Gorbryder

Rydym i gyd yn profi cyfnodau o orbryder o bryd i'w gilydd. Byddai'r rhan fwyaf ohonom yn adnabod teimladau o densiwn, ansicrwydd, gofid neu ofn. Ond os ydych yn profi symptomau gorbryder ar lefelau uwch na'r arfer, neu os ydynt yn aros ar lefelau uchel am gyfnodau hir, gall hyn fod yn anghyfforddus iawn ac ymyrryd â bywyd bob dydd.Save 

Anhwylderau gorbryder yw rhai o'r problemau iechyd meddwl mwyaf cyffredin, sy'n effeithio ar 16% o bobl yn y DU yn ôl Rethink Mental Illness. Er hyn, gellir eu camddeall a gall hyn achosi stigma a gwahaniaethu, a all ei gwneud yn llawer anoddach i bobl siarad yn agored am yr hyn y maent yn mynd drwyddo a cheisio'r help sydd ei angen arnynt. Gall gorbryder fod yn gyflwr parhaus neu gael ei sbarduno gan sefyllfaoedd penodol. Gall teimladau llethol achosi pyliau o banig hefyd.

Beth yw gorbryder?

I rai pobl, mae eu pryderon yn eu llethu i'r fath raddau fel eu bod yn cymryd drosodd eu bywydau. Mae symptomau gorbryder yn cynnwys anniddigrwydd neu bryder parhaus, teimlad o ofn, ac anawsterau gyda chanolbwyntio neu gysgu. Gall hefyd gynnwys symptomau corfforol fel crychguriadau'r galon, chwysu, tensiwn a phoen, anadlu'n drwm ac yn gyflym, pendro, llewygu, camdreuliad, poenau stumog, salwch a dolur rhydd. Mae rhai pobl yn encilio oddi wrth bobl eraill neu'n datblygu ffobiâu, meddyliau obsesiynol neu ymddygiad cymhellol.

Mae pyliau o banig yn digwydd pan fod ymateb arferol y corff i ofn, straen neu gyffro yn cael ei orliwio. Mae teimladau anorchfygol yn adeiladu'n gyflym, fel calon yn curo fel gordd, teimlo'n wan, chwysu, cryndod yn y cymalau, teimlo pwys, poenau yn y frest, anesmwythyd anadlu a theimlo eich bod yn colli rheolaeth.

Mae rhagor o wybodaeth am symptomau, triniaethau ac awgrymiadau ar gyfer ei reoli ar gael ar wefannau'r GIG, Rethink Mental IllnessMind.

Y stigma sy'n gysylltiedig â gorbryder

Mae problemau iechyd meddwl yn gyffredin, ond mae bron i naw o bob deg o bobl sy'n wynebu problemau o'r fath yn dweud eu bod yn wynebu stigma a gwahaniaethu o ganlyniad i hynny. Gall y stigma a'r gwahaniaethu hwn fod yn un o'r rhannau anoddaf o'r profiad, oherwydd gall olygu colli cyfeillgarwch, cael eich ynysu, cael eich allgáu o weithgareddau, anawsterau o ran cael swydd a'i chadw, methu dod o hyd i help a phroses wella arafach. Yn yr un modd, gall stigma achosi i ni fod ofn siarad â'r bobl o'n cwmpas a all fod angen ein cymorth.

Does dim rhaid i bethau fod fel hyn. Mae siarad am iechyd meddwl yn dangos i rywun eich bod yn poeni amdanynt. Mae'n cynorthwyo'r broses wella ac yn aml caiff cyfeillgarwch ei gryfhau.

"Roedd fy ngorbryder yn cymryd drosodd ac yn achosi i mi osgoi llawer o sefyllfaoedd a allai amlygu fy salwch. Roeddwn yn sylweddoli bod iechyd meddwl yn salwch tebyg i unrhyw salwch arall, ond roedd y stigma negyddol a oedd yn gysylltiedig ag ef yn golygu y gallai siarad amdano ymysg pobl a oedd yn gyflym i feirniadu fod yn dasg frawychus.”

Cyflyrau iechyd meddwl eraill

OCD

OCD

Mae anhwylder obsesiynol cymhellol (OCD) yn anhwylder gorbryder lle mae meddyliau annymunol, cymelliadau a…

Darganfyddwch fwy
Anhwylder Deubegynol

Anhwylder Deubegynol

Mae anhwylder deubegynol (a elwid yn iselder manig gynt) yn anhwylder hwyliau difrifol. Caiff tua un o bob cant ohonom…

Darganfyddwch fwy
Sgitsoffrenia

Sgitsoffrenia

Mae sgitsoffrenia yn salwch meddwl sy'n digwydd pan fydd y rhannau o'r ymennydd sy'n gyfrifol am emosiwn a theimlad yn…

Darganfyddwch fwy