Cymuned

Cyhoeddi ein prosiectau cymunedol diweddaraf

Mae'n bleser gan Amser i Newid Cymru gyhoeddi manylion naw prosiect cymunedol newydd sydd â'r nod o gael pobl i ddechrau siarad am iechyd meddwl ledled Cymru.

27th February 2014, 4.20pm | Ysgrifenwyd gan Time to Change Wales

Mae'n bleser gan Amser i Newid Cymru gyhoeddi manylion naw prosiect cymunedol newydd sydd â'r nod o gael pobl i ddechrau siarad am iechyd meddwl ledled Cymru.

Ariennir y prosiectau gan Amser i Newid Cymru ac fe'u cyflwynir gan Eiriolwyr, pobl sydd â phrofiad o broblemau iechyd meddwl.

Dywedodd Rheolwr Rhaglen Amser i Newid Cymru, Ant Metcalfe:

"Mae'n bleser gan Amser i Newid Cymru ariannu rhaglen o brosiectau newydd, cyffrous o dan arweiniad Eiriolwyr mewn cymunedau ledled Cymru, sydd â'r nod o ddod â phobl sydd wedi profi problemau iechyd meddwl, a phobl sydd heb eu profi, at ei gilydd.

Mae'n wych gweld y fath amrywiaeth o brosiectau, yn cwmpasu'r gogledd, y de a'r canolbarth, mewn cymunedau gwledig a threfol, drwy gyfrwng y Gymraeg, Saesneg ac ieithoedd eraill. Mae'r prosiectau eu hunain yn defnyddio celf, cerddoriaeth a chynhyrchu fideo ymysg gweithgareddau eraill i ddechrau sgyrsiau am iechyd meddwl a helpu i roi terfyn ar stigma mewn cymunedau yng Nghymru."

MaD Caff

Miranda Betts o Gei Newydd sy’n cynnal MaDCaff, sef prosiect cerddoriaeth a dawns newydd gwych, ledled Ceredigion.

Mae Miranda yn gobeithio denu pobl sydd â phrofiad o iechyd meddwl, a phobl sydd heb brofiad, i alw heibio a mwynhau'r perfformiadau cerddoriaeth a dawns. 'Prif nod y prosiect yw rhoi man diogel i gerddorion a dawnswyr sydd â phroblemau iechyd meddwl ddod i rannu eu storïau, eu sgiliau a'u doniau, a dod â phob at ei gilydd i siarad am iechyd meddwl', meddai Miranda.

Bydd 'siop gyfnewid' ym mhob digwyddiad caffi, lle gall pobl ddod â'u cryno ddisgiau, llyfrau, dillad ac ati a'u cyfnewid, yn ogystal â chael amser i sgwrsio a chwrdd â phobl newydd, ac, wrth gwrs, te a chacen!

Shana Bashana

Caiff Shana Bashana ei arwain gan grŵp merched Ashiana, sy'n cydweithio â Mind Casnewydd. Nod y prosiect yw codi ymwybyddiaeth o faterion iechyd meddwl, yn bennaf o fewn cymunedau Asiaidd, ac annog sgyrsiau agored am iechyd meddwl drwy weithdai codi ymwybyddiaeth, sesiynau therapi holistig a chelfyddyd greadigol. Nod arall Shana Bashana yw gwella dealltwriaeth o'r ffordd y gall stigma a gwahaniaethu effeithio ar fywyd teuluol.

Mae'r prosiect yn cynnwys digwyddiad cyhoeddus gyda stondinau a gweithdai a bydd baner Amser i Newid Cymru yn cael ei chreu a fydd yn cynnwys negeseuon cadarnhaol ynghylch lles mewn ieithoedd gwahanol.

Dywedodd Arweinydd y Prosiect Rahila Hamid - 'Ashiana oedd y grŵp cyntaf o'i fath a sefydlwyd 16 mlynedd yn ôl i gefnogi merched o'r gymuned Asiaidd â'u hiechyd meddwl. Mae'r prosiect hwn yn rhoi llais i'r grŵp hwnnw, a chyfle i godi ymwybyddiaeth a all gael effaith barhaol.'

Dual Control

Mae Dual Control yn brosiect ffilm sy’n edrych ar brofiadau pobl sydd a phroblemau iechyd meddwl ac hefyd ddibyniaeth ar alcohol neu gyffuriau.  

Meddai Charles, sy’n arwain y brosiect:

“Ein bwriad yw ffilmio pobl o gymaint o wahanol cefndiroedd a phosib dros Gymru sydd yn adfer o gamdrin sylweddau neu ddibyniaeth ac sydd wedi, neu sydd yn dioddef o broblemau iechyd meddwl wrth iddynt drafod eu bywydau ac eu cynlluniau ar gyfer y dyfodol. 

