Iselder

Iselder: Y Llaethder yn y Llofft

Mae dioddef o iselder yn debyg i dy sy'n dioddef o laethder, fel “rising damp”. Mae'n dechrau yn dy goesau, yn amsugno dy egni, rhyw wendid a thrwmder yn cripian lan arnat ti yn ddiarwybod ac yn dy…

29th May 2014, 2.33pm | Ysgrifenwyd gan Gaynor

Be ddaeth gyntaf? yr iselder? Neu'r llaethder yn y llofft? Ymledodd y patsyn brown ar draws y wal. Cries I gymaint? Colli cymaint o ddagrau fel fy mod wedi achosi'r tamprwydd?

Mae dioddef o iselder yn debyg i dy sy'n dioddef o laethder, fel “rising damp”. Mae'n dechrau yn dy goesau, yn amsugno dy egni, rhyw wendid a thrwmder yn cripian lan arnat ti yn ddiarwybod ac yn dy lethi a dwyn dy ysbryd, yn erbyn dy ewyllys.

Colli diddordeb yn dy hoff bethau, bwyd, cerddoriaeth, llyfrau, cerdded, cymdeithasu, siocled. A dechrau mynd yn fwy dibynnol ar sigarets a gwin, maent yn help I gysgu a phasio amser, achos “cwsg ni ddaw i'm amrant heno” sy'n creu cylch dieflig o flinder a diffyg egni yn dy atal rhag gwneud pethau sydd yn ychwanegu at dy unigrwydd a'th ynysu rhag ffrindiau a theulu. 

Mae'n achosi embaras, ti'n cywilyddio dy fod yn berson mor gwan sydd methu delio a threialon bywyd. Mae pawb arall I weld petae nhw yn hwylio drwy'u bywydau yn ddi-lyffethair. Yn cael lwc, hwyl, safon bywyd, profiadau gwych a llawer o gariad. Ac mae pobl mas 'na sydd mewn sefyllfa llawer gwaeth na ti, ffridiau yn colli'u car a iechyd a pha hawl sydd gennyt ti I deimlo mor flin am dy hun? Paid a bod yn berson mor pathetig wir.

Ti'n trio cuddio y sefyllfa, brwydro ymlaen, cau y drws ar bawb a phopeth. Ti'n dechrau ofni dod nol i'r ty achos er gwaetha'r ffaith nad wyt ti eisiau gweld bobl, ti'n casau y syniad o ddod adre i le gwag. Ti'n colli y gallu i chwerthin a'r gallu i brofi pleser, mae popeth fel petae ti yn gwylio o bellter, tu ol i ryw ffenestr, a bywyd tu hwnt i dy gyrraedd. Mae pob swn yn dy fyddaru, achosi cur pen, yn anioddefol ac yn teimlo fel tan ar dy groen.

Paid a meddwl dy fod ar ben dy hun, dwyt ti ddim.

Yna mae ffrind da yn sylwi bod rhywbeth o le ac yn cynnig cyngor a chlust. Ti'n sylweddoli bod rhaid ti wneud rhywbeth am dy sefyllfa achos rhaid iti wynebu dy fod yn dioddef o iselder. Ti'n brwydro yn erbyn y syniad o gymryd tabledi gwrth- iselder ond yna yn ildio, ti'n ffeindio ymgynghorydd i sgwrsio gyda bob yn ail- wythnos neu dair. Mae'n hala amser ond mae siarad a rhywun dierth yn gwneud lles, yn ffordd o rannu gofidion a lleisio ofnau.

Gam wrth gam fesul diwrnod, fesul wythnos mae pethau yn dechrau disgwyl yn well, ti'n ad-ennill dy egni, a mae cyflawni diwrnod o waith corfforol yn deimlad rhagorol. Ti'n blino, ond mae'r blinder yn dy gynorthwyo I gysgu nid dy gadw ar ddi-hun yn cwrsio trychiolaethau'r meddwl. Ac yna rhyw diwrnod bydd y wawr yn torri a fyddi di yn teimlo'n well, yn teimlo rhywbeth o'r diwedd sy ddim yn brifo ond yn deimlad o fodlonrwydd gyda dy fyd.

Paid a meddwl dy fod ar ben dy hun, dwyt ti ddim. Unwaith rwyt ti allan o'r pydew, ac efallai yn cyfaddef i eraill sut oedd pethau, bydd hwn a hon yn cyfaddef iti eu bod nhw wedi profi yr un frwydr yn erbyn salwch meddwl ac iselder.

Gaynor

 

Efallai hoffech

Gwena a Chwyd dy Law

Mae Naomi yn siarad am bwysigrwydd dweud yn union sut rydych chi'n teimlo pan fydd rhywun yn gofyn ‘Sut wyt ti?’ a'r holl ffyrdd y gallwch chi ateb y cwestiwn hwnnw.

20th February 2024, 8.47am | Ysgrifenwyd gan Naomi

Darganfyddwch fwy

Siarad, siarad, siarad!

Mae Samuel yn pwysleisio pwysigrwydd siarad am eich iechyd meddwl, yn enwedig ar adegau anodd, a sut mae siarad wedi achub ei fywyd.

20th February 2024, 8.43am | Ysgrifenwyd gan Samuel

Darganfyddwch fwy