Anhwylder Personoliaeth Ymylol

Rwy'n cael diwrnodau gwael, ond gonestrwydd yw'r ateb

Mae byw gyda diagnosis o Borderline Personality Disorder weithiau yn uffernol o anodd, ond ni fyswn yn ei newid o i'r byd.

8th May 2014, 3.00pm | Ysgrifenwyd gan Sammie

Mae byw gyda diagnosis o Borderline Personality Disorder weithiau yn uffernol o anodd, ond ni fyswn yn ei newid o i'r byd. Mae o wedi rhoi cipolwg i fi o'r byd iechyd meddwl, ac yn gwneud i mi fod eisiau helpu eraill fel fi ac sydd a profiadau gwaeth.

Gallaf ddeall mewn ffordd lle mae pobl yn dod o gyda'r stigma cyfan o gwmpas iechyd meddwl , ond mae'n bwysig gwybod bod gan bawb iechyd meddwl , yn union fel iechyd corfforol, dim ond fod rhai wedi ei waeth nag eraill . Mae hefyd yn bwysig gwybod nad yw'r bobl hyn yn beryglus ac maent mewn gwirionedd yn fwy o berygl iddynt eu hunain nag i eraill.

Wnes i ddechrau cael symptomau fy anhrefn yn fy ail flwyddyn yn y brifysgol. Byddwn yn obsesiynnu am bopeth oedd wedi digwydd, byddwn yn dal dig dros bopeth, byddwn yn ennill a cholli ffrindiau o fewn dyddiau a byddwn yn cuddio i ffwrdd am hyd yn oed mwy o amser. Doeddwn i ddim yn gwybod pwy oeddwn fel person ac roeddwn yn teimlo ar goll. Fel y dechreuodd fy ngraddau prifysgol dechrau cymryd tro er gwaeth, fe droiais at fy tiwtor. Roedd fy nhiwtoriaid yn wych i gyd drwy gydol y brifysgol, a'r peth gorau wnes i erioed oedd troi atynt gyda fy mhryderon. Roedd pawb o gwmpas i mi yn y brifysgol yn ymddangos i fod yn mynd ymlaen â'u bywydau, yn tyfu i mewn i’w hunain ac yn wir yn datblygu'n emosiynol, ond roeddwn yn teimlo yn sownd mewn twll. Roeddwn yn cymryd risg yn fwy nag erioed ac roedd fy hunan-niweidio yn cynyddu. Yr wyf wedi hunan niweidio ers yr ysgol, lle dechreuais dangos symptomau o anhwylder bwyta, sydd hyd yn oed nawr yn dal i gripian o fewn fy anhwylder personoliaeth ffiniol, ac nid yw'n helpu gyda fy hunan-barch.

Pan oeddwn i yn fy isaf, ceisiais gyflawni hunanladdiad sawl gwaith, yr oeddwn wedi bod i mewn ac allan o'r ysbyty am fisoedd a doedd dim byd yn gwella. Fodd bynnag, doeddwn ddim yn isel drwy'r amser, roedd rhai dyddiau yr oeddwn yn fy copa uchaf, a byddai fy ngwaith prifysgol yn llifo. Rwyf bob amser wedi bod yn greadigol, ac felly mi wnes fy ngradd mewn Darlunio. Bron ar ddiwedd y drydedd flwyddyn, cefais fy arestio bedair gwaith oherwydd ymddygiad meddw, ymosod, batri a throseddau anhrefn cyhoeddus ac yr wyf yn dal ar brawf. Roeddwn i wedi deffro yn yr ysbyty yn fwy aml nag y gallaf gyfrif, roeddwn i ar fy rhybudd disgyblu myfyrwyr diwethaf ac derfynol ac ar fin cael fy ddiarddel. Ar y llaw arall, roedd fy ngraddau yn awyr uchel, ac yr oeddwn yn disgwyl cael gradd dosbarth cyntaf ychydig fisoedd cyn graddio. Wythnos cyn graddio roeddwn i fod i gael gwrandawiad disgyblu arall i benderfynu a allwn i raddio neu beidio. Gyda'r dewis mwyaf anodd wrth law, derbynais help gan y tîm iechyd meddwl cymunedol, derbynais fod problem a graddiais frig y dosbarth gyda dwy wobr .

Fy cyngor gorau fyddai i siarad am eich pryderon, ta waeth pa mor fawr neu fach.

Fy cyngor gorau fyddai i siarad am eich pryderon, ta waeth pa mor fawr neu fach. Derbyn efallai bod gennych broblem. Mae ailwaelu hefyd yn gyffredin, felly os ydych yn cael eich hun yn gwella, yna yn sydyn yn ymddangos i chi lithro, peidiwch â phoeni, digwyddodd hyn i mi hefyd, ac felly mae miliynau o bobl allan yno. Mae gen i allfa gwych yn fy ngwaith dylunio, rwyf yn dal i wneud yn awr. Yr wyf wedi cael arddangosfeydd o amgylch Caerdydd, yn yr Alban, Gogledd Cymru a chodi ymwybyddiaeth yn Nottingham o faterion iechyd meddwl. Gallwch weld ychydig o ngwaith yma. Rwyf hefyd yn cynnal blog preifat, lle efallai y bydd rhaid i chi ofyn i’w ddarllen, (efallai y byddwch yn e-bost ataf yma). Ni allaf ei bostio yma gan fy mod yn cael diwrnodau drwg hefyd, llawer o ddyddiau drwg, ac ar ddiwrnodau gwael rwyf yn blogio, a'r peth olaf yr wyf am ei wneud yw achosi ‘trigger’ i unrhyw un. Mae'n fy helpu i ddarllen beth mae pobl eraill yn ysgrifennu am eu hanhwylder, gan fod yr holl anhwylderau yn hollol wahanol ac nad ydych yn teimlo mor unig.

Rwyf bellach yn 23 mlwydd oed, gyda gradd anrhydedd dosbarth cyntaf ac rwy'n weithiwr cymorth yn y gymuned yn gofalu am bobl oedrannus, ac ni fyddwn yn ei newid am y byd. Fel y dywedais, rwyf hefyd yn cael diwrnodau gwael, fodd bynnag, gonestrwydd yw'r allwedd, mae fy rheolwr yn gwybod popeth ac yn hynod o ddealladwy. Un diwrnod yr wyf yn gobeithio i fod yn seicotherapydd celf, ac yr wyf yn gobeithio i wneud cais am y meistr mewn ychydig o flynyddoedd.

Sammi

Efallai hoffech

Gwena a Chwyd dy Law

Mae Naomi yn siarad am bwysigrwydd dweud yn union sut rydych chi'n teimlo pan fydd rhywun yn gofyn ‘Sut wyt ti?’ a'r holl ffyrdd y gallwch chi ateb y cwestiwn hwnnw.

20th February 2024, 8.47am | Ysgrifenwyd gan Naomi

Darganfyddwch fwy

Siarad, siarad, siarad!

Mae Samuel yn pwysleisio pwysigrwydd siarad am eich iechyd meddwl, yn enwedig ar adegau anodd, a sut mae siarad wedi achub ei fywyd.

20th February 2024, 8.43am | Ysgrifenwyd gan Samuel

Darganfyddwch fwy