Helo fy enw i ydi Nia a dwi’n dod o Llannefydd yn Ngogledd Cymru. ‘Rwyn 43 mlwydd oed ac wedi dioddef o iselder am dros bymtheg mlynedd.
Mae’r iselder sydd gennai yn cael ei alw yn Dysthemia neu Iselder Chronig ac mi fyddaf ar feddyginiaeth weddill fy oes ar gyfer yr iselder yma.
Yn y gorfennol rwyf wedi bod mewn Uned Seiciatrig am rai wythnosau ond mae hi wedi bod ddeg mlynedd ers i fi fod yn yr ysbytu. Serch y problemau yma ‘rwf wedi medru cyfrannu i’r gymdeithas mewn modd positif.
Dros yr ugain mlynedd diwethaf ‘rwyf wedi bod yn gwirfoddoli hefo elusen sy’n helpu aelodau a cyn aelodau o’r lluoedd arfog(SSAFA). ‘Rwyf wedi bod yn weithiwr achos, ysgrifennydd ardal ac erbyn hyn fi yw Trefnwr Hyfforddi Gogledd Ddwyrain Cymru I’r mudiad. ‘Rwyf hefyd wedi gwirfoddoli a’r Samariaid a’r RSPCA a Radio Cymunedol.
Yn 2002, dwy flynedd ar ol bod yn yr Uned Seiciatrig fe adawais fy swydd hefo Cymdithas Addysg y Gweithwyr a symud I Maencaenion I hyfforddi fel Gweithiwr Cymdeithasol. ‘Roedd hyn yn gryn newid ar fyd, ac fe ymdopais yn reit da hyd at yr ail flwyddyn. Yn ystod yr ail flwyddyn fe ddechreuodd fy symptomau iselder waethygu ac fe gefais driniaeth yn yr uned seicolegol yn Ysbyty Glan Clwyd am ddau fis yn ystod 2004. ‘Roeddwn yn wynebu peidio a gallu gorffen fy nghwrs ac ‘roedd yn gyfnod annodd i fi a penderfynnais ail wneud y flwyddyn olaf eto. Ond dyma ddechrau problemau hefo’r GSCC oedd yn gwrthod gwneud penderfyniad ai fyddent yn talu i mi ail wneud y flwyddyn. Fe heriais y GSCC gyda help fy aelod seneddol ac yn y diwedd fe gefais fy ariannu, ac erbyn 2005 ‘roeddwn yn gweithio I Gyngor Sir y Fflint fel Gweithiwr Cymdeithasol. Ar ol pedair blynedd o weithio ym maes oedolion yn y Gwasanaethau Cymdeithasol fe gymerais i doriad o weithio yn gyflogedig i edrych ar ol aelod or teulu oedd yn wael ac yn 2012 dechreuais fy swydd presennol fel Eiriolwr Iechyd Meddwl yn CADMHAS.
Yn ogystal a gwaith cyflogedig ‘roeddwn I dal yn gwirfoddoli ac hefyd yn chwarae mewn Band Pres yn Y Rhyl. Yn 2010 ymmunais hefo Radio Cymunedol Point FM yn y Rhyl a dechreuais gyflwyno rhaglenni I’r orsaf. Ar un cyfnod ‘roeddwn yn darlledu tair rhaglen yr wythnos dau yn Saesneg a’r llal yn Y Gymraeg. Fe gefais gyfweld nifer o bobl gan gynnwys Max Boyce, Rhydian Roberts, Hywel gwynfryn a Robat Arwyn. cefais fy nghyfweld ar gyfer rhaglen deledu ar S4C ac fe fum yn gweithio ir BBC yn yr Eisteddfod Genedlaethol yngh Nghaerdydd.
Neges yr holl hanes yma i bobl ydi nad oes raid i broblemau iechyd meddwl olygu na allwch chwarae rhan llawn o fewn eich cymunedau a byd gwaith.
Neges yr holl hanes yma i bobl ydi nad oes raid i broblemau iechyd meddwl olygu na allwch chwarae rhan llawn o fewn eich cymunedau a byd gwaith. Nid y diwedd yw problemau iechyd meddwl ond y dechrau, dechrau edrych ar y byd yn wahannol a derbyn her byw bywyd. Byw hefo iselder yn hytrach na marw o’I achos.
Mae gennyf freuddwyd i’r dyfodol breuddwyd o fyd lle gall bobl siarad yn agored am eu iechyd meddwl yn ogystal a’u iechyd corfforol. ‘Rwyf hefyd yn awyddus i gymryd rhan yn y maes comedi a defnyddio comedi i godi ymwybyddiaeth o broblemau iechyd meddwl.
I gloi, os ydi hi’n bosib i mi wneud hyn, mae yne gyfle i bawb arall!