Ymgyrch yw Diwrnod Amser i Siarad sydd â'r nod o annog mwy o bobl i fod yn agored am eu hiechyd meddwl. Eleni, mae'r ffocws ar ‘bŵer y pethau bach’, sy'n golygu y gall hyd yn oed sgwrs fach am iechyd meddwl wneud gwahaniaeth MAWR. Roeddwn i am rannu sut y cafodd un sgwrs fach am iechyd meddwl effaith enfawr ar fy adferiad.
Pan ddechreuais i gymryd meddyginiaeth ar gyfer fy iselder, un o'r prif sgil effeithiau a gefais oedd teimlo'n sâl*. Un bore yn y brifysgol, roeddwn i mewn darlith hir ac roeddwn i'n teimlo'n ofnadwy. Roeddwn i'n ddagreuol, yn chwysu, roedd fy nghalon i'n curo'n gyflym, roedd fy mhen i'n troi ac yn y diwedd bu'n rhaid i mi redeg i'r tŷ bach am fy mod i'n teimlo mor sâl. Roeddwn i'n teimlo cymaint o gywilydd, yn enwedig gan fy mod i'n meddwl y byddai'r darlithydd yn tybio bod gen i ben mawr ar ôl yfed! Ar ddiwedd y sesiwn, es i yn fy ôl i gasglu fy mhethau ac i ymddiheuro i'r darlithydd am redeg allan. Esboniais i fod fy salwch yn un o sgil-effeithiau fy ngwrthiselyddion a gofynnais a allwn i gael sleidiau'r ddarlith er mwyn dal i fyny. Erbyn hyn, rydw i’n siarad yn agored am fy iechyd meddwl drwy'r adeg, ond ar y pryd, dim ond wrth fy Mam a rhai ffrindiau yr oeddwn i wedi dweud bod gen i iselder a gorbryder. Doeddwn i dal ddim yn ei ddeall fy hun ac roedd gen i gywilydd o'r diagnosis. Roeddwn i'n arbennig o nerfus i ddweud wrth unrhyw un mewn awdurdod fel darlithwyr neu fy nghyflogwyr yn y gwaith, am nad oeddwn i am iddyn nhw feddwl y byddwn i'n ‘broblem’ iddyn nhw. Roeddwn i'n difaru'n syth fy mod i wedi dweud unrhyw beth, neu na wnes i ddweud bod gen i fyg stumog. Roeddwn i'n disgwyl iddo ochneidio, osgoi cyswllt llygaid a mwmial rhywbeth am wellhad buan. Ond edrychodd arna i'n garedig a dweud:
‘Mae'n ddrwg iawn gen i glywed hynny. Mae'n rhaid ei bod hi mor anodd delio ag iselder – oes unrhyw beth alla i ei wneud? Galla i anfon recordiadau o'r darlithoedd fel nad oes rhaid i ti wthio dy hun i ddod i'r dosbarth os nad wyt ti'n teimlo'n ddigon da. Mae'n rhaid i ti gofio nad oes dim byd yn bwysicach na dy iechyd.’
Cefais i fy llorio gan ei garedigrwydd. Efallai ei bod yn swnio fel sgwrs fach ddibwys, ond roedd y ffordd y siaradodd â fi mor bwysig. Roedd y ffordd blaen y dywedodd y gair ‘iselder’ heb fwmian na gwingo yn rhywbeth nad oeddwn i erioed wedi'i glywed o'r blaen, heb sôn am gan rywun mewn awdurdod.
Ers hynny, mae sawl sgwrs, sylw a pherson anhygoel wedi fy helpu i'n fawr, ond bydd y sgwrs fach honno yn y ddarlithfa yn aros yn y cof am byth. Gwnaeth fy helpu i gael gwared ar rywfaint o'r cywilydd roeddwn i wedi bod yn ei gario, a rhoi'r dewrder i mi ddweud wrth bobl pan oeddwn i'n cael trafferth yn y brifysgol neu yn y gwaith.
Felly, os bydd rhywun yn dechrau siarad â chi am ei iechyd meddwl, cofiwch werthfawrogi'r dewrder a gymerodd i wneud hynny! Gwrandewch arno, peidiwch ag edrych fel pe baech chi wedi eich synnu, ac ymatebwch fel pe bai wedi dweud wrthych chi am anhwylder corfforol. Cofiwch, does DIM rhaid i chi ddatrys y broblem i helpu rhywun. Does dim rhaid i chi wybod yr atebion i gyd na bod yn gwnselydd hyfforddedig. Yr unig beth y mae'n rhaid i chi ei wneud yw gwrando a bod yn garedig.
Po fwyaf o sgyrsiau y byddwn ni'n eu cael am iechyd meddwl gyda'n ffrindiau, ein teuluoedd a'n cydweithwyr, y mwyaf naturiol y bydd yn teimlo i glywed pobl yn siarad yn agored am iechyd meddwl. Mae ymwybyddiaeth o iechyd meddwl wedi datblygu'n fawr ers i mi gael diagnosis bum mlynedd yn ôl, ond mae cymaint o stigma'n bodoli o hyd o amgylch y pwnc, ac mae hynny'n ei gwneud hi'n llawer anoddach byw gyda chyflwr iechyd meddwl. Y newyddion da yw bod gan bob un ohonon ni y pŵer i wneud gwahaniaeth o ran y stigma hwnnw gyda thri gair bach: ‘Sut wyt ti?’. Felly, cysylltwch â rhywun heddiw i ofyn sut mae ei iechyd meddwl yn ystod y cyfyngiadau symud. Byddwch chi'n gwneud ei ddiwrnod – efallai y byddwch chi'n newid ei fywyd!
*Nid yw hyn yn digwydd i bawb, ac roedd yn sicr yn werth y buddiannau hirdymor!