Cynghorodd Dewi Sant ni i 'wneud y pethau bychain'. Gan y gall pethau bychain wneud gwahaniaeth mawr i bobl sydd â phroblemau iechyd meddwl, mae Dydd Gŵyl Dewi yn gyfle da i estyn llaw at ffrindiau, teulu a chydweithwyr.
Os oes rhywun sy'n agos atoch chi'n cael problemau iechyd meddwl, efallai y byddwch chi'n ansicr ynglŷn â sut i gynnig help iddyn nhw. Dyma rai enghreifftiau gan hyrwyddwyr Amser i Newid Cymru o bethau bychain mae pobl wedi'u gwneud i helpu pobl sydd â phroblemau iechyd meddwl.
"Un problem enfawr yn y byd iechyd meddwl yw unigedd. Rwy'n gallu fod mewn ystafell llawn ffrindiau ond yn teimlo fy mod i ar fy hun. Y newyddion da? Mae lot o pethau bychain ti'n gallu wneud i lleihau yr unigedd rwy'n teimlo:
1. Hala tecst neu neges ar lein i mi. Efallai dwi ddim yn teimlo fel mynd allan a cwrdd â ti, ond dwi'n croesawu neges wrthot ti fel dwi ddim yn teimlo mor unig.
2. Os wyt yn gweld fi tu allan i'r tŷ, mewn gwaith, er enghraifft, paid â bod yn ofn siarad â fi. Dim yn gwybod beth i ddweud? Dechrau gyda "Sut wyt ti?" Does dim rhaid fod yn rhywun arbennig er mwyn siarad am iechyd meddwl.
3. Paid ag anghofio cynnwys fi yn eich partis, noson allan ac yn y blaen. Mae'n hollol debyg byddai'n dweud "Na". Ond mae'n bwysig cofio fi fel rhan o'r grŵp. Ac unwaith, efallai byddai'n dweud "Ie!"" Louisa
"Mae'n rhywbeth mae unrhyw un yn gallu ei wneud.
Rhoi gwybod i rywun eich bod chi gerllaw a'ch bod chi'n deall.
Dod ynghyd a chwrdd â ffrindiau.
Chwerthin gyda'ch gilydd.
Dyma'r pethau bychain sy'n fy helpu i ddal ati." Anya
"Y pethau bychain yw’r pethau pwysicaf i mi – rhywyn yn cymryd amser i wrando pan dwi angen siarad, neu yn deall pryd i fod yn dawel pan dwi’n brwydro yn erbyn y sŵn yn fy mhen; i dreulio bach o amser 'da fi dros baned pan dwi'n teimlo'n drist, i wneud i mi chwerthin a rhoi gobaith y bydd pethau yn newid." Jo