Ystadegau a ffeithiau iechyd meddwl

Gall y ffeithiau a'r ystadegau allweddol hyn am broblemau iechyd meddwl helpu i herio'r mythau sy'n cyfrannu at y stigma mae llawer o bobl yn dal i'w wynebu.

  1. Agweddau yng Nghymru
  2. Iechyd meddwl
  3. Stigma iechyd meddwl
  4. Stigma yn y gwaith
  5. Trais a salwch meddwl
  6. Portreadau o iechyd meddwl mewn dramâu ac operâu sebon ar y teledu
  7. Ymchwil
  8. Ffynonellau eraill o wybodaeth

1. Arolwg o agweddau'r cyhoedd tuag at iechyd meddwl, Cymru 2016

  • Cred un o bob deg na all pobl â salwch meddwl fyth wella'n llwyr.
  • Cred un o bob un deg dau y dylai unigolyn fynd i'r ysbyty unwaith y maent yn dangos arwydd o salwch meddwl.
  • Cred un o bob deg y gellir ymddiried llai mewn pobl â phroblemau iechyd meddwl na phobl sydd heb.
  • Cred un o bob saith na ddylid caniatáu i bobl â phroblemau iechyd meddwl ddal swyddi cyhoeddus.
  • Cred bron un o bob ugain na ddylid rhoi unrhyw gyfrifoldebau i bobl â phroblemau iechyd meddwl.
  • Cred un o bob ugain o bobl na ddylid caniatáu i bobl â phroblemau iechyd meddwl gael plant.
  • Cred un o bob dau o bobl na ellir rhagweld ymddygiad pobl â phroblemau iechyd meddwl.
  • Cred 20% a holwyd bod y gyfran o'r boblogaeth sy'n wynebu problemau iechyd meddwl yn un o bob deg neu lai.
  • Cred un o bob deg y bobl fod bod o gwmpas rhywun â salwch meddwl yn gallu eu gwneud yn anghyfforddus.

 

2. Iechyd Meddwl

Mae gan un o bob pedwar broblem iechyd meddwl. (Psychiatric Morbidity, Y Swyddfa Ystadegau Gwladol (2007))

Amcangyfrifir bod problemau iechyd meddwl yng Nghymru yn costio tua £7.2 biliwn y flwyddyn yn gyffredinol. (Mental Health Research Network (2009), Hyrwyddo iechyd meddwl ac atal salwch meddwl:yr achos economaidd dros fuddsoddi yng Nghymru)

Erbyn 2020, problemau sy'n ymwneud â salwch meddwl fydd y prif beth  ar ôl clefyd y galon sy'n cyfrannu fwyaf at y baich clefydau byd-eang (Sefydliad Iechyd y Byd)

Mae gan 53% o'r merched yng Nghymru broblemau iechyd meddwl lefel isel. (Women Like Me, Supporting Wellbeing in Girls and Women, Platform 51, 2011)

Mae hunan-niwed yn broblem sylweddol yng Nghymru, o ganlyniad ceir 6,000 o dderbyniadau brys i'r ysbyty bob blwyddyn. (Beth am Siarad â Fi?, Strategaeth i leihau Hunanladdiad a Hunan-niwed yng Nghymru, Llywodraeth Cynulliad Cymru, 2008)

Mae 300 o bobl yn marw drwy hunanladdiad yng Nghymru bob blwyddyn, mae 150,000 yn ystyried lladd eu hunain. (Beth am Siarad â Fi?, Strategaeth i leihau Hunanladdiad a Hunan-niwed yng Nghymru, Llywodraeth Cynulliad Cymru, 2008)

Yn 2010-11, cafwyd 11,198 o dderbyniadau (ac eithrio achosion o gadw pobl mewn man diogel) i gyfleusterau iechyd meddwl yng Nghymru.  (Derbyn Cleifion i Gyfleusterau Iechyd Meddwl, 2010-11, Llywodraeth Cymru, 2011)

Mae'r gyfradd hunanladdiad ymhlith dynion yng Nghymru yn uwch na chyfartaledd y DU. (Beth am Siarad â Fi?, Strategaeth i leihau Hunanladdiad a Hunan-niwed yng Nghymru, Llywodraeth Cynulliad Cymru, 2008)

 

3.  Stigma iechyd meddwl

Mae 46% o bobl yng Nghymru o'r farn bod y rheini sydd wedi profi iselder yn anaddas i weithio fel athrawon ysgol gynradd. (Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol Cymru (2008), Pwy ydych chi’n ei weld? Byw gyda’n gilydd yng Nghymru)

Ni fyddai 66% o’r bobl yng Nghymru yn rhentu ystafell mewn fflat a rennir i rywun â chyflwr iechyd meddwl. (Arolwg barn YouGov 2010 a gomisiynwyd gan Amser i Newid)

