Nid gwyrth fydd yn rhoi diwedd ar rhagfarn

Mae'r ymgyrch wedi mynd o nerth i nerth. Mae'n rhoi boddhad mawr i mi feddwl 'dwi'n rhan o hynny, wyddoch chi'.

29th November 2013, 10.03am | Ysgrifenwyd gan David Melding AM

Ymhen ychydig o flynyddoedd, pan fyddwn ni'n edrych yn ôl ar agweddau'r cyhoedd at salwch meddwl, credaf y bydd yr ymgyrch Amser i Newid yn cael ei gweld fel y trobwynt hollbwysig.

Roeddwn i'n un o bedwar AC a siaradodd yn gyhoeddus mewn trafodaeth yn y Cynulliad flwyddyn yn ôl. Roedd y drafodaeth ei hun yn drobwynt yn natblygiad y Cynulliad, pan ystyriwyd bod gonestrwydd am rywbeth mor bersonol yn ffynhonnell o gryfder, ac nid yn gyfaddefiad o wendid. Roedd hyn yn amlwg i mi oherwydd yr ymateb hynod gefnogol a gefais gan fy nghydweithwyr a hyd yn oed aelodau'r cyhoedd. Roedd efallai yn gliriach fyth yn nifer y cydweithwyr a staff a oedd am siarad am eu cyflwr eu hunain.

Mae'r ymgyrch wedi mynd o nerth i nerth ac wedi cynyddu ei hamlygrwydd gydag ymgyrch hysbysebu ragorol. Mae yna wefr yn mynd drwyddo i pan rwy'n gweld yr hysbysebion mewn cylchgronau ac yn y sinema. Mae'n rhoi boddhad mawr i mi feddwl 'dwi'n rhan o hynny, wyddoch chi'. Mae eraill sy'n llygad y cyhoedd - yn enwedig pobl enwog ym myd y celfyddydau a chwaraeon - wedi gwneud gwahaniaeth mawr o ran newid agweddau'r cyhoedd. Mae'n hael iawn defnyddio enwogrwydd mewn ffordd mor adeiladol. Ond profiadau pobl nad ydynt yn llygad y cyhoedd, sydd fwyaf pwerus yn fy marn i. Mae'n golygu bod yr ymgyrch wir yn gweithio.

Beth am fy iechyd fy hun? A yw cymryd rhan mewn Amser i Newid wedi helpu? Mae'n anodd dweud yn union, wrth gwrs. Fel unrhyw salwch cronig arall, mae cyfnodau da a gwael. Er fy mod wedi siarad am fy salwch meddwl fy hun o'r blaen, mae helpu Amser i Newid wedi bod yn brofiad llawer yn fwy rhyddhaol. Mae wedi helpu i wella fy ngwydnwch. Ac i mi, mae gwydnwch yn bwysig. Gall atal ffactorau sbarduno; neu pan fydd rhywun yn dioddef o gyfnod gwael, gall gyfyngu'r cyfnod i ddiwrnod gwael yn hytrach na mis gwael. Rwyf o'r diwedd wedi stopio teimlo'n euog am fy mhryder. Er fy mod i'n dal i freuddwydio am wellhad (pam lai, pwy sydd eisiau bod yn sâl?) mae rheoli fy nghyflwr yn bwysicach na breuddwydio am gael gwared ohono drwy'r amser.

Rydym i gyd yn agored i salwch. Mae'n rhan gyffredin, ond heriol wrth gwrs, o fywyd. Prin iawn yw'r bobl na chânt byliau o salwch sy'n gofyn am driniaeth ofalus. Boed y salwch yn gorfforol neu'n feddyliol, dyna ydyw yn y bôn - salwch. Y tric yw rheoli salwch er mwyn i ni gael y gorau o fywyd.

Rwy'n gorffen ar nodyn personol iawn. Rwy'n parhau i droi at fy magwraeth Gristnogol, er nad wyf yn arfer fy ffydd cymaint mwyach. Yn nyddiau Crist, ystyriwyd salwch corfforol yn fath o gosb am ddrygioni neu bechod anweledig. Pan welsant ddyn dall, gofynnodd y disgyblion wrth Iesu "Rabbi, pwy a bechodd, ai hwn, ai ei rieni, fel y genid ef yn ddall?" Yr Iesu a atebodd, "Nid hwn a bechodd, na'i rieni chwaith: eithr fel yr amlygid gweithredoedd Duw ynddo ef." (Ioan 9: 2-3). Mae'n destun anodd a ddisgrifir fel dirgelwch mawr gan fy nghyfeillion o'r eglwys uniongred. Yn ein hoes fwy seciwlar, gallwn ei ddehongli drwy ddweud bod salwch yn rhan o'r byd naturiol yn ei holl ryfeddod a'i drafferthion. Heb y rhyfeddodau hyn, ni fyddai rhywbeth mor soffistigedig yn fiolegol â'n hymennydd yn bodoli. Ac ymenyddiau sy'n llawn o gymaint o gymhlethdod sy'n creu'r posibilrwydd o salwch meddwl a'r holl drafferthion sydd ynghlwm â hynny.

Efallai nad yw ymgyrch Amser i Newid yn gwneud gwyrthiau, ond mae'n herio rhai o ragfarnau dyfnaf cymdeithas am salwch meddwl. Nawr ei fod yn rhywbeth arbennig i fod yn rhan ohono!

David Melding yw Dirprwy Lywydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru ac mae yn Aelod ar gyfer Canol De Cymru.

Os ydych chi yn teimlo yn barod i siarad am eich profiadau o broblemau iechyd meddwl, dechreuwch trwy clicio yma!

Efallai hoffech

Gwena a Chwyd dy Law

Mae Naomi yn siarad am bwysigrwydd dweud yn union sut rydych chi'n teimlo pan fydd rhywun yn gofyn ‘Sut wyt ti?’ a'r holl ffyrdd y gallwch chi ateb y cwestiwn hwnnw.

20th February 2024, 8.47am | Ysgrifenwyd gan Naomi

Darganfyddwch fwy

Siarad, siarad, siarad!

Mae Samuel yn pwysleisio pwysigrwydd siarad am eich iechyd meddwl, yn enwedig ar adegau anodd, a sut mae siarad wedi achub ei fywyd.

20th February 2024, 8.43am | Ysgrifenwyd gan Samuel

Darganfyddwch fwy