Gorbryder

Y peth pwysig yw ei bod hi'n fy neall i

Os ydych chi'n byw gyda rhywun sy'n dioddef o afiechyd meddwl, neu'n ffrind iddyn nhw, does dim angen bod yn arbenigwr na gwneud pethau mawr i'w helpu nhw. I fi, ac i lawer o bobl sydd yn yr un cwch â…

16th May 2014, 10.34am | Ysgrifenwyd gan Barry

Gall ffrindiau, teulu, a hyd yn oed cŵn, wneud gwahaniaeth enfawr i bobl sy'n dioddef gydag afiechydon meddwl. 

Fel un sy'n gorfod ymdopi gydag anhwylder pryder ôl-drawmatig (PTSD) a'i “ffrindiau” agos iselder a gorbryder, rwy' wedi hen arfer â'r ffyrdd gwahanol mae cyflyrau o'r fath yn gallu effeithio'n wael ar y ffordd mae rhywun yn teimlo, ac yn edrych ar fywyd yn gyffredinol.

Fydda i ddim yn rhoi manylion llawn y cyflwr yma, ond mae'n anodd iawn i rywun ymdopi ag e ar ei ben ei hun. Diolch byth, mae fy ngwraig a fy nghŵn yma i fy helpu.
 
Mae'n ddigon amlwg bod fy ngwraig ddim yn feddyg nac yn arbenigwraig ar iechyd meddwl, ond y peth pwysig yw ei bod hi'n fy neall i. Mae hi wedi dod i adnabod yr arwyddion fy mod i ar fin cael ôl-fflach neu bwl o banig, ac mae hi wedi datblygu ffyrdd effeithiol o wrthdynnu fy sylw cyn i'r broblem waethygu.
 
I ddechrau, mae hi'n gofyn, “Wyt ti yma gyda fi?” Weithiau, mae hynny'n ddigon i dynnu fi'n ôl i'r byd go iawn. Os nag yw hynny'n gweithio, mae pinsio fy mraich yn gweithio bob tro!
 
I ddechrau, mae hi'n gofyn, “Wyt ti yma gyda fi?” Weithiau, mae hynny'n ddigon
 
Ar ôl cael ôl-fflach, fel arfer rwy'n teimlo'n uffernol. Dyna pryd mae fy ngwraig yn dod â'r gynnau mawr i'r frwydr, sef y cŵn! Mae dau gi gyda ni, ac maen nhw'n llawn egni. Ond yn bwysicach, maen nhw'n gwybod rhywsut pan ydw i'n teimlo'n wael. Mae fy ngwraig yn eu galw ac maen nhw'n rhedeg tuag ata i, llyfu fy nwylo a ceisio fy ngael i chwarae gyda nhw. Maen nhw'n well nac unrhyw wrthiselydd, credwch chi fi!
 
Fel rhan o fy nghyflwr, rwy'n dioddef gydag iselder hefyd. Pan mae hwnnw ar ei waethaf, mae'n anodd gor-bwysleisio'r gwahaniaeth mae cwtsh yn ei wneud.
 
Mae ffrind da gyda fi sy'n dioddef gydag iselder hefyd, ac weithiau mae'n helpu'r ddau ohonom ni i fynd am wâc hir gyda'r cŵn. Does dim angen inni siarad llawer yn ystod y wâc, ond wrth gwrs mae hynny'n dibynnu ar sut mae'r ddau ohonom ni'n teimlo ar y pryd. Mae unrhyw fath o ymarfer corff yn helpu gydag iselder, ac mae fy ffrind a fy ngwraig yn fy annog i fynd am dro pan ydw i'n teimlo'n isel.
 
Os ydych chi'n byw gyda rhywun sy'n dioddef o afiechyd meddwl, neu'n ffrind iddyn nhw, does dim angen bod yn arbenigwr na gwneud pethau mawr i'w helpu nhw. I fi, ac i lawer o bobl sydd yn yr un cwch â fi, mae pethau bychain yn gwneud byd o wahaniaeth.
 
Barry
 
Ydych chi yn nabod rhywun sydd a problem iechyd meddwl? Defnyddiwch ein awgrymiadau am y pethau bach all wneud gwahaniaeth mawr

Efallai hoffech

Gwena a Chwyd dy Law

Mae Naomi yn siarad am bwysigrwydd dweud yn union sut rydych chi'n teimlo pan fydd rhywun yn gofyn ‘Sut wyt ti?’ a'r holl ffyrdd y gallwch chi ateb y cwestiwn hwnnw.

20th February 2024, 8.47am | Ysgrifenwyd gan Naomi

Darganfyddwch fwy

Siarad, siarad, siarad!

Mae Samuel yn pwysleisio pwysigrwydd siarad am eich iechyd meddwl, yn enwedig ar adegau anodd, a sut mae siarad wedi achub ei fywyd.

20th February 2024, 8.43am | Ysgrifenwyd gan Samuel

Darganfyddwch fwy