Fel archaeolegydd, mae fy ngwaith ymchwil yn edrych ar y perthynas rhwng bobl a’i amgylchedd. Fel person sydd wedi dioddef ac iselder mae’r berthynas yna yn un sydd wedi fy’n helpu i wella a dod i adnabod ac ail-adnabod ffrindiau hen a newydd.
Cefais y diwrnod mwyaf drwg yn ystod diwrnod dydd Gwener arferol o waith mis Rhagfyr 2013. Rwan dwi’n syweddoli roedd nifer o broblemau wedi bod yn effeithio arnaf dros rhai misoedd a doeddwn i ddim wedi siarad a fy ffrindau a fy nheulu i ceisio datrys nhw.
Roedd y problemmau yn rhai gall pawb deall – poeni am pres, am gwaith, am iechyd, am sgwennu fy PhD, am fy nheulu…pethau mae pobl yn delio efo yn hawdd bob dydd, ond trwy peidio a siarad am bob un yn unigol, a’i rhoi nhw i gyd mewn un pel mawr o digaloni nid oeddwn i yn gallu gweithio allan pa problem oedd yr un oedd angen delio efo yn gyntaf, gan wneud mi deimlo yn waeth fyth.
Gyrais fy hyn i fy meddygfa, a gofyn i weld fy meddyg. Nid oedd o ar gael, ond welais meddyg arall a mi ffoniodd o yn syth y tim psychiatreg yn yr ysbyty mawr lleol. Cefais sgwrs hir gyda meddyg yna i wneud yn siwr nad oeddwn i wedi gwneud niwed i fi fy hyn yn barod, a wedyn sgwrs gyda dyn o’r tim psychiatreg a benderfynodd gallaf mynd adref, ond i gymeryd amser i ffwrdd o fy ngwaith i wella.
Cychwynais siarad. A trwy siarad a fy meddyg, fy nheulu, fy ffrindiau ac y dyn o’r tim psychiatreg yn yr ysbyty am y problemmau yr oeddyn nhw yn gallu helpu fi i ddatrys. Roedd rhai o’r problemmau yn eitha hawdd i delio efo, a trwy delio gyda un, aeth y bel o digaloni yn llai. Trwy siarad a fy meddyg, newidwyd y cyffuriau yr oeddwn i yn cymeryd i delio gyda’r iselder. Cymerodd nhw amser i weithio – nid rhywbeth dros nos yw newid rhain – ond yn y diwedd gwnaethwyd wahaniaeth mawr i sut roeddwn i yn gallu delio gyda’r pethau yr oeddwn i yn poeni amdan. Roedd fy nheulu yn gallu helpu trwy galw draw i’r ty yn fwy aml, trwy tecstio i ofyn sut oeddwn i a trwy syweddoli ar y newid yn fy nghyflwr a deud wrthyf faint o welliant yr oeddyn nhw yn ei weld ynof.
Roedd fy nheulu yn gallu helpu trwy galw draw i’r ty yn fwy aml, trwy tecstio i ofyn sut oeddwn i a trwy syweddoli ar y newid yn fy nghyflwr
Cyrfafodais ffrindiau newydd hefyd. Trwy siarad am fy nhroblemau trwy blog ymchwil fy PhD cefais negeseuon o gefnogaeth o ar draws y byd am bod mor dewr a siarad am sut roedd yr iselder wedi fy effeithio. Roedd bob un bron yn deud yr un peth – “os wyt ti eishio siarad, dwi yma” – ac er dwi ddim yn adnabod y bobl yma yn y cnawd, ond trwy y geiriadau caredig ar a we, teilmlaf yn agos atynt am ei cefnogaeth.
Mae pethau wedi trawsnewid yn y chwe mis ers y diwrnod yna, a dwi’n teimlo yn fwy bositif am y dyfodol ac am y fraint o fod yn heiriolwr i ‘Amser i Newid Cymru’.
Spencer