Mae fy mhenderfyniad i siarad wedi newid fy mywyd

Cefais fy ngorfodi i herio'r canfyddiadau anghywira wnaeth i fi deimlo fel pe bawn i ar fai rywsut.

28th November 2013, 11.24am | Ysgrifenwyd gan Eluned Parrott AM

Mae blwyddyn wedi mynd heibio ers i mi gymryd rhan mewn trafodaeth yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru i rannu fy mhrofiad fy hun o salwch meddwl.  Roeddwn am gymryd y cyfle i feddwl yn ôl at y cyfnod hwnnw a'r ffordd y mae fy mhenderfyniad i siarad amdano wedi effeithio ar fy mywyd ers hynny.

Dechreuodd fy stori tua 18 mis yn ôl, pan es i ymweld â stondin Amser i Newid yn yr Eisteddfod Genedlaethol ym Mro Morgannwg.  Roedd yr ymgyrchwyr oedd ar y stondin yn gofyn i bobl wneud addewid i ddangos sut y byddant yn cefnogi'r ymgyrch. Ar ôl rhai munudau o syllu ar y cerdyn a phendroni a dros beth i'w wneud, ysgrifennais, 'Byddaf yn agored am fy mhrofiad fy hun o iselder'.  Hwnnw oedd y tro cyntaf i mi ei gyfaddef yn gyhoeddus.

Yn fuan ar ôl hynny, gwnes i gwrdd ag aelodau o dîm ymgyrchu Amser i Newid a gwnaethom drafod sut y gallwn i helpu.  Cytunais i ysgrifennu blog yn siarad am fy mhrofiadau gan awgrymu y gallem ni gynnal trafodaeth yn y Siambr i ddod â'r mater at sylw'r gynulleidfa fwyaf posibl. Trafododd y tîm ymgyrchu y syniad â'u cysylltiadau yn y tair plaid arall yn y Senedd ac roeddwn wrth fy modd pan ddeallais fod un aelod o bob plaid wedi cytuno i gymryd rhan ac y byddem ni'n gallu cynnal trafodaeth diduedd, drawsbleidiol.

Wrth i ni drefnu'r drafodaeth, roeddwn i'n teimlo'n frwdfrydig ac yn gyffrous am y cyfle i gyfrannu at rywbeth yr ydw i'n ei ystyried yn fater hynod bwysig. Roeddwn i hefyd yn teimlo'n falch bod yna rywbeth y gallwn ei wneud a all wneud gwahaniaeth i fywydau pobl y tu allan i'r byd gwleidyddol. Fodd bynnag, wrth i ddyddiad y ddadl nesáu, roeddwn i hefyd yn teimlo straen a phryder mawr am fy mhenderfyniad i siarad yn gyhoeddus a sut y gallai hynny effeithio ar y ffordd y mae pobl yn fy ystyried yn fy rôl. Cystadleuaeth boblogrwydd yw gwleidyddiaeth yn ei hanfod, ac roeddwn yn hynod bryderus y byddai pobl yn credu nad ydw i'n gymwys i wneud fy swydd oherwydd fy hanes o gael iselder ôl-enedigol.  Hygrededd yw ein nodwedd bwysicaf fel gwleidyddion, ac roeddwn i'n poeni'n fawr fy mod i wedi gwneud camgymeriad ofnadwy ac y byddwn i'n tanseilio fy enw da fy hun yn llwyr. Roedd y ffaith fod yna aelodau mor uchel eu parch o'r pleidiau eraill, sef Llyr Gruffydd, David Melding, ein Dirprwy Lywydd a Ken Skates, sydd nawr yn Weinidog, oedd hefyd yn fodlon cymryd y risg honno wedi rhoi llawer o gysur i mi, a gallwn deimlo'n hyderus fy mod i'n gwneud y peth iawn, ni waeth pa mor anodd oedd hynny.

Ar ôl y drafodaeth, roeddwn i'n teimlo mor falch ac roeddwn yn ddiolchgar i aelodau Cynulliad Cenedlaethol Cymru.  Gwnaethant wrando mewn tawelwch pur ar bob un ohonom, a derbyniais nifer o negeseuon o gefnogaeth ac anogaeth o bob rhan o'r Siambr, gan gynnwys y sawl yr oeddwn wedi eu hystyried yn wrthwynebwyr gwleidyddol pybyr.  Rwyf hefyd yn hynod ddiolchgar i'm cydweithwyr yn fy mhlaid ac yn enwedig i'n holl aelodau o staff a oedd, i bob golwg, yn darparu gwasanaeth cwnsela anffurfiol ym mis Hydref a Thachwedd y llynedd. Hebddyn nhw, gallwn i fod wedi newid fy meddwl a thynnu'n ôl, ac rwy'n teimlo'n hynod ffodus i gael y fath ffrindiau.

