Yn ôl i'r Blog

"Weithiau, dwi’n teimlo mor lwcus."

ysgrifennwyd gan Hannah Griffiths 30/09/2016

Weithiau, dwi’n teimlo mor lwcus.

Mae gen i rieni sydd eisiau fy nghefnogi i, sydd wedi ddarllen am iselder, ac sy’n barod i helpu fi drwy unrhyw amser anodd.

Mae gen i ffrindiau sydd yn neud i mi deimlo fel bod pethau yn normal, ffrindiau sydd hefyd yn dioddef o iselder, a ffrindiau sydd ddim yn gwybod unrhywbeth am iechyd meddwl ond mae nhw yna os ydw i angen.hannah_and_anya.jpg

Mae nhw yna i ofyn sut ydw - ydw i eisiau mynd allan i gael awyr iach, ydw i eisiau chwarae rygbi neu mynd i’r sinema? Mae’n swnio’n syml ond mae’r pethau bach, y pethau rydyn ni fel arfer yn cymryd yn ganiatâol - neges destun, cwtsh, paned, peint - yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol.

Ond weithiau dwi’n teimlo fel dwi ddim yn haeddu hyn. Weithiau dwi’n teimlo fel fy mod i’n dinistrio bywydau’r bobl dwi’n caru oherwydd fy mod i’n bodoli. Does dim esboniad rhesymegol i hyn. Mae’r meddyliau yna pryd dwi’n codi yn y bore, neu pryd dwi’n dod yn ôl o’r gwaith yn y prynhawn, neu cyn i mi fynd i gysgu yn y nos. Mae iselder yn gymhleth ac yn gyfrwys fel yna. Felly, y peth anoddaf i mi yw gofyn am help. Dwi fel arfer yn teimlo fel fy mod i’n methu estyn llaw allan i fy ffrindiau pan rydw i’n boddi, ond dwi methu’n pwysleisio digon pa mor bwysig yw hi i ofyn am help.

Wrth estyn llaw, dwi wedi helpu pobl eraill sydd hefyd yn dioddef o iselder. Os ydw i yn agor lan iddyn nhw, mae nhw’n teimlo fel bod nhw’n gallu siarad am ein problemau nhw hefyd. Mae gen i un ffrind anhygoel sydd yna drwy’r cyfnodau mwya tywyll. Os oes un ohonon ni’n teimlo fel y gallwn ni neud rhywbeth hunanddinistriol, rydyn ni’n tecstio’r person arall efo’r geiriau ‘code red’, ac mae’r person yna’n cymryd y camau nesaf yn syth.

 

Cwestiynau rydym yn eu gofyn

Pa lefel ydych chi ar y raddfa iselder? 1 - teimlo'n isel; 10 -  teimlo'n iawn.

Ydych yn cael unrhyw feddyliau am hunanladdiad neu hunan-niweidio?

Ble ydych chi ar hyn o bryd?

Beth yw eich meddyliau ar hyn o bryd?

 

Ar ôl gwneud hyn, rydyn ni’n siarad â’n gilydd am iselder, y sefyllfa ac os oes ateb i’r broblem honno. Bob tro ar ôl i mi siarad â fy ffrind, dwi’n teimlo’n well. Dydy e ddim yn gwella’r salwch, ond mae’n cysur gwybod bod rhywun yna sydd yn deall beth rydw i’n mynd drwyddo. Mae’n bwysig gwybod nad ydych chi ar eich pen eich hun.

Fy ffrinidau yw fy arwyr. Nhw sydd â’r pŵer i neud i mi deimlo fel fy mod i’n gallu delio â’r diwrnodau tywyll, a fi sydd â’r pŵer i estyn llaw a gofyn am help.

Os hoffech chi sgwennu cofnod blog am eich profiadau o stigma, ebostiwch info@timetochangewales.org.uk

Share

Sylwadau (0)

Add new comment

I brofi eich bod yn berson teipiwch y gair 'health' yn y blwch isod *

Yn ôl i'r Blog