Gorboeni

Siarad a helpu - y therapi ore

Sara Powys sy'n arwain gweithgareddau cymdeithasol Amser i Newid Cymru. Mae hi hefyd wedi ymddangos mewn rhaglenni ac erthyglau yn siarad am ei profiadau hi o broblemau iechyd meddwl.

15th May 2014, 2.11pm | Ysgrifenwyd gan Sara

Ar ol cyfnod o iselder a pryderu, wedi ei achosi gan problemau yn fy mywyd personnol a stres yn y gwaith, nes i gerdded allan o fy swydd fel rheolwr o fewn y sector gyhoeddus. Nes i fyth mynd yn ol. Nes i golli fy hyder yn gyfan gwbl ac oni’n meddwl byswn i byth yn gweithio eto.

Ar ol triniaeth gan y doctor a lot o gymorth a siarad da teulu a ffrindie, oni’n teimlo’n gryfach ac yn raddol daeth y hyder ‘nol. Roedd y doctor yn meddwl mod i’n barod i gymeryd step bach ymlaen ac awgrymmodd ifi edrych am waith gwirfoddol. Dyna pan des i ar draws Amser i Newid Cymru. 

Oni methu credu bod swydd ar gael lle oedd siarad am iechyd meddwl yn rhan hanfodol o’r gwaith - ac oni mynd i gael fy nhalu i neud hyn fyd!
 
Dyma fi nawr, tua 18 mis mewn i’r swydd a dwi wrth fy modd yn siarad am iechyd meddwl, ac yn annog pobl arall i neud yr un fath. Mae’n fraint i gallu gwneud y gwaith hyn. Pob dydd dwi’n gweld sut mae siarad am iechyd meddwl yn helpu pobl sydd a phrofiad - mae’n helpu i ddatblygu hyder ac mae gweld sut mae hyn yn newid agweddau yn brofiad cathartig iawn i bawb sy’n rhannu eu stori.
 
Dyna pam nes i benderfynnu yn ddiweddar i rannu fy mhrofiad gyda’r wasg. Rhaid dweud, odd e’n bach o sioc i weld llun mawr o fy hun a fy stori yn llenwi tudalen llawn o’r Western Mail! Ond, roedd e’n werth e. Dwi wedi cael llawer iawn o negeseuon gan pobl sydd wedi cael ei daro gan fy stori. Rhai sydd a phrofiad a rhai sydd ddim. Oedd pob un yn dweud bod darllen am fy mhrofiad wedi codi ei ymwybyddiaeth ac annog nhw i ddechre siarad am iechyd meddwl yn fwy agored. 
 
Naeth hyn rhoi’r hyder ifi i neud fwy o waith cyhoeddus. Dwi eisioes di rhannu fy stori mewn dogfen am iechyd meddwl sy’n darlledu ar S4C yn ystod wythnos iechyd meddwl. Dwi’n gobeithio trwy rhannu fy stori fel hyn, mi fydd mwy a mwy o pobl yn dechre siarad am iechyd meddwl, a trwy neud, helpu i herio’r stigma sydd ar gael mewn pob agwedd bywyd.
 
Dwi’n gobeithio trwy rhannu fy stori fel hyn, mi fydd yn helpu i herio’r stigma sydd ar gael mewn pob agwedd bywyd.
 
Fy gofid mwya oedd siarad ‘Wenglish’ ac oni’n ofni bod yn frin o eiriau unwaith o flaen y camera. Oni bach yn nerfus, ond nath y criw ffilmio neud i fi deimlo’n hollol gatrefol a cyfforddus. Yn y diwedd, oni methu stopio siarad ac roedd yn brofiad positif iawn wedi’r cwbl.
 
Rhaid imi ddweud bod siarad yn agored am iechyd meddwl wedi helpu fi a trwy helpu pobl arall dyma yw’r therapi gore dwi erioed wedi cael!
 
Roedd Sara yn un o dri person i rhannu eu profiadau yn rhaglen ddogfen 1 o bob 4. Mi allwch chi ei wylio eto yma.

Efallai hoffech

Gwena a Chwyd dy Law

Mae Naomi yn siarad am bwysigrwydd dweud yn union sut rydych chi'n teimlo pan fydd rhywun yn gofyn ‘Sut wyt ti?’ a'r holl ffyrdd y gallwch chi ateb y cwestiwn hwnnw.

20th February 2024, 8.47am | Ysgrifenwyd gan Naomi

Darganfyddwch fwy

Siarad, siarad, siarad!

Mae Samuel yn pwysleisio pwysigrwydd siarad am eich iechyd meddwl, yn enwedig ar adegau anodd, a sut mae siarad wedi achub ei fywyd.

20th February 2024, 8.43am | Ysgrifenwyd gan Samuel

Darganfyddwch fwy