Gwneud eich gweithle yn iach

Mae llawer o ffyrdd y gallwch wneud eich gweithle yn iachach i'ch cyflogeion - a chynyddu cymhelliant, ymrwymiad a phresenoldeb.

Drwy roi mesurau fel hyn ar waith, gallwch helpu eich holl gyflogeion i gynnal iechyd meddwl da, a lleihau'r risgiau o waeledd, straen, pryder neu salwch meddwl mwy difrifol.

  • sicrhau bod gan gyflogeion gydbwysedd da rhwng gwaith a bywyd
  • bod yn glir am gyfrifoldebau a disgwyliadau
  • rhoi hyblygrwydd i gyflogeion o ran oriau gwaith
  • annog digwyddiadau cymdeithasol a digwyddiadau chwaraeon ymysg staff

Lle i ddechrau?

Mae siarad am iechyd meddwl yn helpu i fynd i'r afael â gwahaniaethu - helpwch eich cydweithwyr i siarad yn fwy agored a gonest drwy hyrwyddo ein hawgrymiadau siarad.

Mae llawer o adnoddau ar gael i helpu i wneud eich gweithle yn iachach a hapusach. Byddant yn dangos i chi:

  • sut i gynorthwyo cyflogai sydd â phrofiad o broblemau iechyd meddwl
  • sut i siarad â chyflogai sydd mewn trallod
  • sut i gadw mewn cysylltiad yn ystod absenoldeb oherwydd salwch
  • pa fath o addasiadau i'w hystyried pan fydd cyflogai yn dychwelyd i'r gwaith

Cysylltiadau defnyddiol

Pa mor iach yw diwylliant eich cwmni?

  • Mae Gweithle Mind yn darparu ymgynghoriaeth a hyfforddiant i gyflogwyr er mwyn eu helpu i reoli iechyd meddwl a manteisio i'r eithaf ar wir botensial eu cwmni.