Sgitsoffrenia

Mae nifer o gamsyniadau am sgitsoffrenia. Un camgymeriad cyffredin yw ei fod yn deillio o 'bersonoliaeth hollt'. Nid yw hyn yn wir. Nid yw ychwaith yn gysylltiedig ag anhwylder personoliaeth lluosog nac unrhyw anhwylder personoliaeth arall.

Yn wir, bydd un o bob cant o bobl yn profi sgitsoffrenia yn ystod eu bywydau. Gellir ei drin, a bydd y rhan fwyaf o'r bobl sy'n ei brofi yn byw bywydau cyffredin. Er hyn, gall camsyniadau achosi stigma a gwahaniaethu, a all ei gwneud hi'n llawer anoddach i bobl siarad yn agored amdano a cheisio'r help sydd ei angen arnynt.

Beth yw sgitsoffrenia

Mae sgitsoffrenia yn salwch meddwl sy'n digwydd pan fydd y rhannau o'r ymennydd sy'n gyfrifol am emosiwn a theimlad yn stopio gweithio'n iawn. O ganlyniad, gall unigolyn stopio byw ei fywyd arferol; gall encilio oddi wrth bobl, teimlo'n ddryslyd, colli diddordeb mewn pethau a thueddu i gael cyfnodau dig.

Gall symptomau sgitsoffrenia gynnwys meddwl, siarad a symud yn arafach, meddyliau cymysg, undonedd emosiynol neu ddiffyg prosesau meddwl, llai o gymhelliant, newidiadau mewn patrymau cysgu ac iaith y corff a difaterwch ynghylch cyswllt cymdeithasol. Gall symptomau hefyd gynnwys rhithweledigaethau (gweld, clywed ac arogli pethau na all pobl eraill ei wneud) a rhithdybiau (credoau cryf neu brofiadau nad ydynt yn gyson â realiti a dderbynnir yn gyffredinol).

Ceir mathau gwahanol - y math mwyaf cyffredin yw sgitsoffrenia paranoid. Mae rhagor o wybodaeth am symptomau a thriniaethau ar gael ar wefannau'r GIG, Rethink Mental IllnessMind.

Y stigma sy'n gysylltiedig â sgitsoffrenia

Mae problemau iechyd meddwl yn gyffredin, ond mae bron i naw o bob deg o bobl sy'n wynebu problemau o'r fath yn dweud eu bod yn wynebu stigma a gwahaniaethu o ganlyniad i hynny.

Gall y stigma a'r gwahaniaethu hwn fod yn un o'r rhannau anoddaf o'r profiad, oherwydd gall olygu colli cyfeillgarwch, cael eich ynysu, cael eich allgáu o weithgareddau, anawsterau o ran cael swydd a'i chadw, methu dod o hyd i help a phroses wella arafach. Yn yr un modd, gall stigma achosi i ni fod ofn siarad â'r bobl o'n cwmpas a all fod angen ein cymorth.

Does dim rhaid i bethau fod fel hyn. Mae siarad am iechyd meddwl yn dangos i rywun eich bod yn poeni amdanynt. Mae'n cynorthwyo'r broses wella ac yn aml caiff cyfeillgarwch ei gryfhau.

"Pan roeddwn yn blentyn, arferem ddweud y dywediad Saesneg 'Sticks and stones may break my bones, but words will never hurt me'. Rwyf wedi newid fy meddwl. Dau o'r geiriau mwyaf niweidiol yn y geiriadur yw sgitsoffrenia a seicotig. Gall y ddau air hyn ddifetha eich bywyd."

Cyflyrau iechyd meddwl eraill

Anhwylderau Personoliaeth (BPD)

Anhwylderau Personoliaeth (BPD)

Mae BPD yn un o'r anhwylderau personoliaeth mwyaf adnabyddus, er ei fod yn effeithio ar lai nag un y cant o'r…

Darganfyddwch fwy
Iselder

Iselder

Iselder yw'r anhwylder iechyd meddwl mwyaf cyffredin ym Mhrydain, yn ôl y Sefydliad Iechyd Meddwl

Darganfyddwch fwy
Gorbryder

Gorbryder

Anhwylderau gorbryder yw rhai o'r problemau iechyd meddwl mwyaf cyffredin, sy'n effeithio ar 16% o bobl yn y DU

Darganfyddwch fwy