Sesiynau gwrth-stigma

Mae ein Hyrwyddwyr Amser i Newid Cymru yn darparu hyfforddiant gwrth-stigma sy'n ymgorffori eu profiadau uniongyrchol i grwpiau a sefydliadau cymunedol sydd am herio'r stigma.

Trefnwch eich sgwrs gwrth-stigma

Mae'r ychydig fisoedd diwethaf wedi bod yn anodd i lawer o bobl wrth i ni addasu i ffyrdd newydd o wneud pethau – mae hyn yn arbennig o wir yn y gweithle, lle mae llawer ohonon ni wedi gorfod gweithio gartref neu heb fod yn gweithio o gwbl. Yn ystod y cyfnod digynsail hwn, mae wedi bod yn bwysicach nag erioed gofalu am ein gilydd a chefnogi iechyd meddwl ein gilydd. Ffordd allweddol o wneud hyn yw drwy annog pobl ei bod yn ‘iawn peidio â bod yn iawn’ ac estyn allan a siarad â rhywun.
 
Beth am roi sicrwydd i'ch cydweithwyr ei bod yn iawn i siarad, drwy eu gwahodd i glywed un o'n Hyrwyddwyr yn rhoi cyflwyniad gwrth-stigma rhithwir? Mae cyflwyniadau gwrth-stigma yn ffordd wych o dynnu sylw at rai o'r ffeithiau allweddol am iechyd meddwl a salwch meddwl, herio stigma (gan gynnwys hunan-stigma) a chlywed am brofiadau personol yr Hyrwyddwr o salwch meddwl a'r heriau y mae wedi'u goresgyn.
 
Gall ein Hyrwyddwyr gynnal sgyrsiau drwy lwyfannau fel Zoom, Microsoft Teams a llwyfannau tebyg, neu mae gennym ni rai sgyrsiau sydd wedi'u recordio ymlaen llaw a sgyrsiau sain i chi eu rhannu hefyd! Mae'r sgyrsiau yn para tua 20 – 30 munud wedi'u dilyn gan gyfle am sesiwn holi ac ateb ac maent yn rhad ac am ddim. Os hoffech chi drefnu sgwrs, neu os hoffech chi gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â info@timetochangewales.org.uk.

"Siaradodd Rachel yn onest, yn hyderus a gyda hiwmor ar adegau, a gofynnwyd cwestiynau mor ddi-flewyn-ar-dafod ac anwybodus weithiau iddi - mae hi wirioneddol wedi newid fy nghanfyddiad o salwch meddwl mewn un sesiwn newid bywyd."

Network Rail

Mae'r sesiynau gwybodaeth a hyfforddi i grwpiau yn hyblyg a gallant bara rhwng 20 a 90 munud. Bydd cynulleidfaoedd yn cwrdd â'n Hyrwyddwyr Amser i Newid Cymru, yn gwylio ffilm a gomisiynwyd yn arbennig ar y stigma sy'n gysylltiedig ag iechyd meddwl ac yn cael cyfle i drafod materion a godwyd yn y ffilm gyda'r rheini sydd wedi cael profiad ymarferol o stigma a gwahaniaethu

Mae gwahodd ein Hyrwyddwyr i'ch sefydliad yn rhoi llawer o fuddiannau.

  • Sesiwn hyfforddi am ddim
  • Dangos eich ymrwymiad i herio stigma a gwahaniaethu yn y gweithle
  • Gwneud y gweithle yn amgylchedd lle mae'n iawn i siarad am iechyd meddwl
  • Helpu i greu gweithle sy'n iach yn feddyliol
  • Dangoswyd bod gwella iechyd meddwl a lleihau stigma yn cynyddu morâl staff ac yn lleihau absenoldeb
  • Gwella'r canfyddiad o'ch sefydliad fel cyflogwr gofalgar a chefnogol.

Mae gwahodd ein Hyrwyddwyr i siarad â'ch sefydliad hefyd o fudd mawr i'w helpu i wella. Maent yn cael hyfforddiant a chefnogaeth sy'n eu helpu i ddatblygu sgiliau newydd a chynyddu hyder.

"Cafwyd cipolwg diddorol arall ar ba mor gyffredin yw problemau iechyd meddwl drwy gyflwyno Frank, Addysgwr-Eiriolwr yn Hafal, i'r grwp yr wythnos diwethaf ac rwy'n gwybod ei fod wedi creu argraff ar y dosbarth."

Heddlu De Cymru