Nid tristwch yn unig yw iselder

"Dwi'n teimlo fel fy mod i'n wan ac yn ceisio defnyddio iselder fel esgus. Os ydw i'n dal i deimlo hyn - sut mae pobl eraill i fod i wybod y gwir am afiechydon meddwl?"

9th January 2014, 2.31pm | Ysgrifenwyd gan Sarah Owen

Sarah Owen ydw i. Dwi'n 25 oed ac yn dod o Ynys Mon. Dwi'n dioddef o iselder ac  wedi bod yn cymryd meddyginiaeth am bron i dair mlynedd rwan.

Dwi ddim yn credu bod hi'n bosib i mi esbonio'n iawn sut deimlad oedd byw hefo iselder ar ei gwaethaf, ond mi wnai drio.

Teimlais fel fy mod i'n panicio o hyd. Roedd anadlu yn anodd ac roedd ofn gen i drwy'r amser... ond o beth doedd gen i ddim syniad. Roedd fy mhen yn drwm- byth yn gur pen go iawn ond fel fy mod ar y fin cael un o hyd. Roeddwn i wedi blino. O. Hyd. Roeddwn i wedi blino wrth fynd i'r gwely, wedi blino wrth godi, wedi blino yn y bore, canol dydd, nosweithiau. Roeddwn i eisiau cropian i mewn i'r gwely ac i bawb anghofio amdanaf i yn y tywyllwch. Roedd pobl yn gofyn os oeddwn i'n iawn ac roeddwn i'n ateb gyda gwen "Ydw, diolch." Doeddwn i ddim. Yn fy mhen roeddwn i'n sgrechian "NA... ond dwyt ti ddim yn gallu fy helpu fi achos does gen i ddim syniad beth sy'n bod gyda fi." Roedd fy holl egni yn cael ei dreulio yn ceisio bod yn gryf, fel bod dim ar ol pan byddai problem bach yn codi- ac yna byddwn i'n bendramwnwgl pathetig, yn medru gwneud dim i helpu fy hunan na neb arall ychwaith. Roedd yn amhosib i mi ganfod yr egni neu'r chwant i wneud y pethau roeddwn i wedi arfer mwynhau. Teimlais yn wan ac yn ddibwynt. Roeddwn i jest eisiau rhoi slap i mi fy hun a teimlo'n well. Darllenais rhywle nad tristwch ydy iselder- ond gwacter, poen ac anobaith i gyd gyda'i gilydd. Dyna'r disgrifiad sy'n aros gyda mi... "nid tristwch ydy iselder."

Dyna'r disgrifiad sy'n aros gyda mi... "nid tristwch ydy iselder."

Ces i blentyndod arbennig gyda dau riant cariadus a brawd a chwaer bach. Roedd fy rhieni yn berchnogion ac yn rhedeg maes carafannau a fferm 200 acr yn Ynys Mon wrth ochr fy 3 ewythr, antis a Nain a Taid. Roedd yn fywyd perffaith i blentyn. Wrth i mi dyfu, fodd bynnag, sylweddolais nad oedd pethau mor berffaith. Roedd gan Mam iselder. Roeddwn i'n gwybod bod ganddi hi ond ni olygodd lawer i mi ar y pryd. Doedd gen i ddim amynedd gyda hi. Roedd yn f'ypsetio yn ei chlywed yn son am adael ac roeddwn i'n flin gyda hi am f'ypsetio. Teimlais bod hi'n gwbl hunanol ac roeddwn i eisiau iddi hi sortio'i hun allan. Doedd hi ddim nes i mi gael yr un salwch i mi sylweddoli beth oedd hi wedi bod trwyddo. Yn 2009, pan oeddwn i'n 21, collais fy nhad, a hynny yn gyflym ac mewn ffordd ffiaidd.  

