Anhwylder Deubegynol

Mae newid mewn hwyliau yn rhan o fywyd bob dydd i ni gyd. Ond os oes gennych anhwylder deubegynol rydych yn debygol o brofi newidiadau eithafol, o hwyliau isel (iselder) i gyfnodau o ymddygiad gorweithgar (mania) - fel arfer gyda chyfnodau mwy 'normal' rhwng y ddau.

Credir bod tua un o bob cant ohonom yn cael ein heffeithio gan anhwylder deubegynol. Er hyn, mae'n aml yn cael ei gamddeall fel problem iechyd meddwl. Gall hyn achosi stigma a gwahaniaethu, a all ei gwneud hi'n anoddach i bobl siarad yn agored am yr hyn y maent yn ei wynebu, yn ogystal â cheisio'r help sydd ei angen arnynt. 

Beth yw anhwylder deubegynol?

Mae anhwylder deubegynol (a elwid yn iselder manig gynt) yn anhwylder hwyliau difrifol. Bydd unigolion yn dioddef o hwyliau isel, a all gael ei nodweddu gan iselder, teimladau o anobaith, diffyg egni ac encilio o gymdeithas. Bryd arall, gall hwyliau uchel, manig achosi i unigolyn deimlo'n hyderus, yn llawn egni ac yn gadarnhaol, yn ogystal â cholli ymdeimlad o ataliaeth. 

"Cefais fy magu i beidio â siarad am iechyd meddwl - os na allwch ei weld, nid yw'n bodoli. Dyma pam ei bod yn bwysig rhannu yn fy marn i"

Gall anhwylder deubegynol gael effaith sylweddol ar fywyd rhywun, ond mae'n bwysig nodi bod llawer o bobl sy'n byw gyda'r anhwylder yn byw bywyd cynhyrchiol a chreadigol.

Mae rhagor o wybodaeth am y gwahanol fathau o anhwylderau deubegynol, symptomau, triniaethau ac awgrymiadau ar gyfer rheoli ar gael ar wefannau'r  NHS, Rethink Mental IllnessMind.

Y stigma sy'n gysylltiedig ag anhwylder deubegynol

Mae problemau iechyd meddwl yn gyffredin, ond mae bron i naw o bob deg o bobl sy'n wynebu problemau o'r fath yn dweud eu bod yn wynebu stigma a gwahaniaethu o ganlyniad i hynny.

Gall y stigma a'r gwahaniaethu hwn fod yn un o'r rhannau anoddaf o'r profiad, oherwydd gall olygu colli cyfeillgarwch, cael eich ynysu, cael eich allgáu o weithgareddau, anawsterau o ran cael swydd a'i chadw, methu dod o hyd i help a phroses wella arafach. Yn yr un modd, gall stigma achosi i ni fod ofn siarad â'r bobl o'n cwmpas a all fod angen ein cymorth.

Does dim rhaid i bethau fod fel hyn. Mae siarad am iechyd meddwl yn dangos i rywun eich bod yn poeni amdanynt. Mae'n cynorthwyo'r broses wella ac yn aml caiff cyfeillgarwch ei gryfhau.

"D'ych chi byth yn gwybod sut y bydd rhywun yn ymateb pan fyddwch yn datgan problem iechyd meddwl - yn enwedig ar fy lefel reoli i. Mae yna gamsyniad mawr o hyd na all y rhai ohonom sydd â phroblemau iechyd meddwl cymhleth weithio neu wneud swydd llawn straen sy'n heriol yn feddyliol neu sy'n golygu bod angen gweithio y tu allan i oriau arferol 9-5."

Cyflyrau iechyd meddwl eraill

Sgitsoffrenia

Sgitsoffrenia

Mae sgitsoffrenia yn salwch meddwl sy'n digwydd pan fydd y rhannau o'r ymennydd sy'n gyfrifol am emosiwn a theimlad yn…

Darganfyddwch fwy
Anhwylderau Personoliaeth (BPD)

Anhwylderau Personoliaeth (BPD)

Mae BPD yn un o'r anhwylderau personoliaeth mwyaf adnabyddus, er ei fod yn effeithio ar lai nag un y cant o'r…

Darganfyddwch fwy
Iselder

Iselder

Iselder yw'r anhwylder iechyd meddwl mwyaf cyffredin ym Mhrydain, yn ôl y Sefydliad Iechyd Meddwl

Darganfyddwch fwy