Arwain Newid

Rydym wedi bod yn dathlu ein cyflawniadau dros y dair blynedd ddiwethaf a marcio ein trydydd penblwydd mewn digwyddiad a gynhaliwyd yn adeilad y Pierhead ym Mae Caerdydd yr wythnos hon.

27th March 2015, 5.17pm

Rydym wedi bod yn dathlu ein cyflawniadau dros y dair blynedd ddiwethaf a marcio ein trydydd penblwydd mewn digwyddiad a gynhaliwyd yn adeilad y Pierhead ym Mae Caerdydd yr wythnos hon.

Yn 2012 – 2015 roeddem yn:

  • Cynhyrchu newid cadarnhaol o 3.5% yn agwedd y cyhoedd ers 2012
  • Estyn allan i dros 19miliwn o bobl drwy ymgyrchoedd marchnata cymdeithasol
  • Gweithio gyda dros 250 o sefydliadau gyda dros 50 yn llofnodi’r Addewid Sefydliadol gyda’r ymgyrch
  • Datblygu rhwydwaith o 300+ o eiriolwyr

for_web_Pierhead_006_for_web.jpg

Agorwyd y digwyddiad gan ein Rheolwr Rhaglen, Ant Metcalfe, gan siarad am y sylfaen gryf a adeiladwyd a’r cynnydd hyd yn hyn, ond hefyd gan atgoffa pawb mai gwaith cenhedlaeth yw dod â’r stigma y mae pobl gyda phroblemau iechyd meddwl yng Nghymru yn ei wynebu i ben. 

Roedd y Dirprwy Weinidog Iechyd, Vaughan Gething AC yn ymuno â ni ar y diwrnod ac yn talu teyrnged i’r ymgyrch gan siarad am yr angen parhaus i herio stigma: “Mae Llywodraeth Cymru yn dal yn ymrwymedig i daclo’r stigma a’r gwahaniaethu annerbyniol a wynebir gan bobl gyda phroblemau iechyd meddwl yng Nghymru. Mae cynnydd da wedi’i wneud ac rydw i’n dymuno pob llwyddiant i Amser i Newid Cymru ar gyfer ail gyfnod yr ymgyrch.”

Roeddem wedyn yn gwahodd i’n heiriolwyr ddod at y llwyfan i siarad am eu cyfranogaeth yn yr ymgyrch dros y dair blyne

dd ddiwethaf. Trafododd Eiriolwr Andrew Dugmore beth y mae cyfranogi yn yr ymgyrch wedi golygu iddo ef:

“Mae Amser i Newid Cymru wedi rhoi platfform i mi siarad am, rhannu a deall fy siwrne. Erbyn hyn mae gen i mwy o hyder i siarad yn agored am fy mhroblemau iechyd meddwl heb deimlo cywilydd na siom am fy mhrofiadau.”

Roedd eiriolwr arall a gymerodd rhan yn y digwyddiad, Karen Morgan, yn siarad am sut oedd yr ymgyrch yn ei helpu i gael ei bywyd yn ôl:

“Mae Amser i Newid Cymru wedi rhoi fy mywyd yn ôl i mi. Rydw i wedi mynd o fod mewn cyflwr meddwl gwael iawn i gael mwy o hyder a hunan-barch nag erioed o’r blaen.” 

for_web_Pierhead_076.jpgRoedd ail hanner y digwyddiad yn canolbwyntio ar ein gwaith gyda phrif gyflogwyr, a fydd yn ffocws gryf ar gyfer ail gyfnod yr ymgyrch hefyd. Roeddem wrth ein bodd i gael cynrychiolwyr o BITC, Admiral, Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda a DVLA gyda ni i rannu eu profiad o weithio gydag Amser i Newid Cymru, llofnodi’r Addewid a herio stigma yn y gweithle.

Daeth y diwrnod i ben gyda pherfformiad o bedair cân gan Gôr Admiral Inspire a oedd yn cynnwys fersiwn arbennig o gyffrous o ‘Don’t Stop Me Know’ sef sut rydym yn gobeithio bod pawb a oedd yn gadael y digwyddiad yn teimlo. Yn barod i fynd allan a thaclo stigma!

 

for_web_Pierhead_142.jpg

 

Efallai hoffech

Mae dros hanner (58%) o boblogaeth Cymru yn credu bod yna lawer iawn o gywilydd o hyd yn gysylltiedig â chyflyrau iechyd meddwl

Dyma pam mae Cynghrair Gwrth-Stigma y DU – partneriaeth rhwng elusennau iechyd meddwl ar draws y DU – wedi lansio ei hymgyrch Os yw hi’n Oce.

12th March 2024, 12.00am

Darganfyddwch fwy

Mae 68% o bobl Cymru yn cuddio y tu ôl i ‘wyneb dewr’ er mwyn osgoi siarad am iechyd meddwl

Mae data newydd yn datgelu tuedd sy’n peri pryder yng Nghymru, lle mae 68% o bobl yn gwisgo ‘wyneb dewr’ er mwyn osgoi siarad am eu hiechyd meddwl ar adegau anodd.

1st February 2024, 8.00am | Ysgrifenwyd gan Hanna

Darganfyddwch fwy