Dod yn Hyrwyddwr

Byddwch yn rheng flaen ein mudiad cymdeithasol i roi terfyn ar y stigma a'r camwahaniaethu sydd ynghlwm ag iechyd meddwl.

Byddwch yn Hyrwyddwr Amser i Newid Cymru

Diolch yn fawr iawn i chi am eich amynedd gyda ni dros y flwyddyn ddiwethaf heriol wrth i ni atal ein hyfforddiant i fod yn Hyrwyddwr Amser i Newid Cymru. Er na allwn ni gwrdd wyneb yn wyneb o hyd, rydym ni wedi addasu ein hyfforddiant fel y gallwn ni ddechrau ei gyflwyno yn rhithwir, drwy Zoom. 

Mae Hyrwyddwyr Amser i Newid Cymru yn wirfoddolwyr sydd â phrofiad o broblemau iechyd meddwl. Maen nhw wrth galon ymgyrch Amser i Newid Cymru, gan herio stigma yn eu cymunedau eu hunain, ymgyrchu yn y cyfryngau a rhannu eu straeon.

Mae ein hyrwyddwyr yn:

  • Rhannu eu straeon â chyflogwyr a grwpiau cymunedol
  • Helpu mewn digwyddiadau a chymryd rhan mewn prosiectau cymunedol
  • Ysgrifennu blogiau ar gyfer ein gwefan

Mae rhai hyrwyddwyr hefyd yn gwirfoddoli yn ein swyddfeydd, yn cyfrannu at straeon yn y wasg a'r cyfryngau neu'n helpu i ymgyrchu ar-lein.

 

Bydd yr hyfforddiant Pencampwyr nesaf yn cael ei gynnal ddydd Mercher 21 Mehefin, rhwng 9:30am a 3pm. 

Mae lleoedd yn gyfyngedig felly mae cofrestru'n gynnar yn hanfodol. Bydd yr hyfforddiant yn cael ei gynnal wyneb yn wyneb yn swyddfa Mind Cymru Caerdydd.

Cysylltwch â thîm Amser i Newid Cymru os hoffech fynychu neu i ddarganfod mwy am yr ymgyrch ar: info@timetchangewales.org.uk 

Byddwch yn Hyrwyddwr Pobl Ifanc

Rydym yn chwilio am wirfoddolwyr sy'n angerddol ynglŷn â lleihau'r stigma a'r camwahaniaethu sy'n perthyn i iechyd meddwl er mwyn ein helpu â'r Rhaglen Pobl Ifanc. Efallai bod gennych chi brofiadau eich hun neu eich bod yn agos at rywun sydd wedi cael profiadau o'r fath. Yn ddelfrydol byddwch rhwng 18 a 30 oed, ond rydym yn hapus i glywed gan bobl o unrhyw oedran sydd â chysylltiad agos â phobl ifanc, er enghraifft y rheiny sy'n gweithio gyda nhw neu sydd â phlant yn eu harddegau. Fel Hyrwyddwr Pobl Ifanc bydd gennych y cyfle i wneud y canlynol:

  • Derbyn hyfforddiant a chymorth i rannu eich stori mewn ysgolion, prifysgolion a grwpiau ieuenctid.
  • Cynrychioli AiNC mewn digwyddiadau pobl ifanc
  • Chwarae rhan yn yr ymgyrchoedd cyfryngau cymdeithasol sydd gennym ni ar y gweill a helpu i gynllunio'r hyn fyddwn ni'n ei wneud nesaf
  • Ysgrifennu blogiau / creu fideos ar gyfer ein gwefan

Os oes gennych chi syniadau eraill ar gyfer sut i helpu gyda'n hymgyrch pobl ifanc, byddem wrth ein bodd clywed amdanynt.  

Os hoffech chi ddod i'n hyfforddiant rhithwir, rhowch wybod i ni drwy e-bostio info@timetochangewales.org.uk. Bydd lle i 12 o bobl ar gyfer pob cyfres o ddyddiadau – bydd angen i chi ymrwymo i ddod i'r ddwy sesiwn – felly cofiwch drefnu lle yn gynnar. Mae ein dyddiadau hyfforddiant fel a ganlyn.

Mae ein cyfres nesaf o ddyddiadau hyfforddiant ar gyfer y rhai sydd o gefndiroedd Du a Lleiafrifoedd Ethnig. Caiff yr hyfforddiant ei gynnal ddydd Iau 20 Ionawr gyda sesiwn yn y bore rhwng 9:30am a 12pm a sesiwn yn y prynhawn rhwng 1pm a 3pm. Mae'r hyfforddiant am ddim a chaiff ei gyflwyno drwy Zoom. Cysylltwch â thîm Amser i Newid Cymru os hoffech ddod neu gael gwybod mwy am yr ymgyrch yn: info@timetochangewales.org.uk

Cliciwch yma i gael gwybod mwy

Iechyd Meddwl a Stigma

Cyflyrau Iechyd meddwl

Cyflyrau Iechyd meddwl

Disgrifir rhai problemau iechyd meddwl gan ddefnyddio geiriau bob dydd - er enghraifft, 'iselder' neu 'orbryder'.

Darganfyddwch fwy
Beth yw stigma?

Beth yw stigma?

Gall y ffeithiau allweddol hyn helpu i herio'r mythau sy'n cyfrannu at y stigma mae llawer o bobl yn dal i'w wynebu.

Darganfyddwch fwy
Siarad am Iechyd Meddwl

Siarad am Iechyd Meddwl

Gall ychydig eiriau wneud gwahaniaeth mawr. Peidiwch â bod ag ofn siarad am iechyd meddwl!

Darganfyddwch fwy