“Nes i ddechrau sylweddoli pan o’n i’n 16. Ces i ddiagnosis o nam golwg a nath e ddweud wrthyf i fy mod i efallai’n mynd i fynd yn ddall erbyn y diwedd. Felly roedd hwnna’n lot i’w cymryd i mewn. Yn amlwg, nath meddyliau ddechrau dod i mewn i fy mhen i, fel ‘ti’n mynd i fod ar dy ben dy hun’, ‘dyw neb yn mynd i dy garu’. Roedd gen i’r syniad yma os oeddwn i’n mynd i ddweud wrth unrhyw un basen nhw jyst yn meddwl fy mod i’n boncyrs.
“Aeth ffrind o waith â fi i’r doctor. Ar ôl hynny, roeddwn i’n teimlo bod rhyw garreg trwm wedi cael ei gymryd oddi ar fy ysgwydd i ac roeddwn i’n gallu anadlu eto. Doeddwn i ddim yn mynd yn boncyrs, roedd pobl yn deall. Yr hyn oedd yn neis oedd ‘naeth pobl ddim newid lot o’n nghwmpas. Roeddwn i moyn i bobl ddal i fod yn ffrind neu ddal i fod yn frawd neu’n fam neu’n dad a dyna beth gwnaethon nhw. I bobl sy’n poeni am eu ffrindiau neu rywun yn eu teulu baswn i’n dweud - byddwch yn ffrind. Peidiwch â thrio bod yn seiciatrydd neu’n gwnselydd. Daliwch ati i fod yn chi eich hun a pheidiwch a newid o’u cwmpas nhw achos maen nhw am i chi eu trin nhw fel pawb arall.”