Pwy ydym ni

Amser i Newid Cymru yw'r ymgyrch genedlaethol gyntaf i roi diwedd ar y stigma a'r gwahaniaethu a wynebir gan bobl â phroblemau iechyd meddwl.

Cyflwynir ymgyrch Amser i Newid Cymru gan bartneriaeth o ddwy elusen iechyd meddwl arweiniol yng Nghymru.

  • Mind Cymru sy'n ymgyrchu dros newid yng Nghymru ar ran Mind. Mae popeth a wna ar sail profiad uniongyrchol pobl o drallod emosiynol, ac mae'n ymgyrchu'n egnïol i greu cymdeithas sy'n hyrwyddo iechyd meddwl da ac sy'n herio'r stigma sy'n gysylltiedig ag iechyd meddwl.
  • Mae Adferiad Recovery yn darparu cymorth i bobl agored i niwed yng Nghymru a’u teuluoedd a’u gofalwyr. Maent yn canolbwyntio’n benodol ar bobl â phroblemau iechyd meddwl, problemau camddefnyddio sylweddau, a’r rheini ag anghenion cymhleth sy’n cyd-ddigwydd.
"Pan rwy'n gwisgo bathodyn 'rhoi diwedd ar y stigma' Amser i Newid Cymru, mae'n annog pobl i ddod draw a thrafod iechyd meddwl." Laura, Hyrwyddwr Amser i Newid Cymru

Goruchwylir yr ymgyrch gan Fwrdd Rheoli Rhaglen sy'n cynnwys y Prif Weithredwyr neu'r Cyfarwyddwyr ac uwch aelodau staff allweddol o'r ddau sefydliad partner. Mae'r Bwrdd hefyd yn cynnwys pobl sydd â phrofiad ymarferol o broblemau iechyd meddwl ac unigolion sydd ag arbenigedd sy'n berthnasol i'r ymgyrch.

Ariennir yr ymgyrch gan Llywodraeth Cymru.

 Dewch yn Eiriolwr Amser i Newid Cymru.

Mae ein tystiolaeth wedi dangos bod rhannu profiadau a straeon bywyd gan bobl sydd wedi dioddef neu sy'n dioddef problemau iechyd meddwl ar hyn o bryd yn arwain at drawsnewid agweddau ac yn lleihau stigma a gwahaniaethu ymhlith y bobl y mae'r stori'n cael ei rhannu â nhw.

 Mae eiriolwyr a phobl sydd â phrofiad byw yn greiddiol i raglen Amser i Newid Cymru.

Gwyliwch y fideo yma i gael gwybod mwy.