Byw gyda salwch meddwl

Gwneud ffrindiau, cadw swydd, cadw'n heini, aros yn iach...mae'r rhain yn rhannau cyffredin o fywyd bob dydd. Ond mae'r stigma sy'n gysylltiedig ag iechyd meddwl yn gwneud y pethau hyn yn anoddach i bobl sydd â phroblemau iechyd meddwl.

Mae stigma'n ynysu pobl

Yn aml mae pobl yn ei chael hi'n anodd dweud wrth eraill am broblem iechyd meddwl sydd ganddynt, oherwydd eu bod yn ofni eu hymateb. A phan fyddant yn sôn am y peth, mae'r mwyafrif helaeth yn dweud bod aelodau o'r teulu yn eu camddeall, bod ffrindiau, cydweithwyr a gweithwyr proffesiynol yn cadw draw oddi wrthynt a'u hanwybyddu, a bod cymdogion yn galw enwau arnynt neu waeth.

Mae cleifion seiciatrig bedair gwaith yn fwy tebygol o beidio â chael ffrind agos, ac mae dros un o bob tri yn dweud nad oes ganddynt unrhyw un i droi atynt am gymorth.

Mae'n eithrio pobl o weithgareddau bob dydd

Mae gweithgareddau bob dydd fel mynd i siopa, mynd i'r dafarn, mynd ar wyliau neu ymuno â chlwb yn llawer anoddach i bobl â phroblemau iechyd meddwl.

Mae un o bob tri yn dweud eu bod wedi cael eu diswyddo neu eu gorfodi i ymddiswyddo o'u swydd ac nid yw 70% yn awyddus i wneud cais am swyddi, gan ofni cael eu trin yn annheg.

Mae'n atal pobl rhag cael swyddi a'u cadw.

Mae gan bobl â phroblemau iechyd meddwl y gyfradd 'eisiau gweithio' uchaf o unrhyw grŵp anabledd - ond nhw sydd â'r gyfradd 'mewn gwaith' isaf.

Mae un o bob tri yn dweud eu bod wedi cael eu diswyddo neu eu gorfodi i ymddiswyddo o'u swydd ac nid yw 70% yn awyddus i wneud cais am swyddi, gan ofni cael eu trin yn annheg.

9mwen10.png

Mae'n atal pobl rhag chwilio am help

Rydym yn gwybod nad yw pobl yn tueddu i chwilio am help yn gynnar pan fyddant yn profi problem iechyd meddwl am y tro cyntaf, a'u bod ond yn tueddu i gysylltu â gwasanaethau iechyd meddwl pan fo argyfwng wedi datblygu. Mae hyn hefyd yn golygu bod llawer o bobl â phroblemau iechyd meddwl nad ydynt yn derbyn unrhyw driniaeth neu ofal.

Mae'n cael effaith negyddol ar iechyd corfforol

Gwyddom fod iechyd corfforol pobl â phroblemau iechyd meddwl ar gyfartaledd yn tueddu i fod yn waeth ac, o ganlyniad, mae'r bobl â'r problemau meddwl mwyaf difrifol yn marw ddeng mlynedd yn iau ar gyfartaledd.

Mae bron hanner y bobl sydd â phroblemau iechyd meddwl wedi nodi achosion o wahaniaethu gan eu meddygon teulu sy'n credu bod eu problemau corfforol yn ddychmygol neu'n gelwydd.

Mae'n dileu triniaeth ac yn amharu ar wella

Mae peidio â chwilio am help yn gynnar yn golygu y gall gwella fod yn anoddach. Mae pobl sydd â phroblemau iechyd meddwl yn aml yn nodi nad yw gweithwyr iechyd proffesiynol yn gwrando arnynt ac maent yn teimlo na allant ofyn am newidiadau i'w triniaeth.

Iechyd Meddwl a Stigma

Byw gyda salwch meddwl

Byw gyda salwch meddwl

Gwneud ffrindiau, cadw swydd, cadw'n heini, aros yn iach... mae'r rhain yn rhannau cyffredin o fywyd bob dydd.

Darganfyddwch fwy
Siarad am Iechyd Meddwl

Siarad am Iechyd Meddwl

Gall ychydig eiriau wneud gwahaniaeth mawr. Peidiwch â bod ag ofn siarad am iechyd meddwl!

Darganfyddwch fwy
Cyflyrau Iechyd meddwl

Cyflyrau Iechyd meddwl

Disgrifir rhai problemau iechyd meddwl gan ddefnyddio geiriau bob dydd - er enghraifft, 'iselder' neu 'orbryder'.

Darganfyddwch fwy