Rhybudd: Hunan Stigma

"Wnes i gladdu fy hun o dan wal o gywilydd am llawer rhy hir, ac nid wyf am i eraill wneud yr un peth."

3rd April 2017, 10.35am | Ysgrifenwyd gan Bethan Marsh

Weithiau gall iechyd meddwl sal cropian i fyny ar chi, neu taro chi yn y wyneb. Mae’r ddau yn effeithio ar eich hunan-barch, ac rydych yn ei ffeindio’n anodd i ganolbwyntio ar y pethau positif mewn bywyd, dyw symud o gwely ddim yn teimlo yn werth e. Mae angen rhywbeth arall i focysu arno, ond gall ffeindio’r cymhelliant hynny hefyd fod yn anodd. Ar ôl ychydig byddwch chi ddim yn gweld werth mewn peintio ar gwên, a cuddio tu ol celwydd. Rydych yn dweud eich bod chi’n iawn drwy’r amser, ond nid yw hynny’n wir. Nid ydych chi’n credu fe, ond mae’n ymddangos yn haws na cyfaddef y gwir i eraill ac eich hun.text_head_copy.jpg

Weithiau mae’n tu hwnt i’ch rheolaeth pam eich bod yn gorwedd yn y gwely heb cymhelliant. Y rhan waethaf yw, nad ydych chi’n credu eich ‘esgus’ a felly pam ddylsai unrhywun arall. Weithiau gallech chi fod yn rhy galed ar eich hunain. Rwy’n ymwybodol fy mod i yn, ond dyw newid fy ffordd o meddwl ddim mor hawdd a cydnabod hynny. Mae hunan stigma yn real, ac i mi yn bersonol mae’n y brwydr fwyaf anodd. Rhybuddiodd neb i fi am hunan stigma. Mae'n swnio yn ofnadwy ond oeddwn i yn fwy barod i wynebu sylwadau negyddol gan eraill ynglŷn â datgelu fy brwydrau. Roeddwn i wedi adeiladu fy hun i fyny i gredu bydd pawb a sylwadau ddiystyriol a beirniadol, ac ar y cyfan rwyf wedi bod yn lwcus gan nad yw hynny wedi bod yn wir. Mae fy ffrindiau a theulu wastad wedi bod yno, a fy nghefnogi. Er fy mod i wedi wynebu ychydig o sylwadau negyddol am y ffordd na ddylswn i wneud fy materion iechyd meddwl yn wybodaeth gyhoeddus am ei fod e’n brandio mi fel anniogel ac yn annibynadwy, llwyddais i frwsio’r sylwadau hynny o dan y carped. Roedd yn rywsut yn haws i ddelio â, na’r stigma dwi wedi wynebu oddi fi fy hun. Fe allech chi ddweud bod fy hunan stigma wedi rhoi croen caled i mi, gan fy mod i wedi gwario gymaint o amser yn credu yn isel o fy hun, roedd hyn yn golygu pan oedd pobl eraill yn wneud yr un peth, oedd e ddim yn synnu fi.

Oeddwn i yn weld fy hun yn wan, a pherson llai am peidio gallu delio gyda fy materion mewn modd heb fod yn ddinistriol. Byddwn yn dweud wrth fy hun fy mod i wedi derbyn yr amserau drwg, fy ngorffennol carpiog, dadansoddiadau emosiynol, fy ansefydlogrwydd, ac pwll o bryder yr wyf yn teimlo yn rheolaidd. Ond y gwir yw, nid wyf yn credu hynny. Byddai’n well gen i droi llygad dall i'r pethau hynny, a esgus nad ydynt yn bodoli. Rwy'n argyhoeddi fy hun gallaf fynd ymlaen trwy fy dydd, heb orfod wynebu rhannau hyn o mi. Rwyf wedi gweld fy materion iechyd meddwl fel baich, rhwystr, cyfyngiad, a gyfrinach am blynyddoedd, a dyw hi ddim yn iach. Fel nifer o bobl, oeddwn i yn credu fod yn rhaid i mi guddio fy brwydrau i ffwrdd, yn delio â hwy yn unig, mewn ffordd rwy'n gwybod na allaf ymdopi â, oherwydd yr ofn o wneud pobl eraill yn anghyfforddus. Dydw i ddim am i bobl eraill deimlo fel eu bod yn delio â ‘ticking bomb’ yn ansicr pan fyddaf i yn gael ei sbarduno.

