Hyfforddiant

Mae Hyrwyddwyr Amser i Newid Cymru yn bobl sydd â phrofiad o broblemau iechyd meddwl sy'n adrodd eu straeon, yn rhoi cyflwyniadau a hyfforddiant gwrth-stigma mewn grwpiau cymunedol, sefydliadau a gweithleoedd ledled Cymru.

Os oes gennych brofiad o broblemau iechyd meddwl a hoffech gael help i roi diwedd ar y stigma a'r gwahaniaethu, gallwn gynnig hyfforddiant i'ch helpu i siarad am eich profiadau, naill ai'n anffurfiol, gyda'r teulu a ffrindiau, neu fel cyflwyniadau ffurfiol. Y cam cyntaf yw cofrestru fel Hyrwyddwr Amser i Newid Cymru, fel y gallwn anfon y wybodaeth sydd ei hangen arnoch.

Os hoffech i un o'n hyrwyddwyr ymweld â'ch sefydliad i siarad ag aelodau staff neu wirfoddolwyr, cysylltwch â ni.

Blog Rachael ar fod yn Hyrwyddwr

"Fel Hyrwyddwr Amser i Newid Cymru, rwy'n rhoi cyflwyniadau i grwpiau bach a mawr er mwyn ceisio herio barn pobl ar y stigma a'r gwahaniaethu sy'n gysylltiedig ag iechyd meddwl. Wrth i amser fynd heibio, rwyf wedi magu hyder. Rwy'n mynd yn nerfus o hyd, ond rwyf wedi datblygu strategaethau er mwyn troi'r fath deimladau yn rhywbeth positif yn fy nghyflwyniad. Yn fy nghyflwyniad diwethaf o flaen fy nghynulleidfa fwyaf hyd yn hyn, roeddwn wrth fy modd fod pawb yn gwrando'n astud arnaf." Shelley, Hyrwyddwr Amser i Newid Cymru

Gallwch hefyd ddarganfod mwy am sut y gall eich sefydliad helpu i atal stigma yn y gweithle.