We will combine these interview stories with compelling testimony from leading professionals in the field of addiction and mental health.

Mi fyddwn hefyd yn cyfweld ag aelodau o’r teulu, ffrindiau a chydweithwyr sydd wedi gweld y person ar ei siwrne. Gallwn fod yn shwr y bydd nifer o’r unigolion yma yn dechrau ag un cysyniad o iechyd meddwl a dibyniaeth a gorffen ag un dra gwahanol!”

Mental Notes Beyond Words

Caiff y prosiect hwn ei arwain gan grŵp o artistiaid creadigol amrywiol sydd wedi dod at ei gilydd i gyflwyno Mental Notes. Nod y prosiect yw codi ymwybyddiaeth am faterion iechyd meddwl yn ardal Tre-biwt, ac annog trafodaethau agored drwy gyfrwng cerddoriaeth, rhyddiaith a chân.

Mae'r grŵp yn cynnwys artistiaid sydd â phrofiad ym myd creu cerddoriaeth a ffilmiau, radio, ymchwil drama a mentora. Drwy'r cyfryngau hyn, mae'r prosiect yn anelu at annog cyfranogwyr i siarad heb gywilydd a chyflwyno eu meddyliau, eu hofnau a'u dyheadau sy'n gysylltiedig â gwella o gyflwr iechyd meddwl drwy waith celf a gaiff ei arddangos yng Nghanolfan Hanes a Chelfyddyd Tre-biwt.

Dywedodd Arweinydd y Prosiect, Tony Wright - 'Bydd ei leoli mewn ardal (Tre-biwt) sy'n gysylltiedig ag aml-ethnigrwydd a defnyddio criwiau aml-ethnig, athrawon, ymarferwyr a phobl â phroblemau iechyd meddwl, yn golygu y bydd y prosiect (Mental Notes) yn cynnwys grwpiau sydd wedi'i hymyleiddio ac yn rhoi cyfle iddynt archwilio'r mythau a'r pryderon sydd gan wahanol grwpiau am iechyd meddwl.

Making Minds Creative Challenge

Caiff Making Minds ei arwain gan y gweithredwr iechyd meddwl Mark Smith.  Cynhelir y prosiect yn bennaf yn Rhondda Cynon Taf a bydd yn cynnwys tua 15 o gyfranogwyr yn cymryd rhan mewn amrywiaeth o weithdai creadigol er mwyn hwyluso trafodaethau am iechyd meddwl lle caiff dulliau amgen o wella eu harchwilio. Bydd y gweithdy creadigol yn cynhyrchu allbwn megis arddangosfa neu ffilm a gaiff ei ddangos ar-lein ac mewn lleoliadau cymunedol ac iechyd.

Nod y prosiect yw denu pobl o'r sector cyhoeddus, y trydydd sector a'r sector cymunedol i weithio gyda'i gilydd mewn gweithgaredd creadigol sydd wedi'i hwyluso. Elfen ganolog y prosiect yw defnyddio amrywiaeth o ddulliau gwerthuso i nodi a yw teimladau, agweddau a chanfyddiadau'r cyfranogwyr wedi newid o ganlyniad i'r prosiect, wrth iddynt archwilio'r materion cymhleth sy'n gysylltiedig â gwella iechyd meddwl. Caiff y canfyddiadau eu defnyddio i lunio adroddiad i hysbysu ymarferwyr iechyd er mwyn gwella'r ddarpariaeth ar gyfer iechyd meddwl.

Dywedodd Arweinydd y Prosiect Mark Smith ei fod yn 'awyddus i helpu i ddarparu llwybr gwella amgen i'r rhai sy'n cael eu heffeithio gan salwch meddwl, yn ogystal â chynyddu eu rôl yn y gymuned a datblygu strwythur cymdeithasol gwell, drwy roi gofod, amser, deunyddiau, offer a chymorth iddynt feithrin mwy o hyder i siarad am salwch meddwl a'i reoli.

Changing Faces

“Rydym yn awyddus i gyfweld â phobl â phroblemau iechyd meddwl, a'u ffilmio, er mwyn dangos sut y maent wedi bod yn ymdopi gyda'u problemau tra'n gweithio, hyfforddi a magu teulu” meddai Jonathan o brosiect Changing Faces.

