Anorecsia

Dim angen bod a chywilydd: Perspectif tâd ar salwch meddwl

Fy enw i yw John ac yr wyf yn dad i Manon sydd yn dioddef o ‘anorexia/OCD’ ers dros ddeng mlynedd. Yn ystod y cyfnod y mae Manon wedi bod yn dioddef y mae wedi cael ei thrin mewn ysbyty sydd yn…

1st November 2013, 3.17pm | Ysgrifenwyd gan John Lewis

Fy enw i yw John ac yr wyf yn dad i Manon sydd yn dioddef o ‘anorexia/OCD’ ers dros ddeng mlynedd. Yn ystod y cyfnod y mae Manon wedi bod yn dioddef y mae wedi cael ei thrin mewn ysbyty sydd yn arbenigo yn y salwch ym Marlborough, Lloegr(tair gwaith am gyfanswm o ddeunaw mis), mewn ysbyty seiciatrig lleol a hefyd mewn ysbyty cyffredinol.

Yn ystod y cyfnod y mae Manon wedi bod yn dioddef,  mae f’yng ngwybodaeth am y salwch wedi datblygu o wybod dim byd i ddeall cryn dipyn. Yr wyf yn awyddus i sicrhau bod unrhyw un sydd yn amheus bod 'na rhywbeth o’i le ar ei blentyn neu rywun y meant yn ei hadnabod yn elwa o’m mhrofiad i a thrwy'r wybodaeth yr wyf am drosglwyddo yn medru ymdopi yn llawer gwell a’r sefyllfa na wnes i. Hefyd y gobeithiaf y byddant, drwy siarad â’r bobl iawn ddal gafael yn y salwch cyn iddo fynd i sefyllfa ddifrifol lle mae yn beryg bywyd i’r sawl sydd yn dioddef fel yr oedd yn fy sefyllfa i.

Mae yn rhaid i mi bwysleisio pwysigrwydd siarad. Fe ddaeth salwch Manon i glawr drwy waith da staff ei ysgol uwchradd lle'r oedd sawl enghraifft o’r salwch yn bodoli a thrwy gyfraniad ffrindiau da yn tynnu sylw at y ffaith na bod hi’n bwyta yn Ysgol. Yn edrych yn ôl yr oedd patrymau ymddygiad arall gan Manon a ddylai wedi peri gofid er enghraifft ymarfer corf gormodol, diffyg hunan hyder, gôr cydwybodol ac yn obsesiynol ynglŷn â gwaith ysgol a oedd yn arwain at iselder ysbryd ac yn gwrthod yn bendant newid o’r patrymau yma. Fy ymateb i am yr ymddygiad yma oedd ei fod yn rhan o dyfu fyny.

Mae'r cleifion sydd yn dioddef o anorexia yn y cyfnodau cynnar yn gwadu bod ganddynt broblem ac os nad ydych yn siarad ar bobl iawn y mae yn hawdd iawn i dderbyn bod dim byd o’i le a'i fod yn rhan o dyfu fyny. Siaradwch a’ch meddyg, nyrs yr Ysgol, rhywun sydd â phrofiad o’r salwch oherwydd y mae plant sydd yn dechrau dioddef o’r salwch yn dangos yr un fath o ymddygiad.

Mae angen hefyd bod yn agored  gyda’ch teulu llydan a ffrindiau oherwydd y mae adegau lle mae angen pob help ac sydd yn bosib

Os ydych mor anffodus o gael anorexia fel diagnosis i’ch plentyn fe fyddwch yn teimlo euogrwydd, bod yn ddiymadferth, rhwystredig a phob math o deimladau negyddol eraill oherwydd y teimlwch mai chi yw’r unig deulu sydd â phlentyn sydd yn dioddef o’r salwch. Hefyd oherwydd ei fod yn salwch meddyliol fe ofidiwch am y stigma sydd yn amgylchu'r fath salwch a sut mae hyn yn mynd i effeithio ar ddyfodol eich plentyn.

Y cysur mwyaf y ces i yn y cyfnod hwn oedd mynd i gyfarfod gofalwyr eraill a  drwy siarad dysgu bod fy mhlentyn ddim yn ‘freak’ a'i bod yn dangos yr un ymddygiad a mwyafrif dioddefwyr eraill ac mae dim ni fel teulu oedd ar fai. Dysgais fod rhaid ymladd i gael triniaeth a buodd yn rhaid siarad ag Aelod Cynulliad lleol cyn y caeth Manon fynd i ysbyty arbenigol, serch y ffaith bod ei meddyg ei hun yn rhagweld bod ei bywyd mewn peryg.

Trwy siarad fe ddysgais pa oedd y llyfrau gorau i ddarllen am y salwch ac mae hyn yn gallu bod yn gysur yn ogystal â dod o hyd i gleifion a oedd wedi dioddef o’r salwch ac wedi gwella a medru byw bywyd normal.

Mae angen hefyd bod yn agored  gyda’ch teulu llydan a ffrindiau oherwydd y mae adegau lle mae angen pob help ac sydd yn bosib ac oes nad ydych wedi siarad yn agored gyda’ch teuluoedd a ffrindiau ni fyddant yn deall ac fe allant wneud mwy o ddifrod na help. Mae’n rhaid egluro sut mae’r salwch yn effeithio ar y dioddefwr a chi fel teulu oherwydd y mae gofalu am rywun sydd yn dioddef o salwch meddyliol yn newid eich byd yn gyfan gwbwl ac mae help teuluoedd a ffrindiau yn angenrheidiol.

Y mae siarad â therapydd fel teulu am y ddwy flynedd ddiwetha' wedi gwella safon bywyd Manon yn eithriadol ac er ei bod heb wella o’r salwch y mae’r gwaith gwirfoddol y mae yn gwneud dros Amser i Newid Cymru a Beat Cymru wedi gwella ei hunan gred. Fe ddechreuodd hyn drwy siarad ar stondin Amser Newid Cymru yn Eisteddfod Bro Ogwr yn 2012.

Nid ‘freaks’ yw pobol sydd yn dioddef o salwch y meddwl ac yn ystod ei chyfnod yn yr ysbyty arbenigol fe sylweddolodd Manon a minnau drwy siarad â chleifion eraill bod salwch meddyliol yn  gallu effeithio ar unrhyw un heb ystyried ei hoedran, cefndir, gallu, dealltwriaeth a.y.b. ac yr oedd y rhan fwyaf o’r cleifion yno yn bobl alluog a deallus iawn. Felli does dim angen bod a chywilydd am ddioddef o salwch meddyliol.

Gwyliwch ein ffilm i gael rhagor o wybodaeth.

Efallai hoffech

Gwena a Chwyd dy Law

Mae Naomi yn siarad am bwysigrwydd dweud yn union sut rydych chi'n teimlo pan fydd rhywun yn gofyn ‘Sut wyt ti?’ a'r holl ffyrdd y gallwch chi ateb y cwestiwn hwnnw.

20th February 2024, 8.47am | Ysgrifenwyd gan Naomi

Darganfyddwch fwy

Siarad, siarad, siarad!

Mae Samuel yn pwysleisio pwysigrwydd siarad am eich iechyd meddwl, yn enwedig ar adegau anodd, a sut mae siarad wedi achub ei fywyd.

20th February 2024, 8.43am | Ysgrifenwyd gan Samuel

Darganfyddwch fwy