Rhaglen ddogfen S4C yn derbyn enwebiad Mind Media

Mae'r rhaglen ddogfen Iselder: Un Cam Ar Y Tro, a gafodd ei chynhyrchu gan gwmni teledu Rondo Media ar gyfer S4C, ar y rhestr fer yn y categori Teledu Ffeithiol. Cafodd y rhaglen ddogfen ei darlledu…

18th September 2014, 6.23pm

Rhaglen ddogfen S4C yn derbyn enwebiad Mind Media

Mae rhaglen ddogfen bwerus S4C am gwest mab i ddysgu mwy am broblemau iechyd meddwl ei ddiweddar dad wedi cyrraedd rhestr fer gwobrau Mind Media 2014.

Mae'r rhaglen ddogfen Iselder: Un Cam Ar Y Tro, a gafodd ei chynhyrchu gan gwmni teledu Rondo Media ar gyfer S4C, ar y rhestr fer yn y categori Teledu Ffeithiol.

Mae'r rhaglen ddogfen yn dilyn y cyflwynydd rhaglenni plant a chwaraeon 30 mlwydd oed, Owain Gwynedd Griffith wrth iddo siarad yn agored am y tro cyntaf am sut y gwnaeth iselder ei dad effeithio ar y teulu.

Pan oedd Owain ond yn bythefnos oed, fe wnaeth ei dad, Tudor, gyflawni hunan laddiad, gan adael gwraig a thri mab o dan saith oed.

Er mwyn cael gwell ddealltwriaeth am gyflwr ei dad, fe wnaeth Owain, sy'n hanu o Borthmadog a bellach yn byw yng Nghaerdydd, siarad ag arbenigwyr meddygol a phobl sy'n byw gydag iselder. Mae hefyd yn edrych ar y gwaith ymchwil diweddaraf a thriniaethau ar gyfer iselder.

Cafodd y rhaglen ddogfen ei darlledu yn gyntaf ym mis Mai eleni fel rhan o Wythnos Ymwybyddiaeth Iechyd Meddwl S4C, mewn partneriaeth â'r ymgyrch Amser i Newid Cymru.

Mae seremoni wobrwyo Mind Media, i'w chynnal yn Sefydliad Ffilm Prydain, Llundain ar ddydd Llun 17 Tachwedd, yn anrhydeddu rhaglenni sy’n trin a thrafod iechyd meddwl mewn ffyrdd pwerus yn y cyfryngau.

Meddai Cyfarwyddwr Cynnwys S4C, Dafydd Rhys, "Rydym yn ymfalchïo mewn darlledu rhaglenni sy'n herio’r rhagdybiaethau am bobl a chymdeithas.  Mae'r rhaglen ddogfen hon yn mynd i'r afael â phwnc y mae llawer o bobl yn dal yn ei chael hi’n anodd ei drafod. Un o uchafbwyntiau Wythnos Ymwybyddiaeth Iechyd Meddwl S4C oedd y portread dewr a gonest hwn a oedd yn dangos sut mae problemau iechyd yn gallu bwrw cysgod ar fywyd teulu."

Meddai Caryl Ebenezer, cynhyrchydd y rhaglen yn Rondo Media, “Rydyn ni yn falch iawn fod Iselder : Un Cam ar y Tro wedi cael ei enwebu ar gyfer gwobrau Mind.  ‘Roedd yn fraint i gael gweithio gydag unigolion oedd mor barod i rannu eu profiadau personol.  Mae'n bwysig fod pynciau anodd fel hyn yn cael eu trafod yn agored ar y cyfryngau i leihau'r stigma sy'n gysylltiedig â salwch meddwl, ac i helpu unigolion a’u teuluoedd sy’n dioddef."

Ychwanegodd Ant Metcalfe, Rheolwr Rhaglen Amser i Newid Cymru, "Mae Amser i Newid Cymru yn hynod o falch ein bod wedi gweithio mewn partneriaeth â S4C ar gyfer Wythnos Ymwybyddiaeth Iechyd Meddwl y sianel ac wrth ein bodd bod Iselder: Un Cam ar y Tro wedi cael ei henwebu ar gyfer gwobr Mind Media 2014.  Fe wnaeth y rhaglen hon a rhaglenni eraill yr wythnos helpu codi ymwybyddiaeth am iechyd meddwl a thaclo’r stigma a rhagfarn sy’n dal yn gysylltiedig ag agweddau pobl at iechyd meddwl. Dim ond trwy onestrwydd cyfranwyr i raglenni fel hyn y gall drafod iechyd meddwl ddod yn beth naturiol o fewn cymdeithas."

 Yng ngwobrau Mind Media, bydd rhaglen S4C yn wynebu cystadleuaeth gan chwe rhaglen ddogfen arall, mwy nag erioed o'r blaen gan fod y safon mor uchel. Mae’r rhestr fer yn cynnwys cyfresi megis Bedlam ar Channel 4 a Panorama ar BBC.

Bydd y panel beirniaid  yn cynnwys arbenigwyr o’r diwydiant cyfryngau, ynghyd â darlledwyr adnabyddus fel cyflwynydd y BBC Sian Williams, newyddiadurwr Channel 4 News Victoria MacDonald a chyflwynydd Men’s Hour Radio 5 Tim Samuels.

 

S4C-Daily-Post-Strip---full-width.png

Efallai hoffech

Mae dros hanner (58%) o boblogaeth Cymru yn credu bod yna lawer iawn o gywilydd o hyd yn gysylltiedig â chyflyrau iechyd meddwl

Dyma pam mae Cynghrair Gwrth-Stigma y DU – partneriaeth rhwng elusennau iechyd meddwl ar draws y DU – wedi lansio ei hymgyrch Os yw hi’n Oce.

12th March 2024, 12.00am

Darganfyddwch fwy

Mae 68% o bobl Cymru yn cuddio y tu ôl i ‘wyneb dewr’ er mwyn osgoi siarad am iechyd meddwl

Mae data newydd yn datgelu tuedd sy’n peri pryder yng Nghymru, lle mae 68% o bobl yn gwisgo ‘wyneb dewr’ er mwyn osgoi siarad am eu hiechyd meddwl ar adegau anodd.

1st February 2024, 8.00am | Ysgrifenwyd gan Hanna

Darganfyddwch fwy