Rwyf wedi bod yn meddwl llawer yn ddiweddar am y gwahaniaeth a wnaeth y drafodaeth y llynedd - i'r rheini ohonom a gymerodd ran, i ymgyrch Amser i Newid Cymru ac i'r unigolion roeddem yn bwriadu eu helpu i oresgyn gwahaniaethu.
Yn amlwg, roeddwn i, fel fy nhri chydweithiwr arall, yn teimlo'n nerfus cyn y drafodaeth ac yn anesmwyth am yr ymateb y byddai'n ei ysgogi. Roedd hyn yn seiliedig ar y ffeithiau yr oeddem yn mynd i siarad amdanynt yn ystod y drafodaeth - yn enwedig yr ystadegyn trist bod un o bob pedwar o'n hetholwyr yn dal i gredu y dylem fod wedi cael ein gwahardd rhag dal swyddi cyhoeddus ar sail ein profiadau o salwch meddwl. Anaml iawn fel gwleidydd y byddwch yn mynd ati o ddifrif i hyrwyddo rhywbeth sydd â'r potensial o'ch eithrio eich hun o chwarter eich etholwyr!
Dros yr wythnosau a'r misoedd yn dilyn y drafodaeth, dechreuais sylweddoli, er ei fod yn benderfyniad mawr i David, Eluned, Llyr a minnau ddatgelu ein priod brofiadau o salwch meddwl i'r byd, mae llawer iawn o unigolion yn dal i ddioddef o'r salwch hwn yn ein cymunedau. Yr hyn a wnaeth y drafodaeth oedd helpu i ddatgelu salwch meddwl ac ysgogi trafodaeth ar y pwnc yr oedd ei hangen yn fawr.
Yn union ar ôl y drafodaeth, cawsom oll negeseuon o longyfarchiadau a negeseuon calonogol gan unigolion, dieithriaid yn aml, oedd wedi elwa ohono. Cefais gefnogaeth gref iawn gan gyd ACau ar draws pob plaid, yn ogystal â chefnogaeth wych gan fy etholwyr yn Ne Clwyd.
Nid oedd amheuaeth ein bod wedi gwneud y peth iawn, ond ar ôl helpu gyda'r gwaith o ysgogi trafodaeth yr oedd ei hangen yn fawr, teimlais y byddai wedi bod yn gwbl annerbyniol troi'n ôl i fod yn dawel ynghylch y pwnc.
Felly, gwnes ymdrech bwrpasol i nodi ble y gallai trafodaethau ar iechyd meddwl helpu i herio gwahaniaethu ac ysgogi mwy o bobl i siarad mewn amgylchedd diogel. Cwrddais ag unigolion â phrofiadau ysbrydoledig, ond torcalonnus weithiau, o iechyd meddwl dros sawl mis, a roddodd fy mhrofiad i yn y cyd-destun cywir. O neuaddau myfyrwyr i ganolfannau cymunedol, clybiau gweithwyr i ganghennau sefydliad y merched, lle bynnag roeddwn i'n rhannu fy mhrofiadau ag unigolion, roedd eraill bob amser yn barod i gyfrannu mwy.
Roedd y profiadau y dysgais amdanynt yn aml yn fwy heriol na'r hyn a brofais i, a dechreuais feddwl am y sbectrwm anferth o wahanol fathau o salwch a chyflyrau sy'n bodoli yn ein cymunedau, a'r graddau y gallant fod yn wanychol i unigolion a'u hatal wrth iddynt ymdrechu i gyflawni eu nodau mewn bywyd.
Wrth rannu ein profiadau mewn bywyd, rydym yn ffurfio cyfeillgarwch, datblygu cysylltiad â'n gilydd a meithrin parch. Ac rydym hefyd yn creu llwybrau ar gyfer meithrin ymddiriedaeth a pharch at ein gilydd. O ganlyniad, gall rhannu'r hyn y mae llawer yn ei ystyried yn wendid fod yn fuddiol dros ben, nid dim ond wrth fynd i'r afael â stigma, ond hefyd wrth gryfhau undod, ymddiriedaeth a pharch.
