Cymraeg

Creu drama am iechyd meddwl

Mae prosiect cymunedol yn chwilio am wirfoddolwyr i helpu greu drama Gymraeg newydd am iechyd meddwl yng Nghymru heddiw.

19th March 2014, 3.56pm

Mae prosiect cymunedol yn chwilio am wirfoddolwyr i helpu greu drama Gymraeg newydd am iechyd meddwl yng Nghymru heddiw.

Nod y prosiect yn ardal Bangor, Gwynedd yw  llunio a llwyfannu drama Gymraeg am iechyd meddwl a honno wedi ei chreu fel cywaith gan nifer o unigolion sydd â phrofiad uniongyrchol o gyflyrau iechyd meddwl.

Mae’r prosiect wedi ei ariannu fel rhan o raglen cymunedol Amser I Newid Cymru a’r gobaith ydi llwyfannu’r ddrama yn lleol yn yr Hydref i gyd-fynd gydag Wythnos Iechyd Meddwl Cymru.

“Be dwi’n chwilio amdano ydi unigolion a fyddai’n fodlon tynnu ar eu profiadau yn y maes iechyd er mwyn cyd-weithio hefo unigolion tebyg eraill i sgwennu’r ddrama hon’’ meddai arweinydd y prosiect, Aled G Jôb, Y Felinheli.

“Er mai mater i’r grŵp ei hun fydd union gynnwys y ddrama, y gobaith yw creu cynhyrchiad sydd yn dweud rhywbeth pwysig am iechyd meddwl yn ein cymdeithas heddiw yn wyneb y ffaith bod problemau iechyd meddwl wedi cynyddu cymaint dros y blynyddoedd diwethaf.”

“Dwi’n grediniol y bydd dod at ein gilydd fel hyn i sgwennu am ein profiadau a’u cyflwyno i’r cyhoedd ar ffurf drama yn llesol iawn i’r rhai hynny ohonom sy’n byw gyda chyflyrau iechyd meddwl- ac yn gyfrwng i godi ymwybyddiaeth am iechyd meddwl ymlith pobl eraill yn ein cymdeithas.” 

Cynhelir y sesiynau trafod a sgriptio yn Y Felin Sgwrsio, canolfan gymunedol Y Felinheli, sydd wedi ei osod mewn man cyfleus ar y stryd fawr yng nghanol y pentref.

Does dim angen unrhyw brofiad blaenorol ym maes y ddrama i gymryd rhan yn y prosiect a bydd Dafydd Williams o Gwmni Red Button Theatre yn cynnig cymorth artistig wrth fynd ati i sgwennu’r ddrama.

Dywedodd Sara Powys, sydd yn arwain gwaith cymunedol Amser I Newid Cymru:

“Rydym yn falch iawn i gefnogi’r prosiect cyffrous hwn yng Ngwynedd. Mae dechrau sgyrsiau o fewn cymunedau Cymru am iechyd meddwl yn holl bwysig, os am leihau’r stigma sydd yn dal i fodoli. Mae problemau iechyd meddwl yn effeithio ar un o bob pedwar ohonom, felly mae gallu trafod hyn yn bwysig i bob teulu a phob cymuned. Mae’r ddrama yn ffordd greadigol o ddod â phobl ynghyd i wneud hynny.”

Mi fydd cyfarfod nesaf y grwp ar nos Iau Mehefin 12. Gall unrhyw un sydd am fynychu neu sydd â diddordeb yn y prosiect gysylltu ag Aled trwy Amser i Newid Cymru.

Efallai hoffech

Mae dros hanner (58%) o boblogaeth Cymru yn credu bod yna lawer iawn o gywilydd o hyd yn gysylltiedig â chyflyrau iechyd meddwl

Dyma pam mae Cynghrair Gwrth-Stigma y DU – partneriaeth rhwng elusennau iechyd meddwl ar draws y DU – wedi lansio ei hymgyrch Os yw hi’n Oce.

12th March 2024, 12.00am

Darganfyddwch fwy

Mae 68% o bobl Cymru yn cuddio y tu ôl i ‘wyneb dewr’ er mwyn osgoi siarad am iechyd meddwl

Mae data newydd yn datgelu tuedd sy’n peri pryder yng Nghymru, lle mae 68% o bobl yn gwisgo ‘wyneb dewr’ er mwyn osgoi siarad am eu hiechyd meddwl ar adegau anodd.

1st February 2024, 8.00am | Ysgrifenwyd gan Hanna

Darganfyddwch fwy