewn unrhyw ffordd, dim ond eu bod yn fodau dynol. Bydd dyddiau gwell i ddod.

Pan fyddaf yn meddwl am y ffaith y bydd yn rhaid i mi orfod brwydro yn erbyn y problemau hyn am weddill fy mywyd, mae dyddiau pan nad ydw i'n siŵr y gallaf wneud hynny. Mae yna ddyddiau pan fyddaf wedi blino aros yn gryf a brwydro yn erbyn y rhan honno o'r ymennydd sydd am fynd nôl i'r ymddygiadau niweidiol hynny i reoli fy mhwysau. Ar rai dyddiau, rwy'n teimlo y byddai'n haws ildio. Ar rai dyddiau rwy'n gwneud hynny.

Ar y dyddiau hyn rwy'n teimlo fel rhagrithiwr oherwydd rwyf byth a beunydd yn siarad am deimlo'n bositif am eich corff a'i dderbyn, ac rwy'n credu pob gair. Dydw i ddim am i unrhyw un deimlo'r ffordd rwyf wedi teimlo. Mae ein cyrff yn wyrthiau. Ond mae angen brwydro yn erbyn y dihiryn bach yn fy ymennydd, ac ar rai dyddiau, mae'n waith caled iawn.

Yna mae gen i'r OCD a'r gorbryder. Y meddyliau obsesiynol sy'n siŵr fy mod i wedi niweidio rhywun neu rywbeth mewn rhyw ffordd. Y meddyliau sy'n dweud wrtha i yn gyson nad ydw i'n ddigon da, bod popeth rwy'n ei ddweud yn achosi embaras ac yn wirion ac na ddylen i ddweud dim. Y gorbryder sy'n ei gwneud hi'n anodd gweithredu...neu anadlu.

Rwy'n gwneud môr a mynydd o bethau drwy'r amser. Mae rhywun rwy'n ei adnabod yn mynd mewn car? Yn fy mhen, mae wedi mynd yn y car, cael damwain ac rwy' yn ei angladd. Methu â chael gafael ar rywun? Dyw e ddim yn ateb y ffôn am ei fod wedi cael damwain. Ac eto, rwy' yn ei angladd. Mae'n flinedig ceisio rhesymoli'r meddyliau hyn drwy'r amser.

Er fy mod i'n fwy na pharod i drafod fy iechyd meddwl, anaml y byddaf yn manylu ar y meddyliau a'r ymddygiadau sy'n mynd law yn llaw â hynny oni bai y bydd pobl yn gofyn. Wrth i mi ysgrifennu, mae ofn beth y bydd pobl yn ei feddwl arna i. Rwy'n poeni y bydd pobl yn meddwl fod hyn yn ddibwys, fy mod i'n creu ffws o ddim byd. Yna rwy'n poeni y bydd pobl yn teimlo'n anghyfforddus, a yw hyn yn mynd i newid y ffordd mae pobl yn ymddwyn o'm cwmpas? Ond yna rwy'n meddwl, dyna yw holl bwynt yr ymgyrch hon. Ein bod yn siarad am ein profiadau, yn chwalu'r stigma sy'n gwneud i'n profiadau neu ein problemau deimlo'n ddibwys. 

Mae ein brwydrau yn real iawn, iawn ac yn frawychus iawn ar adegau. Rwy'n credu petawn i'n gwybod bod eraill yn profi rhywbeth tebyg pan oeddwn i ar fy ngwaethaf, nad oeddwn i'n rhyfedd nac yn wahanol, rwy'n credu y byddai hynny wir wedi fy helpu. Felly fy ngobaith yw y gall hyn helpu rhywun, mewn rhyw ffordd. Rwyf wir yn iawn bron bob dydd erbyn hyn. Mae'n swnio fel cliché, ond dyw'r dyddiau erchyll, tywyll hyn ddim yn para, ac fe fyddwch chi'n teimlo'n well. Mae help ar gael i chi; y cyfan sydd angen i chi ei wneud yw gofyn.

Ceri.jpg

Efallai hoffech

Gwena a Chwyd dy Law

Mae Naomi yn siarad am bwysigrwydd dweud yn union sut rydych chi'n teimlo pan fydd rhywun yn gofyn ‘Sut wyt ti?’ a'r holl ffyrdd y gallwch chi ateb y cwestiwn hwnnw.

20th February 2024, 8.47am | Ysgrifenwyd gan Naomi

Darganfyddwch fwy

Siarad, siarad, siarad!

Mae Samuel yn pwysleisio pwysigrwydd siarad am eich iechyd meddwl, yn enwedig ar adegau anodd, a sut mae siarad wedi achub ei fywyd.

20th February 2024, 8.43am | Ysgrifenwyd gan Samuel

Darganfyddwch fwy