"Wrth rannu ein profiadau mewn bywyd, rydym yn ffurfio cyfeillgarwch, datblygu cysylltiad â'n gilydd a meithrin parch."
Tra'n cwrdd ag unigolion o bob cefndir sydd wedi profi salwch meddwl, daeth yn amlwg bod atebion i elfennau dros dro sy'n arwain at amrywiaeth eang o gyflyrau o fewn cyrraedd i ni. Mae gan rai pobl wrth gwrs salwch meddwl sydd wedi'i achosi gan ffactorau ffisiolegol yn hytrach na ffactorau amgylcheddol, ond i filiynau o unigolion ym Mhrydain, mae gwraidd eu cyflwr yn deillio o brofiadau bywyd sy'n niweidio eu hunanhyder a'u hymdeimlad o werth a lle yn y gymuned.
Felly, yn fwy diweddar, rwyf wedi bod yn canolbwyntio ar herio'r ffactorau negyddol a all gyfrannu at iselder, pryder a mathau eraill o salwch emosiynol. Yn amlach na pheidio, mae'r ffactorau hyn hefyd yn cyfrannu at stigma a rhagfarn, felly bydd y rhai sy'n dioddef o salwch meddwl yn aml yn wynebu gwahaniaethu ar sawl lefel.
O ystyried hyn, mae angen targedu ein holl sylw at rywiaeth, homoffobia, rhagfarn oed, hiliaeth, gwahaniaethu yn erbyn anableddau corfforol, diffyg trugaredd dros y di-waith, gwahaniaethu ar sail crefydd a diffyg dealltwriaeth o'r rhai sydd wedi dioddef o gamdriniaeth. Felly, wrth i ni geisio rhoi terfyn ar wahaniaethu yn erbyn salwch meddwl, beth am i ni weithio hefyd gyda ffrindiau a chydweithwyr mewn elusennau a sefydliadau eraill - ac o bob plaid - i roi terfyn ar bob math o wahaniaethu a rhagfarn a all achosi trallod emosiynol a salwch meddwl.
"Yn amlach na pheidio, mae'r ffactorau hyn hefyd yn cyfrannu at stigma a rhagfarn"
Wrth fy mhenodi'n Ddirprwy Weinidog Sgiliau a Thechnoleg ar 26 Mehefin, cyhoeddodd y Prif Weinidog ymrwymiad ei weinyddiaeth i wella iechyd meddwl a rhoi terfyn ar wahaniaethu drwy gymryd camau gweithredu clir. Roeddwn yn ddiolchgar dros ben, nid yn unig am y gwahoddiad i wasanaethu yn y llywodraeth, ond hefyd am y ffaith ei fod wedi arwain y blaen a dangos bod ei lywodraeth am wneud cynnydd. Yn ôl Llywodraeth Cymru, roedd Amser i Newid eisoes wedi cyrraedd. Roedd hynny'n gwneud i mi deimlo'n falch iawn; yn falch fy mod yn gwasanaethu yn llywodraeth Carwyn Jones ac yn falch o fod yn Gymro.
Yn olaf, hoffwn dalu teyrnged i Bethan Jenkins AC, a ymunodd â ni yn ddiweddar, ac a rannodd ei phrofiadau o salwch meddwl. Mae cyfraniad Bethan i ymgyrch Amser i Newid Cymru wedi bod yn arbennig o bwerus ac mae'n haeddu cydnabyddiaeth. Rwy'n gobeithio y bydd rhagor o bobl o bob rhan o gymdeithas yn ymuno â'r drafodaeth ac y byddwn, gyda'n gilydd, yn gallu cael gwared ar y gwahaniaethu sydd yn erbyn iechyd meddwl - ac achosion iechyd meddwl sy'n aml wedi'u gwreiddio mewn mathau eraill o wahaniaethu, arwahanrwydd a phrofiadau bywyd niweidiol.
Ken Skates AC yw'r Dirprwy Weinidog ar gyfer Sgiliau a Thechnoleg. Mae'n cynrychioli De Clwyd i Llafur Cymru.
Os yw blog Ken yn eich ysgogi i ymuno a'r ymgyrch, clicwich yma i fod yn rhan.