Rhan fwyaf o’r amser rwy’n unigolyn hapus sydd yn mynd a dod, bob amser yn brysur, yn ceisio cadw fy meddwl yn weithgar. Mae'n gweithio. Ond weithiau rwy'n sylwi fy hun yn llenwi fy mwrdd amser fel ‘distraction’. Dwi ddim eisiau amser i afael â'r pethau sy'n mynd ymlaen yn fy mhen fy hun. Rwy'n dechrau talu llai o sylw i beth sydd angen arnai. Rhedeg ar ychydig iawn o gwsg, ac yn syrthio allan o'r patrwm bwyta rheolaidd. Rwyf bob amser yn ymwybodol pan fydd hyn yn dechrau digwydd. Ond os ydw i’n cyfaddef hyn i mi fy hun yn beth arall.

Mae hunan stigma, yn fater yr wyf i heb oresgyn eto. Rwy'n cau pobl allan, ac yn ynysu fy hun oherwydd y cywilydd rwy'n teimlo, am fethu ymdopi â phethau, fel y mae eraill yn ymddangos i. Dwi ddim yn hoffi cyfaddef pan nad oes gennyf pethau o dan reolaeth. Dwi ddim yn hoffi cyfaddef pan fydd fy emosiynau yn mynd yn rhy fawr. Dydw i ddim yn hoffi cyfaddef bod yr arwyddion rhybudd yno. Rwy'n gofrestru, pan ydw i'n llithro i mewn cyflwr o iselder, ond nid wyf yn gweithredu ar e ac nid wyf yn gweithio fy hun allan o'r sefyllfa chwaith, byddaf yn dod yn ddideimlad ac yn cau e i ffwrdd, fel cyfrifiadur sydd yn llithro i mewn i modd cysgu.

Mae hunan stigma, yn atal llawer o bobl sy'n dioddef o salwch iechyd meddwl rhag estyn allan ac yn siarad am y peth. Mae'n pam wnes i ddim afael â materion fi nes oedd gen i ddim dewis. I mi, ni ddylse fe erioed cyrraedd mor ddrwg ag y gwnaeth, ond oherwydd y pryderon yr oeddwn yn cael am sut y byddai fy ffrindiau a theulu yn ymateb yn negyddol, yn union sut oeddwn i yn cyfyngu fi fy hun . Ni allwn weld hynny ar y pryd, ond mae fy hunan stigma, wedi bod yn waeth nag unrhyw stigma allanol rwyf wedi wynebu erioed. Mae'n gyfyngedig ac yn ynysu mi.

"Wnes i gladdu fy hun o dan wal o gywilydd am llawer rhy hir, ac nid wyf am i eraill wneud yr un peth."

Mae dod allan a siarad am y peth, erioed wedi bod yn hawdd i mi. Hyd yn oed heddiw, yr wyf yn ei chael yn haws i ysgrifennu am bethau pan dwi'n teimlo'n isel. Dyma'r ffordd orau i mi yn bersonol i gael e gyd allan ar bapur, ac yn gwneud i fy teimladau yn fwy dwys. Mae'n ffordd i ddilysu a chydnabod fy teimladau, yn hytrach na potelu i fyny ac yn eu cau i lawr. Mae'n bwysig i ddilysu eich teimladau. Roeddwn i yn gelyn gwaethaf fy hun am llawer rhy hir.

Mae'n bwysig cofio bod weithiau mae pethau o dan reolaeth, ac weithiau nad ydyn nhw. Er bod hynny'n iawn, mae rhywbeth yr wyf yn ffeindio’n galed i ddod i delerau â'r. Mae'n rhywbeth yr wyf yn wynebu bron bob dydd. Y drafferth efo hunan-stigma yw, mae’n rhywbeth y bydd yn aml yn dod i’r wyneb, yn wahanol i sylw negyddol gan rhywun o'r tu allan, mae'n fwy anodd i gau i lawr.

Trwy'r blog hwn oeddwn i eisiau codi ymwybyddiaeth am difrifoldeb hunan stigma. Dymunaf bod i wedi cael ei rhybuddio am y iawndal mae’n gallu achosi. Mae siarad allan am fy siwrne fel hyrwyddwr Amser i Newid Cymru, mewn gwirionedd wedi fy helpu i leddfu rhai o fy hunan amheuaeth.

Efallai hoffech

Gwena a Chwyd dy Law

Mae Naomi yn siarad am bwysigrwydd dweud yn union sut rydych chi'n teimlo pan fydd rhywun yn gofyn ‘Sut wyt ti?’ a'r holl ffyrdd y gallwch chi ateb y cwestiwn hwnnw.

20th February 2024, 8.47am | Ysgrifenwyd gan Naomi

Darganfyddwch fwy

Siarad, siarad, siarad!

Mae Samuel yn pwysleisio pwysigrwydd siarad am eich iechyd meddwl, yn enwedig ar adegau anodd, a sut mae siarad wedi achub ei fywyd.

20th February 2024, 8.43am | Ysgrifenwyd gan Samuel

Darganfyddwch fwy