Chwalu'r rhwystrau a stigma

Doeddwn i ddim tan i mi gael diagnosis, a cymerodd hyn amser hir oherwydd mae’r salwch yn digwydd yn aml ynghyd â phroblemau iechyd meddwl eraill sydd yn cuddio’r BPD.

5th August 2013, 11.51am | Written by: Angharad

Doeddwn i ddim tan i mi gael diagnosis, a cymerodd hyn amser hir oherwydd mae’r salwch yn digwydd yn aml ynghyd â phroblemau iechyd meddwl eraill sydd yn cuddio’r BPD.

Llun Angharad

Ydych chi yn teimlo nad oes gennych hunaniaeth?

Ydych chi yn hunan anafu i helpu eich teimladau?

Ydych chi yn teimlo nad ydych yn ffitio i fewn nunlle?

Ydych chi yn teimlo bod eich emosiynau ym mhobman am dim rheswm amlwg?

Ydych chi yn ofni cael eich gadael?

Darllenwch ymlaen…

Credir mai dim ond un y cant o’r boblogaeth sydd gyda’r cyflwr, ac mae tri-chwarter o’r rhain yn fenywod. Mae BPD yn sefyll am Borderline Personality Disorder sydd yn un o sawl anhwylder personoliaeth, ac mae meddygon yn defnyddio y canllawiau NICE i rhoi diagnosis i rhywun. Os mae’r claf yn ymddangos gyda pump allan o’r saith symptomau canlynol, mae’n bosib i’r meddyg rhoi diagnosis o BPD.

Mae eich emosiynau yn uchel ac isel, o hyder i anobaith, o gwacter i ddicter

  1. Mae’n anodd i chi wneud neu cynnal perthnasau 
  2. Mae gennych ymdeimlad ansad o hunaniaeth, er enghraifft, yr ydych yn meddwl yn wahanol amdan eich hun yn dibynu ar pwy sydd gyda chi 
  3. Yr ydych yn cymryd peryglon heb meddwl am y canlyniadau 
  4. Yr ydych yn hunan-anafu, neu yn meddwl am hunan-anafu, megis gorddosio neu torri croen 
  5. Mae gennych ofn cael eich gadael, cael eich gwrthod neu bod ar ben eich hun 
  6. Weithiau yr ydych yn credu pethau sydd ddim yn wir, fel rhithdybiau, neu yr ydych yn gweld neu clywed pethau nad ydynt yno mewn gwirionedd, fel rhithweledigaethau.

Dydy’r achosion o BPD ddim yn glir, ond mae’r mwyafrif o seicolegwyr yn meddwl ei fod yn datblygu trwy cyfuniad o ffactorau, er enghraifft: ein natur; ein plentyndod; profiadau mewn llencyndod; a digwyddiadau bywyd anodd.

Mae’n bwysig hefyd i beidio ofni siarad allan am iechyd meddwl er mwyn chwalu y rhwystrau a stigma sydd wedi cael eu hadeiladu gan ein cymdeithas.

Weithiau mae deall yr achosion yn gallu helpu i ddelio gyda rhywbeth, a dyna pam mae ‘therapïau siarad’ yn aml yn cael eu cynnig i helpu gyda BPD. Cafodd DBT ei gynnig i mi, sydd yn fath o therapi seicolegol, ond mae llawer o therapïau gwahanol yn gallu helpu hefyd, yn cynnwys CBT a CAT, mae’n dibynu ar yr unigolyn. Does dim meddyginiaeth ar gael yn benodol am BPD, ond weithiau mae rhai meddyginiaethau yn gallu trin rhai o symptomau y salwch, fel gwrthiselyddion ar gyfer iselder. Y prif beth ydy bod yn gallu siarad yn agored gyda rhywun, cael eich gwrando i, a cael eich deall. Mae’n bwysig hefyd i beidio ofni siarad allan am iechyd meddwl er mwyn chwalu y rhwystrau a stigma sydd wedi cael eu hadeiladu gan ein cymdeithas. Mae salwch meddwl yn salwch go wir. Mae BPD yn salwch go wir. Dydy pobl ddim yn siarad digon am y pynciau tabŵ yma. Digwydd clywed darllediad dewr iawn ar y radio arweinodd fi i ddarganfod gwybodaeth am BPD, ac nawr, yr wyf yn benderfynol o godi ymwybyddiaeth, dim ots pa mor anodd ydi hi i mi siarad.

Dydy pobl ddim yn siarad digon am y pynciau tabŵ yma.

Trwy siarad a bod yn agored am eich teimladau gyda BPD, neu unrhyw salwch meddwl, mae’n bosib i chi ac eraill i ddeall mwy amdan y cyflwr, wedyn mae’n hawsach i eraill eich helpu chi ac hefyd i chi helpu eich hun. Rydw i wedi darganfod bod cynnal gwrthdyniadau yn ffordd gwych o helpu eich hunan i ddianc o’r poen mae salwch meddwl yn gallu creu. Parhawch i wneud yr hobïau rydych yn eu mwynhau, megis, rydw i’n hoffi ysgrifennu, pobi, celf, canu, chwarae’r piano a cerdded. Mae’n rhoi ymdeimlad o bwrpas i chi ac yn dangos eich bod yn fwy na dim on salwch meddwl.

Pedidiwch â gadael eich hun i deimlo wedi gwthio o’r neilltu gan gymdeithas. Siaradwch!

Peidiwch â gadael i BPD eich diffinio. Bywch!

Angharad

You may also like:

Smile and Wave

Naomi talks about the importance of expressing how you really feel when asked, ‘How are you?’ and the many ways you can answer that question.

20th February 2024, 8.47am | Written by: Naomi

Find out more

Talk, talk, talk!

Samuel emphasises the importance of talking about your mental health, especially during difficult times, and how talking has saved his life.

20th February 2024, 8.43am | Written by: Samuel

Find out more