Amser i Newid Cymru ac S4C yn cyhoeddi partneriaeth i herio stigma iechyd meddwl

Mae Amser i Newid Cymru ac S4C yn falch o gyhoeddi partneriaeth, fydd yn arwain at wythnos ymwybyddiaeth iechyd meddwl, Mai 12 – 18.

9th May 2014, 12.22pm

Mae Amser i Newid Cymru ac S4C yn falch o gyhoeddi partneriaeth, fydd yn arwain at wythnos ymwybyddiaeth iechyd meddwl, Mai 12 – 18.

Pwrpas yr wythnos yw i annog pobl i siarad ynghylch iechyd meddwl, a chodi ymwybyddiaeth o’r salwch, pwnc sydd yn dal i fod yn dabŵ yng Nghymru. 

Mi fydd S4C yn darlledu nifer o raglenni sy’n trafod iechyd meddwl dros yr wythnos, gan gynnwys rhaglen ddogfen Cysgod Rhyfel sy’n sôn am brofiadau cyn-filwyr sydd wedi dioddef o straen yn dilyn eu profiadau mewn rhyfeloedd (PTSD). Darlledir rhaglen hefyd sy’n olrhain stori Owain Gwynedd, sy’n adnabyddus fel un o gyflwynwyr Stwnsh a chyflwynydd chwaraeon yn Iselder: Un Cam ar y Tro, wrth iddo drafod iselder ac hunan-laddiad ei dad yn gyhoeddus am y tro cyntaf.

Dywedodd Ant Metcalfe, Rheolwr Rhaglen Amser i Newid Cymru:

“Mae’r bartneriaeth yma gyda S4C yn gyfle cyffrous i herio’r stigma sy’n gysylltiedig â salwch meddwl. Maen gyfle i ni ddangos i bobl Cymru fod gwneud pethau bach fel mynd am baned neu ofyn ‘sut wyt ti’n teimlo?’ yn gallu gwneud gwahaniaeth mawr i rywun sy’n delio â phroblem iechyd meddwl - does dim rhaid bod yn arbenigwr i fod yn ffrind. “

Dywedodd Llion Iwan, Comisiynydd Cynnwys S4C

“Dyma gyfres o raglenni sy'n galluogi’r gynulleidfa i rannu profiadau nifer o bobl sydd wedi dioddef problemau iechyd meddwl, ac i wybod am yr effeithiau ar eu teuluoedd hefyd. Yn aml mae hyn yn digwydd tu nôl i ddrysau, ac mae rhannu profiadau yn gymorth i rai sy’n dioddef ac yn fodd i ni’r gynulleidfa i ddysgu a gwerthfawrogi'r hyn y maent yn ei wynebu hefyd. Fel darlledwr rydym yn falch fod y rhaglenni hyn yn medru cyfrannu tuag at weithgareddau wythnos iechyd meddwl.”

Gall pawb wneud rhywbeth i fod yn rhan o’r wythnos drwy ddechrau siarad am iechyd meddwl o fewn eu teuluoedd neu yn y gweithle. Mae yna awgrymiadau defnyddiol ar wefan Amser i Newid Cymru i’ch helpu i ddechrau sgwrs. Mi allwch hefyd ddangos eich cefnogaeth drwy chwilio am Amser i Newid Cymru ar y we ac ar Facebook a Twitter i ymuno â’r sgwrs ar-lein.”

Bydd Amser i Newid Cymru yn gweithio gyda S4C i hyrwyddo’r wythnos ac yn hysbysebu ar y sianel, yn ogystal â defnyddio’r cyfryngau cymdeithasol i godi ymwybyddiaeth, rhannu straeon pobl sydd yn byw gyda phroblemau iechyd meddwl ac i ddechrau sgwrs.

1 o bob 4
Nos Fercher 14 Mai 9.30, S4C
Isdeitlau Saesneg

Iselder : Un Cam ar y Tro
Nos Iau 15 Mai 9.30, S4C
Isdeitlau Saesneg

Cysgod Rhyfel
Nos Sul 18 Mai 9:00, S4C
Isdeitlau Saesneg

Newyddion 9
Nos Lun i Nos Wener 12-16 Mai, S4C
Isdeitlau Saesneg

Lois
Nos Sul, 18 Mai 10:00, S4C
Isdeitlau Saesneg

S4C-Daily-Post-Strip---full-width.png

Efallai hoffech

Mae dros hanner (58%) o boblogaeth Cymru yn credu bod yna lawer iawn o gywilydd o hyd yn gysylltiedig â chyflyrau iechyd meddwl

Dyma pam mae Cynghrair Gwrth-Stigma y DU – partneriaeth rhwng elusennau iechyd meddwl ar draws y DU – wedi lansio ei hymgyrch Os yw hi’n Oce.

12th March 2024, 12.00am

Darganfyddwch fwy

Mae 68% o bobl Cymru yn cuddio y tu ôl i ‘wyneb dewr’ er mwyn osgoi siarad am iechyd meddwl

Mae data newydd yn datgelu tuedd sy’n peri pryder yng Nghymru, lle mae 68% o bobl yn gwisgo ‘wyneb dewr’ er mwyn osgoi siarad am eu hiechyd meddwl ar adegau anodd.

1st February 2024, 8.00am | Ysgrifenwyd gan Hanna

Darganfyddwch fwy