Mae stigma'n atal pobl rhag manteisio ar wasanaethau mewn ardaloedd gwledig yng Nghymru. (Mwy na Rhif, Loteri Fawr 2008) )

Er bod nifer o gyflyrau iechyd yn arwain at stigmateiddio, problemau iechyd meddwl yw'r prif beth ar ôl HIV/AIDS sy'n arwain at wrth wahaniaethu ac allgau. (Roeloffs, C., Sherbourne, C., Unutzer, J., Fink, A., Tang, L., a Wells, K.B. (2003) Stigma and depression among primary care patients. General Hospital Psychiatry 25, 3115)

Mae Sefydliad Iechyd y Byd a Chymdeithas Seiciatrig y Byd yn credu bod stigma yn un o'r heriau mwyaf sy'n wynebu pobl â phroblemau iechyd meddwl. (Sefydliad Iechyd y Byd (2001) Mental Health 2001 - Mental health: new understanding, new hope. Genefa: Sefydliad Iechyd y Byd. Sartorius, N. (1997) )

 

4.  Stigma yn y gwaith

Mae ofn ar bedwar o bob deg cyflogai i ddatgelu problemau iechyd meddwl i'w cyflogwr. (Focus on Managing and Supporting Mental Health at Work, Y Sefydliad Siartredig Personél a Datblygu, 2011) )

Dywedodd un o bob deg a oedd wedi datgelu problem iechyd meddwl fod eu cydweithwyr yn gwneud sylwadau coeglyd, a nododd un o bob deg fod eu cydweithwyr yn eu hosgoi. (Out of Work: A survey of the experiences of people with mental health problems within the workplace. Y Sefydliad Iechyd Meddwl, 2002) )

Caiff llai na chwarter o'r bobl sydd â phroblem iechyd meddwl hirdymor eu cyflogi, sef y gyfradd isaf ar gyfer unrhyw grŵp anabledd. (Swyddfa Ystadegau Gwladol, Arolwg o'r Llafurlu, 2003)

Dim ond tua un o bob deg person mewn gofal Seiciatreg sydd â swydd, a bydd fel arfer yn ennill dwy ran o dair o'r gyfradd fesul awr genedlaethol arferol.  (Huxley P a Thornicroft G, Social Inclusion, Social Quality and Mental Illness. British Journal of Psychiatry tudalennau 289-90, 2003)

Mae 35% o'r oedolion sydd â chyflyrau iechyd meddwl hirdymor yn dweud eu bod am weithio (o gymharu â 28% o'r rhai sydd â phroblemau iechyd eraill).  (Swyddfa Ystadegau Gwladol, Arolwg o'r Llafurlu, 2003)

Mae pobl sydd â phroblemau iechyd meddwl yn wynebu dros ddwywaith y risg o golli eu swyddi o gymharu â'r boblogaeth gyffredinol. (Mental Health and Social Exclusion Unit, Llundain, 2004)

Byddai llai na phedwar o bob deg cyflogwr yn ystyried cyflogi rhywun â phroblem iechyd meddwl, o gymharu â mwy na chwech o bob deg a fyddai'n cyflogi rhywun ag anabledd corfforol. (Mental Health and Social Exclusion Unit, Llundain, 2004)

Mae Canolfan Sainsbury (2007) wedi amcangyfrif bod effeithlonrwydd gwaith yr amherir arno ('presenoliaeth') oherwydd salwch meddwl yn costio £15.1 biliwn, neu £605 am bob cyflogai yn y Deyrnas Unedig sef bron ddwywaith y gost amcangyfrifedig o £8.4 biliwn oherwydd absenoldeb. (Mental Health and Work, Coleg Brenhinol y Seiciatryddion, 2008)

Ar unrhyw adeg benodol, mae un o bob chwech o'r boblogaeth o oedran gweithio ym Mhrydain Fawr yn dioddef symptomau sy'n gysylltiedig â salwch meddwl megis problemau cwsg, blinder, anniddigrwydd a phryder nad ydynt yn bodloni'r meini prawf ar gyfer diagnosis o anhwylder meddwl ond y gallant effeithio ar allu rhywun i weithredu'n briodol (Swyddfa Ystadegau Gwladol, 2001).  Mae gan un o bob chwech arall o'r boblogaeth o oedran gweithio symptomau sydd, oherwydd eu natur, eu difrifoldeb a'u hyd, yn bodloni'r meini prawf diagnostig (Swyddfa Ystadegau Gwladol, 2001). Câi'r anhwylderau meddwl cyffredin hyn eu trin pe baent yn cael eu dwyn i sylw gweithiwr proffesiynol ym maes gofal iechyd. Y mwyaf cyffredin ymhlith yr anhwylderau hyn yw iselder, pryder neu gyfuniad o'r ddau.  (Mental Health and Work, Coleg Brenhinol y Seiciatryddion, 2008)