Helpu ffrind

Pethau bach sy'n gwneud gwahaniaeth mawr - dyma beth oedd yn help i mi

Gall bethau bach wneud gwahaniaeth mawr. Bran sy'n son am y pethe wnaeth gwahaniaeth mawr iddi hi ac awgrymu ambell ffordd y gallwch chi gefnogi ffrind sydd a problem iechyd meddwl.

20th May 2014, 3.09pm | Ysgrifenwyd gan Bran

Dros yr haf, pan wn i’n sâl, roedd fy ngweithiwr cefnogwr (support worker) yn help enfawr.

Wnaeth hi ddod i weld fi pob dydd yr wythnos, i ddechrau, ac yna, pan oeddwn i’n teimlo’n well, pob am yn ail ddydd. Nawr dwi’n gweld hi unwaith yr wythnos.

Gwnaeth hi hefyd fy helpu i ddeall mwy am fy salwch, trwy ysgrifennu cwestiynau i fi i ofyn i’r doctor a oedd yn trîn fi. Roedd hi wedi helpu i fi i ddeall mwy am fy salwch.
 
Gwnaeth hi neud i fi teimlo bod rhai pobol eisiau fy helpu, hi’n un o nhw.  Bydd hi’n cymryd fi allan am dro neu’n eistedd a gwrando. Mae gwrando’n anfarnol yn bwysig iawn pan mae rhywun yn teimlo’n sâl. Gyda help fy ngweithiwr, des i allan o’r teimladau tywyll. Gyda paned o de a sgwrs hapus, dechreuais i cymryd fy moddion eto. Wnaeth hi fy annog i codi lan yn y bore, i ymolchi, i meddwl am pethau sy’n neud bywyd yn dda. Yn araf bach, dechreuais i i wenu. Dechreuais i i barhau â fy mywyd ‘normal’.
 
Mae pethau bach fel sgwrs yn cynorthwyol. Mae nhw’n digon i greu golygwedd cadarnhaol, sydd yn arweinio at curo’r salwch.  
 
Wnes i darganfod bod mynd am dro yn help. Ers iddi fy annog i mynd am dro, rydw i nawr yn defnyddio ymarfer corff i concro’r teimladau gwael. Mae gen i bag paffio yn fy ‘stafell fyw!
 

Mae pethau bach fel sgwrs yn cynorthwyol. Mae nhw’n digon i greu golygwedd cadarnhaol, sydd yn arweinio at curo’r salwch.  
Pan oeddwn i yn yr ysbyty, roedd creu celf a chrefftau yn ffordd bendigedig o wastraffu amser. Unrhyw beth a phopeth. Creais i posteri lliwgar i rhoi yn fy ystafell. Gweais i blanced bach ar gyfer fy ngwely.   Peintiais i llun ar gyfer y bwrdd cymunedol. Ysgrifennais i cerddi. Roeddwn i'n teimlo fel plentyn ysgol, ond roedd hi'n hwyl ac yn gwastraffu amser, sydd syn elfen bwysig yn ysbytai.
 
Tips ar gyfer helpu
 
Nid yw pob un o'r rhain ar gyfer pawb, ond triwch ychydig onhonyn nhw, mae nhw'n 'common sense'!
 
  • Yn gyntaf, siaradwch i’r person sal fel person. Paid siarad mewn llais uchel neu'n araf.
  • Mae cymhelliaeth ysgafn hefyd yn gallu helpu, er enghraifft, I cael cawod neu bath.
  • Mae paned o de a sgwrs yn gallu helpu'n aruthrol. Cofiwch i wrando i’r person sal yn non-judgementally. Sgwrs am pethau ysgafn fel y tywydd neu beth ddigwiddodd ar Eastenders neithiwr.
  • Anhregion bach. Does dim rhaid iddyn nhw costio, fel blodau lafant neu carreg fach I smwddio
  • Creu 'bocs positif' llawn o pethau sy'n gwneud I chi gwenu fel llun o'ch teulu neu rhywen neu lle arbennig, pethau bach sy'n golygu rhywbeth arbennig ir person.
  • Celf a chrefftiau. Efallai ech bod chi'n teimlo fel plentyn ysgol, ond mae'n hefyd gallu bod yn hwyl ac yn therapiwteg I greu rhywbeth gyda'ch dwylo, rhywbeth i gadw. Defnyddiwch lliwiau llachar a 'hapus'
  • Gemau fel 'cross-words' allech chi wneud gyda'r person sal, i weithior ymenydd, neu un yr un a cael  cystadleiaeth i weld pwy sy'n gallu gorffen yn gyntaf
  • Cymryd y cwn allan am dro. Hyd yn oed os does gen ti ddim cwn, mae unrhyw ffordd o ymarfer corff yn helpu. Cymerwch camera, cymerwch lluniau o pethau hapus tu allan o'ch ty/fflat.
  • Glanhau'r ty a thaflu allan sbwriel, pethau sy wedi torri, pethau di-werth. Mae glanhau a taflu pethau yn therapiwteg ac yn symboleg. Dychmygwch eich bod chi'n taflu allan y gorffennol.
  • Taflu cerrig i mewn Ir afon lleol. Dychmygwch bod chi'n taflu meddylion a teimladau gwael iffwrdd.
  • Dechrau siwrnal positif, triwch I feddwl am 3 peth dda sydd wedi digwydd heddiw, bach neu'n fawr, fel 'coginiais I cacen neis heddi' neu 'wnaeth person diethr gweni ataf fi heddi'
  • Gwrandwch I gerddoriath, meddyliwch am ffurfiau newydd o gerddoriath neu bandiau gwahanol ir arfer.
  • Gofynnwch cwestiynnau i'r doctor neu nwrs sy'n helpu, I wneud yn sicr fod y person sal yn gwibod beth mae nhw'n mynd trwy
  • Coginio. Gall bod yn pryd o fwyd neu cacennau. Rhywbeth iachus I canmol y person sal I fwyta'n well.
  • Rhedeg bath efo aroglyddion ymlaciol fel lafant
  • Awrgrymwch llyfr positif iddyn nhw darllen. Neu siaradwch am eich hoff llyfr.
  • Gemau bwrdd ar gyfer dau neu'n fwy. Gwahoddiwch ffrindiau o gwmpas, creu noson gemau.

Bran

 

Gall bethau bach wneud gwahaniaeth mawr. Gwyliwch ein animeiddiadau a dechreuwch eich sgwrs chi heddiw!

Efallai hoffech

Gwena a Chwyd dy Law

Mae Naomi yn siarad am bwysigrwydd dweud yn union sut rydych chi'n teimlo pan fydd rhywun yn gofyn ‘Sut wyt ti?’ a'r holl ffyrdd y gallwch chi ateb y cwestiwn hwnnw.

20th February 2024, 8.47am | Ysgrifenwyd gan Naomi

Darganfyddwch fwy

Siarad, siarad, siarad!

Mae Samuel yn pwysleisio pwysigrwydd siarad am eich iechyd meddwl, yn enwedig ar adegau anodd, a sut mae siarad wedi achub ei fywyd.

20th February 2024, 8.43am | Ysgrifenwyd gan Samuel

Darganfyddwch fwy