Wythnos Iechyd Dynion 2020

15th June 2020, 9.00am | Ysgrifenwyd gan Hanna Yusuf

Mae hi'n Wythnos Iechyd Dynion rhwng 15 a 21 Mehefin, sy'n cael ei chynnal gan Men's Health Forum. Thema'r wythnos hon yw Cymryd Camau ar gyfer COVID-19 ac rydyn ni'n eich annog i gymryd camau drwy siarad, gan ddefnyddio'r hashnod #MaeSiaradYnHollbwysig Gall problemau iechyd meddwl effeithio ar un o bob pedwar person ar unrhyw adeg. Rydym hefyd yn rhedeg ein hysbyseb teledu Mae Siarad Yn Holl Bwysig ar ITV a S4C yr wythnos hon felly cadwch lygad am hynny!

Gall dynion yn benodol ei chael hi'n anodd siarad am iechyd iechyd, ond mae siarad yn hollbwysig. Mae'n hen bryd i ni ofyn y cwestiwn ar gyfer iechyd meddwl dynion: ‘Wyt ti'n iawn?’

Pwysigrwydd siarad am iechyd meddwl

Nod ymgyrch #MaeSiaradYnHollbwysig yw annog dynion i drafod eu hiechyd meddwl heb ofni cael eu barnu. Mae ymgyrch Mae Siarad yn Hollbwysig yn pwysleisio'r ffaith mai trafod iechyd meddwl yw un o'r pethau mwyaf dewr y gall dyn ei wneud. Caiff ymadroddion fel 'bod yn gryf', 'peidio â dangos teimladau' a 'dydy dynion ddim yn crio' eu defnyddio mewn ffordd negyddol i farnu dynion sy'n cydnabod bod ganddynt iechyd meddwl gwael.

Gyda phwy ddylwn i siarad am fy iechyd meddwl?

Gofynnodd ein harolwg stigma diwethaf 'gyda phwy fyddech chi'n teimlo mwyaf cyfforddus yn siarad am eich iechyd meddwl yn ystod y cyfnod hwn o gyfyngiadau symud o ganlyniad i COVID-19?' Teulu, partner, ffrind neu therapi siarad preifat oedd ateb y mwyafrif o ymatebwyr, ond dim ond 2.73% o ymatebwyr a ddywedodd y bydden nhw'n siarad â'r bobl y maen nhw'n byw gyda am eu hiechyd meddwl. 

Rydyn ni'n gallu gweld pam bod hyn yn broblem yng nghyd-destun y cyfyngiadau symud, lle y bydd llawer o bobl wedi'u cyfyngu i dŷ gyda'r bobl sy'n cyd-fyw â nhw ond pobl maen nhw'n teimlo'n anghyfforddus yn siarad â nhw. Dyma pam rydyn ni'n eich annog chi i gysylltu â'r bobl rydych chi'n ymddiried ynddyn nhw fwyaf dros y ffôn, drwy neges destun neu hyd yn oed drwy ysgrifennu atyn nhw. 

Ydych chi'n poeni am ffrind neu anwylyn?

Dechreuwch sgwrs, gofynnwch y cwestiwn 'wyt ti'n iawn?' a byddwch yn barod i wrando. Weithiau, dim ond siarad sydd angen ei wneud. Ond, yn yr un modd â salwch corfforol, efallai y bydd angen ffonio'r meddyg i wella pethau.

Ydych chi'n poeni am siarad am eich iechyd meddwl?

Nododd ein harolwg stigma diwethaf fod 54% o ymatebwyr o'r farn bod hunan-stigma wedi gwaethygu ers cyfyngiadau symud COVID-19. Does dim angen i'r broses o siarad am iechyd meddwl fod yn faich. Gallwch gael rhagor o wybodaeth gan ein Hyrwyddwyr sy'n sôn am sut gwnaethon nhw gael y sgyrsiau hynny am eu hiechyd meddwl y tro cyntaf.  

Efallai hoffech

Mae dros hanner (58%) o boblogaeth Cymru yn credu bod yna lawer iawn o gywilydd o hyd yn gysylltiedig â chyflyrau iechyd meddwl

Dyma pam mae Cynghrair Gwrth-Stigma y DU – partneriaeth rhwng elusennau iechyd meddwl ar draws y DU – wedi lansio ei hymgyrch Os yw hi’n Oce.

12th March 2024, 12.00am

Darganfyddwch fwy

Mae 68% o bobl Cymru yn cuddio y tu ôl i ‘wyneb dewr’ er mwyn osgoi siarad am iechyd meddwl

Mae data newydd yn datgelu tuedd sy’n peri pryder yng Nghymru, lle mae 68% o bobl yn gwisgo ‘wyneb dewr’ er mwyn osgoi siarad am eu hiechyd meddwl ar adegau anodd.

1st February 2024, 8.00am | Ysgrifenwyd gan Hanna

Darganfyddwch fwy