“Dechreuais y prosiect gan fy mod yn dioddef o broblemau iechyd meddwl a thros y blynyddoedd diwethaf, roeddwn yn credu mai fi oedd yr unig un a oedd yn dioddef. Roeddwn yn profi gwahaniaethu ond ar y pryd doeddwn i ddim yn teimlo'n ddigon cryf i drafod y mater. Roedd y pethau hyn i gyd yn effeithio ar fy nheulu hefyd ac yn rhoi cryn straen ar ein bywydau.

Rydym yn awyddus i gael pobl i siarad yn agored am broblemau iechyd meddwl a newid canfyddiadau pobl. Mae canfyddiad cyffredinol bob amser nad yw dioddefwyr yn gallu cyflawni dim, ac maent yn cael eu diystyru'n naturiol.

Rydym yn awyddus i ddangos nad yw hyn yn wir o gwbl!”

Unwind

Mae'r prosiect yn cynnig sesiynau creu cerddoriaeth sy'n agored i bawb mewn tafarndai, clybiau a chanolfannau cymunedol yn ardal Aberystwyth, lle bydd pobl yn cael eu hannog i siarad am broblemau iechyd meddwl.

Y Babell Goch

Mae'r Babell Goch yn rhaglen hyfforddi grymuso merched drwy arbrofi sy'n cynnig hyfforddiant i hyd at 18 o ferched o'r canolbarth er mwyn iddynt ddychwelyd i'w cymunedau a sefydlu eu grwpiau grymuso merched tebyg eu hunain.

Mae iechyd meddwl yn dal i fod yn agwedd ar fywyd sy'n peri ofn i bobl ac mae hyn yn creu stigmateiddio a barnu. Drwy gynnig mannau lle gall merched siarad yn rhydd gyda phobl sy'n gwrando arnynt ac yn derbyn eu profiadau, mae'r Babell Goch yn cymryd cam gwerthfawr tuag at herio'r gwahaniaethu hirsefydlog hwn.

Dywedodd Jenny Smith, cydlynydd Y Babell Goch:

"Gall grwpiau cymorth fel hyn helpu i oresgyn profiadau o ynysu a hunan-amau. Mae'n hawdd dychmygu eich bod yn mynd drwy'r profiad ar eich pen eich hun ond mae pob menyw yn wynebu heriau ar adegau penodol, a thrwy ddod at ein gilydd gallwn gefnogi ein gilydd i dyfu'n gryfach a herio profiadau cyffredin o drallod meddwl."

Meddwl am ddrama

Y bwriad yw cael criw o bobl ynghyd i gyd-ysgrifennu drama Gymraeg newydd am iechyd meddwl a fyddai wedyn yn cael ei llwyfannu yn yr ardal nes ymlaen y flwyddyn hon.

“Y syniad ydi ein bod ni’n gallu defnyddio profiadau go iawn pobl ar gyfer llunio drama a fydd gobeithio yn dweud rhywbeth pwysig am  iechyd meddwl yn y gymdeithas heddiw” meddai Aled G Jôb, sydd yn eiriolwr gydag ymgyrch Amser I Newid Cymru.

“Mae gan bawb ohonom sydd â phrofiad o’r cyflyrau ein stori bersonol i’w hadrodd ac mae yna lawer o ymchwil yn dangos bod rhannu profiadau ag eraill a sgwennu am y profiadau hynny yn gallu bod yn broses llesol iawn. Gobeithio hefyd y gall y ddrama orffenedig gyfleu’r pwynt nad rhywbeth sy’n digwydd i bobl eraill yw problemau iechyd meddwl, ac yn wir bod iechyd meddwl yn bwysig i bawb ohonom”.

 

I glywed rhagor am y prosiectau hyn, i ddarganfod sut i gymryd rhan ynddynt neu am ymholiadau gen y wasg, cysylltwch a ni.

Efallai hoffech

Mae dros hanner (58%) o boblogaeth Cymru yn credu bod yna lawer iawn o gywilydd o hyd yn gysylltiedig â chyflyrau iechyd meddwl

Dyma pam mae Cynghrair Gwrth-Stigma y DU – partneriaeth rhwng elusennau iechyd meddwl ar draws y DU – wedi lansio ei hymgyrch Os yw hi’n Oce.

12th March 2024, 12.00am

Darganfyddwch fwy

Mae 68% o bobl Cymru yn cuddio y tu ôl i ‘wyneb dewr’ er mwyn osgoi siarad am iechyd meddwl

Mae data newydd yn datgelu tuedd sy’n peri pryder yng Nghymru, lle mae 68% o bobl yn gwisgo ‘wyneb dewr’ er mwyn osgoi siarad am eu hiechyd meddwl ar adegau anodd.

1st February 2024, 8.00am | Ysgrifenwyd gan Hanna

Darganfyddwch fwy