Pythefnos i Gael Cymru i Siarad!

Ymgyrch yn y cyfryngau cymdeithasol yn 2012. Roedd Tachwedd 2012 yn adeg brysur iawn i ni. Gwnaethom helpu i drefnu dadl yn y Senedd am y stigma a'r gwahaniaethu sy'n gysylltiedig ag iechyd meddwl a gwnaethom lansio ein hymgyrch fawr gyntaf yn y cyfryngau cymdeithasol, Pythefnos i Gael Cymru i Siarad!

Ein nod oedd annog cynifer o bobl â phosibl i wneud yr hyn a wnaeth pedwar Aelod Cynulliad yn y Senedd - sef dechrau sgwrs am iechyd meddwl er mwyn helpu i roi diwedd ar y stigma. Mae'r negeseuon a gawsom yn dyst i lwyddiant yr ymgyrch honno. Rhannodd rhai pobl eu profiadau eu hunain neu siaradodd rhai â ffrindiau ac aelodau o'r teulu am iechyd meddwl am y tro cyntaf erioed.

“Dywedodd rhywun wrthyf yn gymharol ddiweddar y bydd un o bob pedwar person yn dioddef o salwch meddwl ar ryw adeg yn eu bywyd. A dyna'r foment y sylweddolais nad oedd yr hyn yr oeddwn wedi ei ddioddef rai blynyddoedd ynghynt mor rhyfedd neu anghyffredin ag yr oeddwn wedi'i feddwl.” Llyr Huws Gruffydd, Aelod Cynulliad Plaid Cymru ar gyfer Gogledd Cymru ac eiriolwr Amser i Newid Cymru
"Byddai CYMAINT yn haws pe bawn i wedi torri coes neu rywbeth" Cael Cymru i Siarad am iechyd meddwl er mwyn rhoi diwedd ar y stigma #GetWalesTalking #mentalhealth #EndStigma Neges trydar TWTGWT

Mwy o wybodaeth

Siarad am Iechyd Meddwl

Siarad am Iechyd Meddwl

Gall ychydig eiriau wneud gwahaniaeth mawr. Peidiwch â bod ag ofn siarad am iechyd meddwl!

Darganfyddwch fwy
Ymunwch â'n mudiad

Ymunwch â'n mudiad

Gallwch wneud rhywbeth nawr er mwyn helpu i roi diwedd ar y stigma a'r gwahaniaethu sy'n gysylltiedig ag iechyd meddwl…

Darganfyddwch fwy
Dod yn eiriolwr

Dod yn eiriolwr

Hyrwyddwyr yw'r bobl sydd â phrofiad o broblemau iechyd meddwl ac sy'n arwain yr ymgyrch.

Darganfyddwch fwy