Cofrestrwch i fod yn Hyrwyddwr Amser i Newid Cymru!

Bydd cyfleoedd i fynychu hyfforddiant wyneb yn wyneb a sesiynau ar-lein - AM DDIM!

28th April 2021, 8.00am

Bydd yr hyfforddiant yn rhoi'r canlynol i chi:

  • Trosolwg o ymgyrch Amser i Newid Cymru a'r ffordd y gallwch chi gymryd rhan fel Hyrwyddwyr
  • Gwybodaeth am y stigma a'r gwahaniaethu sy'n gysylltiedig ag iechyd meddwl a'r ffordd rydym ni yn eu herio
  • Cipolwg ar ein hadnoddau a sut i'w defnyddio
  • Cyfle i gwrdd ag un o'n Hyrwyddwyr sefydledig, a fydd yn rhannu ei stori â chi ac a fydd wrth law i ateb unrhyw gwestiynau a allai fod gennych am wirfoddoli i Amser i Newid Cymru
  • Canllawiau ar sut i ysgrifennu blog neu ffilmio flogiau ar gyfer ein gwefan a'r cyfryngau cymdeithasol.
  • Cyflwyniad i roi cyflwyniadau gwrthstigma*

*Bydd Hyrwyddwyr sydd am roi cyflwyniadau gwrthstigma yn cael cynnig diwrnod pellach o hyfforddiant, unwaith y byddwn yn gallu cwrdd wyneb yn wyneb. Bydd hyn ar gyfer Hyrwyddwyr sydd am roi sgyrsiau i fusnesau a sefydliadau er mwyn rhannu eu straeon eu hunan o stigma a gwahaniaethu.

Mae Amser i Newid Cymru wedi cyflwyno dau faes blaenoriaeth newydd:

  • Atgyfnerthu'r cynnig lles yn y gweithle gyda ffocws newydd ar gymunedau o amddifadedd economaidd-gymdeithasol drwy weithio gyda chyflogwyr a gweithio'n agosach gyda chyrff y llywodraeth a mentrau fel Cymru Iach ar Waith, Iechyd Cyhoeddus Cymru a'r Adran Gwaith a Phensiynau.
  • Ymchwilio i stigma iechyd meddwl o fewn cymunedau pobl Dduon, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig yng Nghymru. Drwy'r ymarfer gwrando hwn, mae Amser i Newid Cymru yn gobeithio cynrychioli anghenion a safbwyntiau unigolion o gymunedau pobl Dduon, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig yn well.

Yn arbennig, rydym ni'n croesawu ceisiadau i fod yn un o Hyrwyddwyr Amser i Newid Cymru gan unigolion sy'n uniaethu ag unrhyw un o'r ddau faes hyn.

Dyddiad Hyfforddiant Ar-lein Newydd

Dyddiad: Dydd Mercher 1 Mai 2024

Lleoliad: Zoom (Ar-lein)

Amser: 10yb-3.30yp

Sut i gofrestru:

Os yw hyn yn rhywbeth yr hoffech chi gymryd rhan ynddo, e-bostiwch info@timetochangewales.org.uk

Efallai hoffech

Mae dros hanner (58%) o boblogaeth Cymru yn credu bod yna lawer iawn o gywilydd o hyd yn gysylltiedig â chyflyrau iechyd meddwl

Dyma pam mae Cynghrair Gwrth-Stigma y DU – partneriaeth rhwng elusennau iechyd meddwl ar draws y DU – wedi lansio ei hymgyrch Os yw hi’n Oce.

12th March 2024, 12.00am

Darganfyddwch fwy

Mae 68% o bobl Cymru yn cuddio y tu ôl i ‘wyneb dewr’ er mwyn osgoi siarad am iechyd meddwl

Mae data newydd yn datgelu tuedd sy’n peri pryder yng Nghymru, lle mae 68% o bobl yn gwisgo ‘wyneb dewr’ er mwyn osgoi siarad am eu hiechyd meddwl ar adegau anodd.

1st February 2024, 8.00am | Ysgrifenwyd gan Hanna

Darganfyddwch fwy