Nid yw'n hawdd cyfaddef i rywbeth a gaiff, yn anffodus, ei weld fel gwendid personol yn ein cymdeithas o hyd, ac rwy'n cymeradwyo'r cannoedd o bobl sydd wedi ysgrifennu blogiau ac wedi bod yn gwbl onest er mwyn helpu i roi diwedd ar stigma yn erbyn pobl gyda salwch meddwl.   Yn fy achos i, roedd yn rhywbeth yr oeddwn i wedi ei guddio'n bwrpasol rhag fy ffrindiau, fy nghydweithwyr a hyd yn oed aelodau o'm teulu yn y gorffennol, yn rhannol gan ei fod yn bwnc yr oedd yn anodd yn emosiynol i siarad amdano ac, os ydw i'n onest gyda mi fy hun, yn rhannol hefyd oherwydd bod gen i gywilydd. Roeddwn i wedi cydnabod stigma'r gymdeithas yn ymwneud ag iechyd meddwl ac yn fy hanfod, roeddwn i'n ei gredu.  Drwy benderfynu siarad am fy mhrofiad fy hun, cefais fy ngorfodi i herio'r canfyddiadau anghywir a wnaeth i mi deimlo fel pe bawn i ar fai rywsut.  Rwyf mor falch fy mod i wedi gwneud hynny.  Mae wedi fy rhyddhau oddi wrth ffynhonnell gudd ond ddofn o bryder personol, gan fy ngalluogi i symud ymlaen yn fy mywyd gyda mwy o hyder a hapusrwydd.

Credaf fod y penderfyniad i siarad a bod yn onest am fy mhrofiadau fy hun wedi fy ngwneud yn well gwleidydd oherwydd mae wedi fy ngwneud yn berson mwy empathig.  Mae pobl wedi dod ataf yn benodol er mwyn trafod eu problemau iechyd meddwl eu hunain ac rwy'n teimlo'n freintiedig eu bod wedi teimlo y gallant wneud hynny.  Yn yr un modd, pan fyddaf yn cwrdd â phobl yn fy nghyngorfeydd sydd wedi cael problemau iechyd meddwl eu hunain, rwy'n teimlo y gallaf edrych i fyw eu llygaid a dweud, 'rwyf innau wedi profi hynny hefyd' ac yn bwysicach fyth 'gallwch wella'. 

Ers y ddadl, rwyf wedi cytuno i fod yn Eiriolwr Amser i Newid ac rwyf wedi cynnal sesiwn Ymwybyddiaeth o Iechyd Meddwl ar gyfer staff yn y Cynulliad hefyd.  Rwyf hefyd wedi annog Democratiaid Rhyddfrydol Cymru i lofnodi Addewid Corfforaethol ar gyfer yr ymgyrch Amser i Newid. Mae'n hynod bwysig ein bod yn parhau i rannu'r neges gadarnhaol iawn bod iechyd meddwl yn rhywbeth cyffredin, ac nid yn destun cywilydd.

Nawr bod y mater allan yn hysbys, nid wyf yn teimlo bod gen i gyfrinach hyll i'w chuddio, ond yn fwy na hynny, gwn nawr nad oedd gen i'r fath beth erioed. Am y rheswm hwnnw, ar lefel bersonol, rwy'n hynod ddiolchgar i ymgyrch Amser i Newid.

 

Eluned Parrott yw Aelod Cynulliad y Democratiaid Rhyddfrydol Cymru ar gyfer Canol De Cymru. Fe siaradodd hi am ei profiadau o Iselder Ol-Enedigol mewn dadl yn y Senedd yn 2012.

Os ydych chi yn barod i siarad am eich profiadau chi o broblemau iechyd meddwl, mi allwch ddechre trwy darllen ein tips sirad!

Efallai hoffech

Gwena a Chwyd dy Law

Mae Naomi yn siarad am bwysigrwydd dweud yn union sut rydych chi'n teimlo pan fydd rhywun yn gofyn ‘Sut wyt ti?’ a'r holl ffyrdd y gallwch chi ateb y cwestiwn hwnnw.

20th February 2024, 8.47am | Ysgrifenwyd gan Naomi

Darganfyddwch fwy

Siarad, siarad, siarad!

Mae Samuel yn pwysleisio pwysigrwydd siarad am eich iechyd meddwl, yn enwedig ar adegau anodd, a sut mae siarad wedi achub ei fywyd.

20th February 2024, 8.43am | Ysgrifenwyd gan Samuel

Darganfyddwch fwy