Roedd Mam yn dweud o hyd fy mod i'n sal. Roedd hi'n adnabod y symptomau. Dywedodd wrtha i am weld doctor. Gwrthodais dro ar ol tro. Doedd mynd at y doctor ddim yn mynd i ddod a bob dim yn ol i ni, felly beth oedd y pwynt? Mewn ffordd, teimlais fel fy mod am fradu Dad os oeddwn i'n cael help. Doeddwn i ddim eisiau gadael fynd ar y poen, achos doeddwn i ddim eisiau ei anghofio fo. Hefyd, yn fy meddwl i, roedd iselder amdan hunanladdiad a brifo eich hunain. Doeddwn i heb ystyried yr un o'r ddau felly doedd hi ddim yn bosib i mi fod yn dioddef. Yn y diwedd, sylweddolais nad oeddwn i'n delio a phethau ac ar ol blwyddyn a hanner es i gyda Mam i weld y doctor. Allai ddim esbonio'r rhyddhad wrth iddo ddweud mai iselder oedd gen i. Roedd rhywbeth yn bod gyda fi ac roedd yn bosib ei drin. Sylweddolias nad oeddwn i eisiau teimlo'n wael am weddill fy oes.

Mae'r tabledi wedi helpu. Teimlais yn ddigon cryf i hyfforddi fel athrawes ysgol uwchradd. Dwi nawr yn fy ail mlwyddyn yn addysgu'r Gymraeg fel ail iaith mewn ysgol yn Yr Wyddgrug. Ymunais a safle we lle cwrddais fy nghariad, Edd a bydden ni'n priodi yn 2015. Dwi'n meddwl bod o'n cael hi'n anodd weithiau byw gyda rhywun sydd wedi bod trwy'r hyn dwi wedi bod trwyddo ac yn dioddef o iselder.

Mae'n rhaid i bobl wybod sut mae'n teimlo, neu sut allen ni disgwyl iddyn nhw ddeall?

Darganfyddais i Amser i Newid yn yr Eisteddfod yn Ninbych, lle'r oeddwn i'n cystadlu gyda fy mand pres. Hyd yn oed nawr, ar ol dioddef a cael triniaeth am iselder, rydw i dal yn teimlo weithiau fy mod yn cogio bod yn sal! Dwi'n teimlo fel fy mod i'n wan ac yn ceisio defnyddio iselder fel esgus. Os ydw i'n dal i deimlo hyn- sut mae pobl eraill i fod i wybod y gwir am afiechydon meddwl? Mae hi mor bwysig addysgu pobl am salwch meddwl a'r effeithiau, nid yn unig ar y dioddefwyr, ond ar y pobl sy'n eu hamgylchynnu hefyd. Mae'n rhaid i bobl wybod sut mae'n teimlo, neu sut allen ni disgwyl iddyn nhw ddeall? Drwy addysgu pobl efallai bydd hi'n bosib ymestyn llaw i rhyw berson sydd yn dioddef mewn tawelwch achos dydyn nhw ddim yn sylweddoli nad gwan ydyn nhw, neu pathetig- ond sal. Os, trwy siarad am ein profiadau ein hunain, rydyn ni'n gallu helpu un person- mae'n rhaid bod hynny werth gwneud."

 

Cliciwch yma i ddysgu rhagor am iselder. Yw stori Sarah yn gyfarwydd? Cysylltwch a ni os hoffech chi sgwnnu blog ar gyfer ein gwefan.

Efallai hoffech

Gwena a Chwyd dy Law

Mae Naomi yn siarad am bwysigrwydd dweud yn union sut rydych chi'n teimlo pan fydd rhywun yn gofyn ‘Sut wyt ti?’ a'r holl ffyrdd y gallwch chi ateb y cwestiwn hwnnw.

20th February 2024, 8.47am | Ysgrifenwyd gan Naomi

Darganfyddwch fwy

Siarad, siarad, siarad!

Mae Samuel yn pwysleisio pwysigrwydd siarad am eich iechyd meddwl, yn enwedig ar adegau anodd, a sut mae siarad wedi achub ei fywyd.

20th February 2024, 8.43am | Ysgrifenwyd gan Samuel

Darganfyddwch fwy